Neidio i'r prif gynnwys
Kate Williams

Kate Wiliams yn sgorio'r cais buddugol gyda symudiad olaf y noson.

Cymru’n creu hanes yn hwyr yn erbyn y Wallaroos

Gyda symudiad olaf yr ornest fe groesodd Kate Williams i sicrhau buddugoliaeth gyntaf erioed Menywod Cymru yn erbyn Awstralia wrth i garfan Ioan Cunningham baratoi i wynebu’r Wallaroos unwaith eto yn y WXV yn Cape Town ymhen wythnos.

Rhannu:

Nid oedd y crysau cochion wedi llwyddo i drechu Awstralia yn eu chwe gêm flaenorol – ond llwyddwyd i gipio’r fuddugoliaeth yn amser yr amen yn Rodney Parade nos Wener.

Yn ystod hanner cyntaf hynod gystadleuol – fe hawliodd Maya Stewart gais i’r ymwelwyr ac fe groesodd capten Cymru ar y noson, Keira Bevan am y cyntaf o bum cais ei thîm.

Ar achlyusur dechrau ei gêm gyntaf dros ei gwlad bu’n rhaid i’r bachwr Rosie Carr adael y maes gydag anaf i’w hysgwydd wedi 25 munud. Daeth Molly Reardon i’r cae yn ei lle – ac fe lwyddodd hi i dirio ddwywaith. Eilydd arall, Alisha Butchers hawliodd gais arall y Cymry.

Croesodd Caitlyn Halse yn effeithiol dros y Wallaroos yn ystod yr ail gyfnod hefyd, cyn i sgôr hwyr Tabua Tuinakauvadra ymddangos ei bod wedi cipio gêm gyfartal i’w thîm a thawelu’r dorf o bron i 2000 yng Nghasnewydd.

Ond roedd amser am un ymosodiad arall gan y tîm cartref – ac fe brofodd y sgarmes symudol  yn arf effeithiol unwaith yn rhagor – ac fe arweiniodd hynny at gais hwyr iawn Williams a dathliadau gorfoleddus ei chyd-chwaraewyr.

Bydd y fuddugoliaeth gyntaf hon mewn saith gêm yn erbyn Awstralia yn rhoi hyder mawr i Fenywod Cymru cyn cyfarfod y Wallaroos yn Ne Affrica’r wythnos nesaf.

Canlyniad: Cymru 31 Awstralia 24

Dywedodd Ioan Cunnigham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Mae’r garfan yma wedi creu hanes drwy guro Awstralia am y tro cyntaf erioed – ac ‘rwy’n arbennig o falch ohonyn nhw. ‘Roedd y perfformiad yn gorfforol ac effeithiol ar y cyfan ac yn gosod sylfaen gadarn i ni ar gyfer her hyd yn oed yn fwy ymhen wythnos.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cymru’n creu hanes yn hwyr yn erbyn y Wallaroos
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cymru’n creu hanes yn hwyr yn erbyn y Wallaroos
Cymru’n creu hanes yn hwyr yn erbyn y Wallaroos
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cymru’n creu hanes yn hwyr yn erbyn y Wallaroos
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cymru’n creu hanes yn hwyr yn erbyn y Wallaroos