Gwŷr Gwent oedd y tîm cyntaf i hawlio pwynt bonws ychwanegol am guro Penybont o fwy na 15 pwynt ar ddiwrnod agoriadol y gystadleuaeth newydd hon ac fe fydd carfan Ty Morris yn teithio i lawr yr M4 yn edrych i lawr y tabl ar y naw o dimau eraill sydd yn cystadlu yn nhymor cyntaf erioed Super Rygbi Cymru.
Fe sgoriodd Casnewydd 28 o bwyntiau heb ildio yn 25 munud ola’r ornest yn Sain Helen y penwythnos diwethaf i sicrhau’r fuddugoliaeth a phwynt bonws – sy’n golygu mai nhw sydd ar frig y tabl yn hytrach na Chaerdydd – a hynny ar sail gwahaniaeth pwyntiau.
Dywedodd Ty Morris: “Roedd ein cicio ni’n wael yn erbyn Abertawe ac i fod yn onest doedd nifer o’n chwaraewyr ni ddim ar eu gorau chwaith. Nid ein diwrnod gorau fel tîm – ond mae hynny’n rhan o rygbi wrth gwrs.
“Ond fe enillon ni’r gêm a’n bwriad pendant yw bod yn fwy clinigol a chywir yn ein gemau nesaf er mwyn parhau i guro’n gwrthwynebwyr.”