Bydd y pum penwythnos o gemau yn cyrraedd uchafbwynt ddydd Sadwrn Ebrill 26 pan fydd y chwe thîm yn chwarae ar yr un diwrnod. Gornest yn Yr Eidal fydd yn wynebu Cymru ar y Sadwrn olaf hwnnw.
Bydd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 yn dechrau blwyddyn arbennig o rygbi menywod gan y bydd Lloegr yn cynnal Cwpan y Byd yn ystod yr haf. Y gobaith yw y bydd proffil rygbi menywod yn cyrraedd y lefel uchaf erioed yn ystod y flwyddyn.
Iwerddon a Ffrainc fydd yn codi’r llen ar y gystadleuaeth ac yna ar penwythnos olaf taith i’r Alban fydd yn wynebu’r Gwyddelod cyn i Gymru deithio i’r Eidal ac yna Lloegr herio Ffrainc yng ngêm olaf Pencampwriaeth 2025.
Yn ogystal â chael eu darlledu yn y gwledydd sy’n cymryd rhan – bydd y gemau’n cael eu dangos mewn 17 o wledydd a thiriogaethau eraill.
Gwelwyd cynnydd o 24% yn nhorfeydd y gemau yn ystod y Bencampwriaeth y tymor diwethaf a gwyliodd cyfanswm o 16.2 miliwn o bobl y gemau ar wahanol blatfformau ledled y byd.
Trefn Gemau Menywod Cymru – Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025
Sadwrn Mawrth 22: Yr Alban v Cymru (4.45pm)
Sadwrn Mawrth 29: Cymru v Lloegr (4.45pm)
Sadwrn Ebrill 12: Ffrainc v Cymru (12.45pm)
Sul Ebrill 20: Cymru v Iwerddon (3.00pm)
Sadwrn Ebrill 26: Yr Eidal v Cymru (2.30pm)
Lleoliadau holl gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 i’w cadarnhau yn fuan.