Ychydig cyn y gic gyntaf bu’n rhaid i Cunningham ddyrchafu chwaraewr y flwyddyn y llynedd, Alex Callender o’r fainc i’r pymtheg cychwynol gan bo sgoriwr y cais buddugol yr wythnos ddiwethaf, Kate Williams wedi ei hanafu.
Yr un pymtheg gafodd eu dewis i gynrychioli Awstralia i geisio gwneud yn iawn am eu cam yr wythnos ddiwethaf wrth golli o 31-24 yn Rodney Parade.
Er i’r Cymry reoli’r meddiant a sicrhau goruchafiaeth yn y chwarae gosod yn ystod y chwarter agoriadol – meddwl chwim Layne Morgan agorodd y sgorio wedi 20 munud wrth i fewnwr y Wallaroos gymryd cic gosb yn gyflym a dod o hyd i fwlch yn amddiffyn y Crysau Cochion.
Dim ond 10 munud gymrodd hi i Keira Bevan a’i thîm i daro’n ôl ac yn dilyn sgarmes symudol effeithiol fe diriodd Carys Phillips ar achlysur ei 77fed cap i wneud pethau’n gyfartal.
Ond Awstralia – ac Eva Karpani’n benodol – gafodd ail ola’r cyfnod cyntaf. Y llynedd yn y WXV yn erbyn Ffrainc fe hawliodd hi dri chais ac eiliadau’n unig cyn i’r cloc droi’n goch fe redodd y prop pen tynn 23 oed am 20 metr at y llinell gais. Am yr eildro’n ystod yr hanner cyntaf – byddai tîm hyfforddi Cymru wedi bod yn siomedig gyda safon yr amddiffyn, gan i Karpani dorri’n rhydd o dair tacl cyn tirio.
Hanner Amser Cymru 5 Awstralia 10
Yn wahanol i’r cyfnod cyntaf, Awstralia oedd gryfaf yn y chwarae gosod a’r sgrym yn benodol ac fe grëodd hynny lwyfan cadarn iddynt reoli’r chwarae yn ystod chwarter awr cyntaf yr ail hanner.
Er iddynt fygwth llinell gais eu gwrthwynebwyr yn gyson – bu’n rhaid iddynt fodloni ar gôl gosb Moleka i greu bwlch o 8 pwynt rhwng y ddau dîm.
Fe sgoriodd Maya Stewart gais yn erbyn Cymru yn y WXV1 yn Auckland y llynedd ac hefyd yn Rodney Parade yr wythnos ddiwethaf – ac wedi 62 munud yn Cape Town fe fanteisiodd ar chwarae celfydd ei thîm i groesi yn y gornel i bwysleisio goruchafiaeth y Wallaroos.
Wedi trosiad yr eilydd Lori Cramer – dim ond dau funud oedd yn rhaid i Awstralia aros tan iddynt sicrhau eu pedwerydd cais a’u pwynt bonws. Y maswr ifanc a seren y gêm Faitala Moleka hawliodd y sgôr hwnnw – ac ‘roedd gwaeth i ddod i’r Cymry.
Gyda 9 munud o’r gêm ar ôl – fe roddodd Cramer halen ym mriwiau’r Cymry wrth iddi groesi am bumed cais y Wallaroos yn y gornel.
Fe grynhowyd ail hanner siomedig y Cymry wrth i’r eilydd Molly Reardon weld cerdyn melyn am dacl anghyfreithlon yn ystod y munudau olaf.
Gwta funud wedi i Reardon eistedd ar yr ystlys – fe redodd Maya Stewart yn glir i sgorio ei hail gais hi o’r prynhawn a chweched ei gwlad o’r ornest. Wedi’r trosiad ‘roedd Awstralia wedi sgorio 32 o bwyntiau heb ateb yn hanner can munud olaf yr ornest.
Er y golled, bydd Jenni Scoble yn cofio’r achlysur am byth gan iddi gamu o’r fainc i ennill ei chap cyntaf dros Gymru yn ystod munudau ola’r ornest.
Awstralia’n talu’r pwyth yn bendant am y golled wythnos ynghynt felly – ond siom enfawr i Ioan Cunningham a’i garfan. Bydd ganddo ef a’i dîm hyfforddi ddigon o waith i’w wneud cyn i Gymru wynebu Yr Eidal yn eu hail gêm o’r Bencampwriaeth brynhawn Gwener nesaf.
Canlyniad: Cymru 5 Awstralia 37
Cymru v Yr Eidal, Stadiwm Athlone, Cape Town (3pm), Dydd Gwener, Hydref 4ydd
Cymru v Japan, Stadiwm Athlone, Cape Town (3pm), Dydd Gwener, Hydref 11eg
Wedi’r chwiban olaf dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham:”Ry’n ni’n hynod siomedig gyda’r canlyniad – yn enwedig wrth ystyried pa mor dda y dechreuon ni.
“Fe fethon ni â chymryd mantais o’n cyfleoedd yn ystod y chwarter agoriadol. Mae angen i ni fod yn fwy clinigol. I fod yn deg gydag Awstralia – fe ddangoson nhw i ni sut mae troi cyfleoedd yn bwyntiau yn ystod yr ail hanner. Mae gwaith caled o’n blaenau wrth ymarfer yr wythnos hon fel ein bod yn barod i wynebu’r Eidal ddydd Gwener.”