Neidio i'r prif gynnwys
Keira Bevan

Keira Bevan in action for Wales against Scotland in the Guinness Six Nations

Bevan yn gapten a Butchers ar fin cyrraedd carreg filltir

Chwaraewyr cysylltiedig

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham, wedi enwi’r tîm i wynebu’r Alban yn Stadiwm Hive, Murrayfield, Caeredin, ddydd Gwener, 6 Medi (7.35pm).

Rhannu:

Mae tîm ifanc Cymru, yn cynnwys thri chap newydd posib wrth i’r garfan baratoi ar gyfer gemau’r WXV yn yr Hydref.

Mae Ioan Cunningham wedi gwneud naw newid i’r tîm gurodd Sbaen 52-20 ym Mharc yr Arfau Caerdydd ddiwedd mis Mehefin – welodd Cymru’n hawlio’u lle yn y WXV2 yn Ne Affrica yn ddiweddarach eleni.

Bydd y mewnwr profiadol Keira Bevan yn gapten ar y tîm am y tro cyntaf ar gyfer yr ymweliad â phrifddinas yr Alban – a bydd y blaenasgellwr Alisha Butchers yn ennill ei 50fed cap – os y caiff hi ei galw oddi ar y fainc.

Bydd y prop Maisie Davies, y bachwr Rosie Carr a’r clo Alaw Pyrs, a chwaraeodd dros dîm o dan 20 oed Cymru yng Ngŵyl y Chwe Gwlad yn yr Eidal yn ddiweddar, yn ennill eu capiau llawn cyntaf – os y byddant yn camu o’r fainc.

Bydd Bevan yn ffurfio partneriaeth brofiadol gyda’r maswr Robyn Wilkins, a bydd digon o brofiad yng nghanol y cae hefyd gyda Kerin Lake a Meg Webb wedi eu dewis i chwarae yno.

Mae’r clo Gwen Crabb yn dychwelyd o anaf. Natalia John fydd yn yr ail reng gyda hi, tra bydd Kate Williams yn ymuno â Bethan Lewis a’r wythwr Gwennan Hopkins yn y rheng ôl. Dyma fydd y tro cyntaf i Hopkins ddechrau gêm dros ei gwlad.

Fe grëodd Jasmine Joyce ychydig o hanes fis diwethaf wrth iddi gynrychioli Prydain yn ei thrydedd Gemau Olympaidd – y chwaraewr rygbi cyntaf i wneud hynny dros Brydain. Mae Joyce yn dychwelyd yn syth i’r tîm i gymryd ei lle ar yr asgell.

Catherine Richards fydd ar yr asgell arall gyda Jenny Hesketh yn gwisgo’r crys rhif 15.

Gwenllian Pyrs, Molly Reardon a Sisilia Tuipulotu sy’n ffurfio rheng flaen Cymru – ac os y caiff Alaw Pyrs ei galw o’r fainc yng Nghaeredin – hi a Gwenllian fydd y chwiorydd cyntaf i gynrychioli Cymru yn yr un gêm ers i’r efeilliaid Claire a Louise Horgan bropio dros y Crysau Cochion yn erbyn Ffrainc yn 2008.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru,: “Mae’n ddechrau tymor newydd ac ry’n ni’n gwybod bod angen i ni roi mwy o brofiad i rai o’n chwarewyr yng nghrochan rygbi rhyngwladol.

“Mae angen i ni wneud yn siwr bod gennym fwy o arweinwyr ar y maes ac yn y garfan hefyd – fel y gallwn rannu’r cyfrifoldebau rhwng y chwaraewyr. All hynny ond bod o fudd i ni wrth i ni edrych ymlaen at Gwpan y Byd y flwyddyn nesaf.

“Ry’n ni’n mynd i roi cyfle i rai chwaraewyr newydd yn y gêm hon – gan eu bod nhw wedi perfformio’n arbennig o dda wrth ymarfer ac yng nghystadleuaeth o dan 20 y Chwe Gwlad yn ddiweddar. Bydd hwn yn gyfle iddyn nhw ddangos beth y maen nhw’n gallu ei wneud ar y lefel uchaf. Fel hyfforddwyr a staff, ry’n ni’n gwybod bod angen i ni sicrhau bod mwy o ddyfnder yn ein carfan a mwy o gystadleuaeth yn y gwahanol safleoedd hefyd.

“Mae’r Alban yn dîm ry’n ni’n eu hadnabod yn dda, ac mae’r chwaraewyr i gyd yn ymwybodol iawn bod yna lefydd yn y WXV2 yn Ne Affrica yn y fantol o hyd.

“Mae Keira Bevan yn chwaraewr rhyngwladol profiadol ac mae hi wedi ei dewis yn gapten ar gyfer y gêm hon. Mae Maisie Davies, Rosie Carr ac Alaw Pyrs, wnaeth ymarfer gyda ni yn ystod y Chwe Gwlad, i gyd wedi hawlio’u lle yn y garfan hon ar ôl eu perfformiadau yng Ngŵyl y Chwe Gwlad dan 20 yn Parma yn ddiweddar.

“Os y daw Alaw i’r maes i gynrychioli ei gwlad – gyda’i chwaer hŷn Gwenllian eisoes ar y cae – bydd honno’n foment arbennig i’r ddwy ohonyn nhw ac i’r teulu i gyd.”

Menywod Cymru fydd y tîm cenedlaethol cyntaf i wisgo cit newydd oddi cartref Undeb Rygbi Cymru a Macron yn yr ornest hon yn erbyn Yr Alban. Bydd tîm y Menywod hefyd yn gwisgo’r cit cartref newydd am y tro cyntaf – a hynny gyda’r siorts coch sy’n wahanol i siorts gwyn y Dynion – yn erbyn Awstralia yn Rodney Parade, ddydd Gwener, 20 Medi.

Carfan Cymru i wynebu’r Alban
Jenny Hesketh, Catherine Richards, Meg Webb, Kerin Lake, Jasmine Joyce, Robyn Wilkins, Keira Bevan (capt): Gwenllian Pyrs, Molly Reardon, Sisilia Tuipulotu, Natalia John, Gwen Crabb, Kate Williams, Bethan Lewis, Gwennan Hopkins

Eilyddion: Rosie Carr, Maisie Davies, Donna Rose, Alaw Pyrs, Alisha Butchers, Sian Jones, Lleucu George, Nel Metcalfe

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Bevan yn gapten a Butchers ar fin cyrraedd carreg filltir
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Bevan yn gapten a Butchers ar fin cyrraedd carreg filltir
Bevan yn gapten a Butchers ar fin cyrraedd carreg filltir
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Bevan yn gapten a Butchers ar fin cyrraedd carreg filltir
Rhino Rugby
Sportseen
Bevan yn gapten a Butchers ar fin cyrraedd carreg filltir
Bevan yn gapten a Butchers ar fin cyrraedd carreg filltir
Bevan yn gapten a Butchers ar fin cyrraedd carreg filltir
Bevan yn gapten a Butchers ar fin cyrraedd carreg filltir
Bevan yn gapten a Butchers ar fin cyrraedd carreg filltir
Bevan yn gapten a Butchers ar fin cyrraedd carreg filltir
Amber Energy
Opro
Bevan yn gapten a Butchers ar fin cyrraedd carreg filltir