Gwylio S4C ar deledu, S4C Clic a BBC iPlayer.
Fiji fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru ar 10 Tachwedd, cyn i Gymru groesawu Awstralia ar ddydd Sul 17 Tachwedd. Yr gêm olaf i dîm Warren Gatland fydd yn erbyn Pencampwyr Cwpan Rygbi’r Byd 2023, De Affrica, a hynny ar ddydd Sadwrn 23 Tachwedd. Bydd tair gêm Cymru yng Nghyfres yr Hydref yn cael eu chwarae yn Stadiwm Principality.
Meddai Graham Davies, Pennaeth Chwaraeon S4C: “Mae’n wych gallu cyhoeddi y bydd Gemau’r Hydref tîm dynion Cymru yn fyw ar S4C am y ddwy flynedd nesaf, gan ddangos mai S4C yw Cartref Chwaraeon Cymru.
“Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw rygbi Cymru, a’r gemau rhyngwladol, i’n cynulleidfaoedd, ac rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Warner Bros. Discovery.
“Rydym yn ddiolchgar i gael y cyfle i gynnig y gemau yma am ddim, yn Gymraeg, ar S4C.”
Meddai Trojan Paillot, Uwch Is-Lywydd Caffaeliadau a Syndicetiau Hawliau Chwaraeon yn Warner Bros. Discovery Sports Europe: “Am y tro cyntaf, bydd TNT Sports yn dangos pob un o’r 21 gêm yng Nghyfres yr Hydref yn fyw ar eu llwyfannau fis Tachwedd eleni, sydd, ynghyd â darlledu pob gêm o Uwch Gynghrair Gallagher, yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gyrchfan i gefnogwyr rygbi sydd am wylio’r gemau mwyaf cyffrous sydd gan rygbi byd-eang i’w cynnig.
“Mae cyd-ddarlledu gemau tîm cenedlaethol Cymru yn erbyn Fiji, Awstralia a De Affrica ochr yn ochr â phartner rhagorol fel S4C yn cyd-fynd â’n huchelgais i sicrhau bod y dair gêm rhyngwladol hynny ar gael mor eang â phosibl i wylwyr yng Nghymru.”
Bydd S4C yn darlledu Cyfres yr Hydref yn Gymraeg. Bydd TNT Sports a discovery+ yn darlledu’r gemau â sylwebaeth Saesneg.