Neidio i'r prif gynnwys
Hannah Jones

Hannah Jones of Wales, during warm up

Cunningham yn cyhoeddi newidiadau i wynebu’r Wallaroos nos Wener

Mae Prif Hyfforddwr Menywod Cymru, Ioan Cunningham wedi enwi ei dîm i wynebu Awstralia yn  yn Rodney Parade, Casnewydd, ddydd Gwener, 20 Medifed (CG:7pm) yng ngêm baratoadol olaf ei garfan cyn cystadlu yn y WXV2 ddiwedd y mis.

Y mewnwr Keira Bevan fydd yn gapten ar y tîm sy’n cynnwys chwe newid i’r pymtheg ddechreuodd yn erbyn Yr Alban yng Nghaeredin bythefnos yn ôl.

Rhannu:

Rosie Carr fydd yn bachu – gan ddechrau ei gêm gyntaf dros ei gwlad – gyda Gwenllian Pyrs a Sisilia Tuipulotu yn propio’r naill ochr a’r llall iddi. Abbie Fleming a Georgia Evans sydd wedi eu dewis yn yr ail reng.

Mae’r blaenasgellwr Bryonie King, oedd yn gapten ar Gwalia Lightning y tymor diwethaf, wedi ei dewis yn y rheng ôl ynghŷd â Kate Williams a Bethan Lewis.
Keira Bevan a Lleucu George fydd yn dechrau fel haneri, tra bydd Hannah Bluck a Carys Cox yn bartneriaid yng nghanol y cae.

Jasmine Joyce a Nel Metcalfe fydd ar yr esgyll gyda Jenny Hesketh yn cwblhau tri ôl cyffrous i wynebu’r Wallaroos.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Gyda’r garfan ar gyfer y WXV wedi’i dewis, ‘ry’n ni wedi enwi tîm profiadiol i herio Awstralia yn Rodney Parade nos Wener.

“Mae’r chwaraewyr wedi gweithio’n galed wrth ymarfer, ac mae hwn yn gyfle gwych i weld ble maen nhw’n gorfforol cyn i ni deithio i Dde Affrica.

“Mae Bryonie King a Hannah Bluck wedi creu argraff fawr yn y sesiynau ymarfer diweddar, ac ry’n ni’n disgwyl perfformiadau mawr gan Abbie Fleming a Georgia Evans yn yr ail reng hefyd.

“Fe fuon ni’n ymarfer gyda’r Black Ferns ganol wythnos cyn iddyn nhw chwarae Lloegr, ac fe roddodd hynny syniad da i ni o ble ry’n ni fel carfan ar hyn o bryd.

“Fe gawson ni gêm agos y tro diwethaf i ni wynebu Awstralia yn y WXV1 y llynedd – ond wedi iddyn nhw golli’n erbyn Iwerddon y penwythnos diwethaf – fe fyddan nhw’n benderfynol i wneud yn iawn am y golled honno. Mae’n bwysig cofio eu bod nhw dal yn un o chwe thîm gorau’r byd o hyd.

“Bydd Awstralia a ninnau’n edrych am berfformiad da nos Wener – cyn i ni wynebu’n gilydd unwaith eto yn y WXV mas yn Cape Town ymhen rhyw bythefnos.”

Gwnaed y penderfyniad i orffwyso Hannah Jones – fydd yn arwain y garfan ar gyfer y WXV yn Ne Affrica, a’r bachwr profiadol Carys Phillips ar gyfer y gêm yn Rodney Parade nos Wener – ond bydd y ddwy ar gael ar gyfer y gêm gyntaf yn Cape Town ddiwedd y mis.

Tîm Cymru i wynebu Awstralia
Jenny Hesketh, Jasmine Joyce, Carys Cox, Hannah Bluck, Nel Metcalfe, Lleucu George, Keira Bevan (capten); Gwenllian Pyrs, Rosie Carr, Sisilia Tuipulotu, Abbie Fleming, Georgia Evans, Bryonie King, Kate Williams, Bethan Lewis
Eilyddion: Molly Reardon, Abbey Constable, Donna Rose, Natalia John, Alisha Butchers, Sian Jones, Kayleigh Powell, Courtney Keight

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cunningham yn cyhoeddi newidiadau i wynebu’r Wallaroos nos Wener
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cunningham yn cyhoeddi newidiadau i wynebu’r Wallaroos nos Wener
Cunningham yn cyhoeddi newidiadau i wynebu’r Wallaroos nos Wener
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cunningham yn cyhoeddi newidiadau i wynebu’r Wallaroos nos Wener
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cunningham yn cyhoeddi newidiadau i wynebu’r Wallaroos nos Wener