Neidio i'r prif gynnwys
Menywod Cymru’n colli’n drwm yn Yr Alban wrth baratoi ar gyfer y WXV2

Meg Webb (dde) gyda Gwen Crabb wedi iddi groesi am ei chais (Llun gan Ross Parker / SNS Group)

Menywod Cymru’n colli’n drwm yn Yr Alban wrth baratoi ar gyfer y WXV2

Colli fu hanes Menywod Cymru o 40-14 yng Nghaeredin wrth i’r Alban guro eu cefndryd celtaidd am yr eildro’n olynol am y tro cyntaf ers 2005 gan sgorio chwe chais yn yn y broses.

Rhannu:

Yr ornest yn Yr Hive – y stadiwm sydd yng nghysgod Murrayfield – oedd gêm baratoadol gyntaf carfan Cymru ar gyfer y WXV2 yn Ne Affrica yn yr Hydref – ond yn anffodus nid oedd y ffaith fod Keira Bevan yn arwain ei gwlad am y tro cyntaf yn ddigon i arwain Menywod Cymru at fuddugoliaeth.

‘Roedd Ioan Cunningham wedi gwneud naw newid i’r tîm gurodd Sbaen 52-20 ym Mharc yr Arfau Caerdydd yn eu gêm ddiwethaf ddiwedd mis Mehefin  – ond yn dilyn eu buddugoliaeth glos nhw o ddeubwynt ar faes Caerdydd yn y Chwe Gwlad fis Mawrth – ail-adrodd y llwyddiant hwnnw mewn modd tipyn mwyn cadarnhaol wnaeth Yr Alban ar eu tomen eu hunain.

Yn eu crysau gwynion newydd sbon – dechrau ar y droed ôl fu hanes yr ymwelwyr ac fe chwaraewyd y 9 munud cyntaf bron yn gyfan-gwbl yn hanner Cymru. Fe gafodd blaenwyr Yr Alban eu haeddiant wrth i’r wythwr Evie Gallagher hyrddio ei hun dros y llinell gais am sgôr gynta’r noson.

7 munud yn ddiweddarch fe arweiniodd bylchiad effeithiol Keira Bevan at sgarmes yng nghysgod pyst y tîm cartref. Wrth iddi ddechrau ei gêm gyntaf dros ei gwlad – fe ail-gylchodd Molly Reardon y bêl yn gampus – ac wedi dwy bas slic arall gan Wilkins a Hesketh – fe groesodd Meg Webb i wneud pethau’n gyfartal.

Yn dilyn trosiad Bevan – ‘roedd y Cymry ar y blaen o ddeubwynt ac felly y bu pethau tan yr egwyl.

Er bod Yr Alban wedi rheoli’r meddiant a’r tir – y Cymry – o ganlyniad i’w hamddiffyn cadarn a’u trefn – oedd â’r flaenoriaeth ar y sgorfwrdd wrth droi.

Hanner Amser Yr Alban 5 Cymru 7

Cafwyd dechrau hynod siomedig i’r ail gyfnod o sabwynt Cymreig – osododd y naws ar gyfer yr ail hanner yn gyffredinol.

Fwy na heb o’r gic i ail-ddechrau’r ornest – fe gollodd yr ymwelwyr y meddiant ar linell ddeg Yr Alban – ac yn dilyn cic hir obeithiol Emma Orr – ‘roedd yr asgellwr Francesca McGhie yn rhy gyflym i Robyn Wilkins – ac felly funud yn unig wedi troi ‘roedd y tîm cartref yn ôl ar y blaen. Fe ychwanegodd Helen Nelson y trosiad i roi pum pwynt o fantais i’r crysau gleision.

10 munud yn ddiweddarch bu ond y dim i McGhie groesi am ei hail gais o’r noson – ond yn dilyn cyfnod o ail-gylchu a phasio campus gan ei chyd-chwaraewyr – fe ollyngodd yr asgellwr y bêl gyda’r llinell gais yn galw arni i dirio. Dihangfa ffodus iawn i’r Cymry – am ddau funud o leiaf.

