Neidio i'r prif gynnwys
Toby Booth i adael y Gweilch ddiwedd y tymor

Toby Booth i adael y Gweilch ddiwedd y tymor

Bydd Prif Hyfforddwr y Gweilch, Toby Booth yn gadael y rhanbarth ar ddiwedd tymor 2024/25.

Rhannu:

Bydd Hyfforddwr yr Amddiffyn a chyn Hyfforddwr o dan 20 Cymru, Mark Jones yn cymryd yr awenau wrth y llyw fel Prif Hyfforddwr bryd hynny – gyda Justin Tipuric yn cymryd ei le wrth ofalu am yr amddiffyn – wedi iddo gwblhau ei dymor olaf fel chwaraewr

Wedi pedwar tymor fel Prif Hyfforddwr fe lwyddodd Booth i droi’r cyfnod cymharol hesb blaenorol – i arwain y Gweilch at y Gemau Ail Gyfle y y Bencampwriaeth Unedig y tymor diwethaf. Fe enillodd y rhanbarth eu gêm Ail Gyfle gyntaf yn Ewrop yn ystod yr ymgyrch honno hefyd.

Roedd meddylfryd Toby Booth o roi’r cyfle i dalent lleol yn amlwg. Yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf mae 15 o chwaraewyr yr academi wedi cynrychioli’r Gweilch ac mae 10 o chwaraewyr y rhanbarth wedi ennill capiau dros Gymru – gan gynnwys dau gapten.

Gyda llwyddiant o 70% yn erbyn y rhanbarthau Cymreig eraill – mi all Booth hawlio’n hyderus mai’r Gweilch sydd wedi bod y tîm gorau yng Nghymru yn ystod ei deyrnasiad.

Dywedodd Toby Booth: “Rwy’n gadael – gan mai dyna fydd yr amser iawn i mi wneud hynny – ac mae’r cynllunio ymlaen llaw o safbwynt y tîm hyfforddi newydd yn sicrhau dilyniant a chysondeb i’r garfan. Mae’n amser i mi wynebu her ychydig yn wahanol. Wedi dweud hynny – ‘rwy’n hynod o falch o’r hyn y mae fy staff a fy ngharfan wedi ei gyflawni yn ystod ein hamser gyda’n gilydd.”

Mae Mark Jones wedi mwynhau cyfnodau o hyfforddi gyda’r Scarlets, Crusaders, tîm rhyngwladol Cymru a’r tîm o dan 20.

Dywedodd Mark Jones: “Rwy’n hynod o gyffrous am y cyfle hwn fydd yn dod i’m rhan y flwyddyn nesaf a does dim amheuaeth y bydd arwain y Gweilch yn fraint aruthrol.”

Wedi degawd o arwain trwy ei weithredoedd ar y maes chwarae – bydd Justin Tipuric yn aros yn rhan o deulu’r Gweilch pan ddaw ei gyfnod fel chwaraewr i ben ddiwedd y tymor hwn. Mae’r blaen-asgellwr eisoes yn edrych ymlaen at ddechrau ar ei waith fel yr Hyfforddwr Amddiffyn. O ganlyniad i’w gyfrifoldebau newydd ar y gorwel – mae Tipuric wedi ildio capteiniaeth y rhanbarth ar gyfer y tymor newydd. Jac Morgan gaiff y cyfrifoldeb a’r fraint honno.

Dywedodd Justin Tipuric: “O’r diwrnod cyntaf i mi chwaare rygbi – hyd heddiw – ‘rwyf wedi dysgu rhywbeth newydd am y gamp bob dydd. Mae’n gam naturiol i mi symud ymlaen i hyfforddi ac felly wedi i mi roi popeth i fy rhanbarth ar y maes y tymor hwn – byddaf yn edrych ymlaen at her gyffrous arall.”

Ychwanegodd Lance Bradley Prif Weithredwr y Gweilch: “Mae’r newidiadau pwysig hyn yn dangos ein bod yn cynllunio ar gyfer y dyfodol ac ‘rwy’n hyderus bod y gorau eto’i ddod gan y Gweilch.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Toby Booth i adael y Gweilch ddiwedd y tymor
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Toby Booth i adael y Gweilch ddiwedd y tymor
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Toby Booth i adael y Gweilch ddiwedd y tymor
Rhino Rugby
Sportseen
Toby Booth i adael y Gweilch ddiwedd y tymor
Toby Booth i adael y Gweilch ddiwedd y tymor
Toby Booth i adael y Gweilch ddiwedd y tymor
Toby Booth i adael y Gweilch ddiwedd y tymor
Toby Booth i adael y Gweilch ddiwedd y tymor
Toby Booth i adael y Gweilch ddiwedd y tymor
Amber Energy
Opro
Toby Booth i adael y Gweilch ddiwedd y tymor