Bydd y Dynion a’r Menywod yn wynebu Lloegr yn y brifddinas – a’r gobaith pendant yw y bydd croesawu’r ‘Hen Elyn’ i Stadiwm Principality ar y 29ain o Fawrth yn sicrhau record o dorf i’r Menywod.
Mae disgwyl i docynnau’r Dynion yn erbyn Iwerddon (Sadwrn, 22ain Chwefror) a Lloegr (Sadwrn 15ed Mawrth), werthu’n gyflym a dylai brys mawr fod am docynnau gornest y Menywod yn erbyn y Gwyddelod hefyd – gan mai dim ond lle i 8,700 o bobl sydd yn Rodney Parade, Casnewydd.
I wylio’r Menywod yn herio Lloegr yn Stadiwm Principality mae prisiau cynnig cynnar ar gael – CAT A (Haen Ganol) £15 Oedolion a £7.50 i rai o dan 18, CAT B (Haen Isaf) £10 i Oedolion a £5 i rai o dan 18, ac i wylio gêm Iwerddon yng Nghasnewydd (Sadwrn 20 Ebrill) mae’r tocynnau i sefyll ar y teras ar gael am £10 i Oedolion a £5 i rai o dan 18.
Mae tocynnau CAT A a CAT D i wylio tîm Dynion Cymru yn erbyn Lloegr bellach wedi’u gwerthu ; felly mae
gweddill y tocynnau ar gael o £80 Oedolion a £40 i rai o dan 18 oed sy’n ostyngiad o 50% i’r bobl ifanc.
Mae galw mawr hefyd eisoes am docynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon gyda llai na 500 o docynnau ar ôl yn CAT D. Gall cefnogwyr fanteisio ar y tocynnau CAT D sy’n weddill am £60 gyda’r holl docynnau eraill ar gael o £80 Oedolion a £40 i rai dan 18 oed
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Stadiwm Principality yw cartref rygbi Cymru wrth gwrs, ac ‘roedd gweld y Menywod yn cloi eu hymgyrch yno’r tymor diwethaf gyda buddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal yn anhygoel.
“Mae’n gam uchelgeisiol i Fenywod Cymru wynebu Lloegr yn Stadiwm Principality, ond rydym yn hyderus y gallwn guro ein record o dorf unwaith eto ym mis Mawrth.
“Bydd dychwelyd i Rodney Parade ar ôl y fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Awstralia yno’r wythnos ddiwethaf yn hwb enfawr hefyd.
“Mae gan Ddynion Cymru ddwy gêm anodd iawn wrth gwrs, ond mae’r gemau’n cynnig cyfle gwych i brofi ein hunain yn erbyn y goreuon – yng nghystadleuaeth orau hemisffer y Gogledd.
“Mae gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness yn Nghaerdydd yn denu cefnogwyr o bob cwr o’r byd i’r Brifddinas. Mae’r ffaith mai Iwerddon yw prif ddetholion y byd ar hyn o bryd yn ychwanegu at y cyffro – ac mae ymweliad yr Hen Elyn wastad yn tynnu dŵr i’r dannedd.”
Gwybodaeth am docynnau a phrisiau ar gyfer gemau Chwe Gwlad Guinness 2025 y Dynion
Cymru v Iwerddon, Dydd Sadwrn 22ain Chwefror, Stadiwm Principality: 14:15
CAT A £ 130, CAT B £ 120, CAT C £ 115, CAT D £ 60, Di-Alc £80/Dan 18 £40
Cymru v Lloegr, dydd Sadwrn 15 Mawrth, Stadiwm Principality: 16:45
CAT A £ 130, CAT B £ 120, CAT C £ 115, CAT D £ 60, Di-Alc £80/Dan 18 £40
Tocynnau ar gael: URC. CYMRU/TOCYNNAU
Mae pecynnau lletygarwch Stadiwm Principality ar gael hefyd a gall cefnogwyr sy’n dymuno sicrhau profiad lletygarwch yn Stadiwm Principality ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 ymweld â wru.cymru/vip
Am brofiad Gwely a Brecwast yng Nghwesty’r Parkgate – mae mwy o wybodaeth yma: www.theparkgatehotel.wales
Mae pecynnau lletygarwch swyddogol oddi ar y safle ar gael hefyd drwy gwmni Events International eventsinternational.co.uk ac mae Pecynnau Teithio Swyddogol ar gael trwy Gullivers Sports Travel gulliverstravel.co.uk
Gellir dod o hyd i Gyfnewidfa Swyddogol Cefnogwyr URC ar gyfer tocynnau yma https://welshrugbyticketexchange.seatunique.com
Gwybodaeth am docynnau a phrisiau ar gyfer Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 y Menywod
Cymru v Lloegr, Sadwrn 29ain Mawrth, Stadiwm Principality
CYNNIG CYNNAR (tan 01/01/25) CAT A (haen ganol) £15/£7.50, CAT B (haen isaf) £10/£5
Cymru v Iwerddon, Sul 20fed Ebrill, Rodney Parade, Casnewydd
CYNNIG CYNNAR (tan 01/01/25) £10/£5
Tocynnau ar gael drwy URC. CYMRU/TOCYNNAU