Gydag ymosodiad nesaf Yr Alban – wedi 53 munud – bylchodd Orr yn gryf yn y canol unwaith eto ac ‘roedd ongl a chryfder y cefnwr Chloe Rollie yn ddigon i groesi am drydydd cais ei thîm. Ychwanegodd Nelson y ddeubwynt yn hawdd unwaith eto.

Wrth i’r cloc ddynesu at awr o chwarae – pwysleisiodd Yr Alban eu goruchafiaeth wrth hawlio’u pedwerydd cais o’r noson. Unwaith eto ‘roedd doniau trafod ac ail-gylchu tîm Bryan Easson yn amlwg – ac wedi i Meryl Smith newid cyfeiriad y chwarae – ‘roedd cais y canolwr yn anorfod.

Wedi i Nelson drosi am y trydydd tro – ‘roedd gan ei thîm fantais o 19 pwynt – a doedd dim ffordd yn ôl i’r Cymry.

Creu oedd dylestswydd nesaf Smith, wrth i’w chic gelfydd gyrraedd Chloe Rollie ac fe ddawnsiodd yr asgellwr heibio i amddiffyn Cymru i dirio am yr eildro. Gwaith hawdd iawn oedd gan Nelson i godi cyfanswm ei gwlad i 33 pwynt.

Er bod y gêm wedi ei cholli – fe benderfynodd Ioan Cunningham greu atgofion oes i Alaw Pyrs, Rosie Carr a Maisie Davies wrth iddyn nhw gamu o’r fainc i ennill eu capiau cyntaf ac fe alwodd ar wasanaeth Alisha Butchers hefyd ddaeth i’r maes i ennill ei hanner canfed cap hi.

Parhau i reoli mwyafrif o agweddau’r chwarae wnaeth Yr Alban a gyda 5 munud yn weddill – fe lwyddodd Francesca McGhie i ddal ei gafael ar y bêl y tro hwn i hawlio ei hail gais o’r ornest – a chweched ei gwlad. Doedd hi’n ddim syndod i Nelson godi cyfanswm y tîm cartref i 40 pwynt i boenydio’r Cymry ymhellach.

Gydag ychydig dros ddau funud o’r gêm ar ôl fe gafwyd symudiad i godi gwên ar wynebau’r Cymry blinedig wrth i’r eilydd Nel Metcalfe garlamu am gais hwyr yn y gornel. Fe barchusodd trosiad Bevan y sgôr ychydig ymhellach.

Canlyniad Yr Alban 40 Cymru 14

Bydd gêm baratoadol olaf Menywod Cymru cyn teithio i Dde Affrica’n eu gweld yn croesawu Awstralia i Rodney Parade yng Nghasnewydd ar yr 20fed o Fedi. Does dim amheuaeth y bydd Ioan Cunningham yn gobeithio am well perfformiad gan ei garfan yn y gobaith y bydd modd talu’r pwyth i’r Wallaroos am guro ei dîm o 25-19 yn y WXV1 yn Seland Newydd fis Tachwedd diwethaf.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Menywod Cymru’n colli’n drwm yn Yr Alban wrth baratoi ar gyfer y WXV2
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Menywod Cymru’n colli’n drwm yn Yr Alban wrth baratoi ar gyfer y WXV2
Menywod Cymru’n colli’n drwm yn Yr Alban wrth baratoi ar gyfer y WXV2
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Menywod Cymru’n colli’n drwm yn Yr Alban wrth baratoi ar gyfer y WXV2
Rhino Rugby
Sportseen
Menywod Cymru’n colli’n drwm yn Yr Alban wrth baratoi ar gyfer y WXV2
Menywod Cymru’n colli’n drwm yn Yr Alban wrth baratoi ar gyfer y WXV2
Menywod Cymru’n colli’n drwm yn Yr Alban wrth baratoi ar gyfer y WXV2
Menywod Cymru’n colli’n drwm yn Yr Alban wrth baratoi ar gyfer y WXV2
Menywod Cymru’n colli’n drwm yn Yr Alban wrth baratoi ar gyfer y WXV2
Menywod Cymru’n colli’n drwm yn Yr Alban wrth baratoi ar gyfer y WXV2
Amber Energy
Opro
Menywod Cymru’n colli’n drwm yn Yr Alban wrth baratoi ar gyfer y WXV2