Neidio i'r prif gynnwys
Alex with award

Alex Callender yn ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn

Mae Alex Callender – sydd wedi ennill 38 o gapiau dros ei gwlad – wedi ei henwi’n Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas Ysgrifenwyr Rygbi Cymru. Capten y garfan ryngwladol Hannah Jones a Jamsine Joyce, gynrychiolodd dîm Saith Bob Ochr Prydain yn y Gemau Olympaidd dros yr haf oedd y ddwy arall ar y rhestr fer.

Rhannu:

Cyflwynwyd y wobr i Callender cyn iddi ddal yr awyren i Dde Affrica ble bydd Cymru’n chwarae tair gêm brawf mewn tair wythnos yn y WXV2 yn Cape Town. Yn dilyn eu buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Awstralia yn Rodney Parade nos Wener – y Wallaroos fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yn y WXV ddydd Sadwrn y 29ain o Fis Medi – gyda gemau’n erbyn Yr Eidal a Japan i ddilyn.

Bu Alex Callender yn gapten ar Brython Thunder yn yr her Geltaidd y llynedd – cyn iddi symud i’r Harlequins yn Lloegr ar gyfer blwyddyn Cwpan y Byd gydd yn cael ei chynnal yno.

Dyma’r drydedd flwyddyn i’r wobr gael ei chyflwyno – Alisha Butchers a Sisilia Tuipulotu yw’r ddwy arall i gael eu cydnabod.

Dywedodd Alex Callender: “Mae’n fraint enfawr ennill y wobr yma. Ro’n i’n gwybod bod Alisha a Sisilia wedi ei hennill o’r blaen ond doeddwn i ddim yn meddwl am eiliad y buaswn i’n ennill!

“Er nad oedd ein canlyniadau’n wych y tymor diwethaf – yn enwedig yn ystod y Chwe Gwlad – fe gefais dymor reit dda ar lefel bersonol ac rwy’n edrych ymlaen at wella ar hynny eto eleni.

“Byddai fy mam wedi bod yn arbennig o falch o’r wobr yma. Er nad ydi hi gyda ni bellach – hi yw fy ysbrydoliaeth o hyd pan fyddai’n chwarae unrhyw gêm. Mae gweddill y teulu hefyd yn arbennig o gefnogol i fy nghyrfa ac rwy’n hynod o ddiolchgar am hynny.

“Yn amlwg ‘ry’n ni eisiau ennill y WXV2 yn Cape Town ac fe roddodd ein buddugoliaeth gyntaf erioed yn erbyn Awstralia hyder mawr i ni. Mae’n rhaid i ni anelu at allu cystadlu gyda gwledydd gorau’r byd sef Seland Newydd, Ffrainc a Lloegr a byddai ennill y WXV2 yn gam pendant i’r cyfeiriad cywir.”

Mae blwyddyn brysur iawn o rygbi ar y gorwel i Fenywod Cymru. Bydd y Chwe Gwlad yn digwydd yn y gwanwyn cyn i Gwpan y Byd gael ei gynnal yn Lloegr. Wedi hynny mae’n bosib iawn y bydd taith gyntaf erioed y Llewod i fenywod yn digwydd yn Seland Newydd – datblygiad sy’n cael ei groesawu’n fawr gan Alex Callender:

“Mae’r posibilrwydd o gynrychioli’r Llewod yn arbennig o gyffrous ac fe fydd hynny’n bendant yn rhoi ychydig mwy o awch i bawb mewn blwyddyn anhygoel o rygbi i fenywod. Ond er mor anhygoel fyddai cynrychioli’r Llewod – maen rhaid i ni ganolbwyntio’n gyntaf ar y WXV cyn troi’n golygon at y Chwe Gwlad ac yna Gwpan y Byd.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Alex Callender yn ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Alex Callender yn ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn
Alex Callender yn ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Alex Callender yn ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Alex Callender yn ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn