Neidio i'r prif gynnwys
Cytundebau proffesiynol i 37 o Fenywod Cymru

Cytundebau proffesiynol i 37 o Fenywod Cymru

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau bod 37 o gytundebau proffesiynol wedi eu cadarnhau ar gyfer carfan Menywod Cymru.

Rhannu:

Daw’r cyhoeddiad cadarnhaol hwn wrth i’r garfan baratoi i herio Awstralia yn eu gêm agoriadol yng nghystadleuaeth y WXV2 yn Ne Affrica’r penwythnos yma.

Am y tro cyntaf – mae nifer o chwaraewyr wedi derbyn cytundebau dwy flynedd o hyd – gan sicrhau bod cyflogau Menywod Cymru gyda’r gorau yn y byd o gymharu â thimau menywod eraill.

Yn dilyn proses drylwyr cyn dod i gytundeb terfynol, mae Prif Weithredwr URC Abi Tierney yn hyderus bod y strwythurau cywir yn eu lle bellach i sicrhau bod y paratodau ar gyfer Cwpan y Byd yn Lloegr yn 2025 yn well nac erioed.

‘Roedd capten Cymru, Hannah Jones yn un o’r deuddeg chwaraewr gwreiddiol dderbyniodd gytundeb proffesiynol yn ôl yn 2012. Mae Jones, y profiadol Carys Phillips (76 chap), Keira Bevan (65 cap) a’r amryddawn Jasmine Joyce hefyd wedi arwyddo cytundebau newydd.

Er eu bod wedi ennill llai na 10 o gapiau mae’r addawol Nel Metcalfe, Sian Jones a Molly Reardon wedi derbyn cytundebau. Felly hefyd wynebau cyfarwydd megis Lleucu George, Alex Callender, Abbie Fleming, Sisilia Tuipulotu ac Alisha Butchers.

Ychwanegodd Abi Tierney: “Ry’n ni wedi cyrraedd lle da ac mae gennym obaith gwirioneddol wrth edrych ymlaen at y dyfodol.

“Ein cyfrifoldeb ni fel Undeb yw gwneud yn siwr bod popeth yn ei le oddi-ar y cae – fel y gall y garfan ganolbwyntio ar y materion sy’n digwydd ar y maes chwarae.

“Ry’n ni wedi dweud yn gyhoeddus mai’n bwriad yw parhau i fuddsoddi yn rygbi merched a menywod ac mae cynnig cytundebau proffesiynol yn rhan allweddol o’r broses o hyrwyddo’r llwyddiant yr ry’n ni’n dyheu amdano.

“Mae llawer o waith eto i’w wneud a bydd gennyf fwy i’w ddweud ar y mater pwysig yma pan fyddwn yn cyhoeddi Strategaeth Lawn newydd yr Undeb yn hwyrach yn yr Hydref. Yn y cyfamser,  mae cyhoeddiad heddiw’n newyddion da iawn.

“Mae’r garfan hon yn gallu ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched ifanc a menywod o Fôn i Fynwy.

“Ry’n ni mor falch ein bod wedi gallu cytundebu 37 ohonyn nhw – gan sicrhau bod y strwythurau a’r gefnogaeth ariannol y mae’r garfan hon yn manteisio arnyn nhw – gyda’r gorau yn y byd.”

Dyma’r holl chwaraewyr sydd wedi derbyn cytundeb proffesiynol:

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cytundebau proffesiynol i 37 o Fenywod Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Cytundebau proffesiynol i 37 o Fenywod Cymru
Cytundebau proffesiynol i 37 o Fenywod Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cytundebau proffesiynol i 37 o Fenywod Cymru
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cytundebau proffesiynol i 37 o Fenywod Cymru