Neidio i'r prif gynnwys
Keira Bevan

Keira Bevan will lead out Wales against Australia

Cyhoeddi tîm Cymru i herio Awstralia yng ngêm agoriadol WXV2

Mae Cymru wedi enwi’r tîm fydd yn wynebu Awstralia yn eu gêm agoriadol yn y WXV2 yn Stadiwm DHL, Cape Town, ddydd Sadwrn, 28 Medi am 11.30am.

Rhannu:

Y mewnwr Keira Bevan fydd yn gapten ar ei gwlad am y trydydd tro o’r bron ac fe fydd hi’n arwain  tîm sy’n cynnwys y rhan fwyaf o’r garfan lwyddodd i guro’r Wallaroos am y tro cyntaf erioed yng Nghasnewydd y penwythnos diwethaf.

Mae’r bachwr profiadol Carys Phillips yn dychwelyd i’r rheng flaen. Gwenllian Pyrs a Donna Rose fydd yn propio gyda Natalia John a Georgia Evans y tu ôl iddynt yn yr ail reng.

Wedi iddi sgorio cais o’r fainc yn Rodney Parade nos Wener ddiwethaf bydd Alisha Butchers yn ymuno â Kate Williams a Bethan Lewis yn y rheng ôl o’r dechrau yn Cape Town.

Lleucu George sydd wedi ei dewis yn faswr gyda’r canolwr profiadol Kerin Lake a Carys Cox yng nghanol cae i Gymru.

Y cefnwr Jenny Hesketh, Jasmine Joyce a Nel Metcalfe fydd y tri ôl.

Os y caiff y prop Jenni Scoble ei galw o‘r fainc – bydd hi’n ennill ei chap cyntaf dros ei gwlad.

Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae’r tîm yma’n dangos ein bod yn cryfhau’r gystadleuaeth am wahanol safleoedd ymhlith y garfan. ‘Dwi wedi dweud o’r blaen bod hynny’n un o’n blaenoriaethau.

“Bydd Awstralia ddim yn hapus ar ôl ein buddugoliaeth hanesyddol ni yn eu herbyn yn Rodney Parade, ac ry’n ni’n gwybod yn iawn y bydd ganddyn nhw bwynt i’w brofi yma yn Cape Town.

“Gallwn gymryd llawer iawn hyder o’r perfformiad yr wythnos ddiwethaf – a bydd angen i ni godi’n safonau hyd yn oed yn uwch ddydd Sadwrn – yn erbyn un o chwe thîm gorau’r byd wrth gwrs.

“Mae’n braf croesawu Hannah Jones ac Alex Callender yn ôl i garfan y gêm ac mae’r ffaith ein bod yn gallu eu galw nhw i’r maes yn dangos y dyfnder ry’n ni’n ei adeiladu.

“Er nad oedd Sisilia ar gael i’w dewis yn y rheng flaen, mae Donna Rose wedi bod yn ymarfer yn arbennig o dda ac mae hi’n haeddu’r cyfle hwn.

“Mae’r chwaraewyr i gyd yn gwybod bod cyfraniad pob un aelod o’r garfan yn allweddol wrth i ni geisio ennill gemau rhyngwladol. Mae pob unigolyn yn gwybod beth y mae’r tîm hyfforddi yn ei ddisgwyl ganddynt er mwyn gallu creu argraff bositif ar gêm brawf fydd y llawn angerdd a dwyster.

“Ry’n ni’n uchelgeisiol fel carfan a’r WXV2 fydd y prawf go iawn cyntaf fydd yn dangos ble ‘ry’n ni arni hi ar ddechrau tymor arbennig o bwysig a chyffrous.”

Nid yw’r prop Sisilia Tuipulotu ar gael i’w dewis o ganlyniad i oruchwyliaeth weinyddol i’w Fisa.

Tîm Cymru i wynebu Awstralia

Jenny Hesketh, Jasmine Joyce, Carys Cox, Kerin Lake, Nel Metcalfe, Lleucu George, Keira Bevan (capten); Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Donna Rose, Natalia John, Georgia Evans, Alisha Butchers, Kate Williams, Bethan Lewis

Eilyddion:

Molly Reardon, Abbey Constable, Jenni Scoble, Abbie Fleming, Alex Callender, Sian Jones, Kayleigh Powell, Hannah Jones

Gemau WXV2 Cymru

Awstralia v Cymru, Stadiwm DHL, Cape Town (11.30am), Dydd Sadwrn, Medi 28ain

Cymru v Yr Eidal, Stadiwm Athlone, Cape Town (3pm), Dydd Gwener, Hydref 4ydd

Cymru v Japan, Stadiwm Athlone, Cape Town (3pm), Dydd Gwener, Hydref 11eg

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyhoeddi tîm Cymru i herio Awstralia yng ngêm agoriadol WXV2
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cyhoeddi tîm Cymru i herio Awstralia yng ngêm agoriadol WXV2
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyhoeddi tîm Cymru i herio Awstralia yng ngêm agoriadol WXV2
Rhino Rugby
Sportseen
Cyhoeddi tîm Cymru i herio Awstralia yng ngêm agoriadol WXV2
Cyhoeddi tîm Cymru i herio Awstralia yng ngêm agoriadol WXV2
Cyhoeddi tîm Cymru i herio Awstralia yng ngêm agoriadol WXV2
Cyhoeddi tîm Cymru i herio Awstralia yng ngêm agoriadol WXV2
Cyhoeddi tîm Cymru i herio Awstralia yng ngêm agoriadol WXV2
Cyhoeddi tîm Cymru i herio Awstralia yng ngêm agoriadol WXV2
Amber Energy
Opro
Cyhoeddi tîm Cymru i herio Awstralia yng ngêm agoriadol WXV2