Bydd Cymru’n wynebu tri o dimau hemisffer y de yng Nghyfres yr Hydref 2024 sef Ffiji, Awstralia a De Affrica ar dri phenwythnos yn olynol yn Stadiwm Principality fis Tachwedd.
Wedi iddo arwain Cymru ar y daith i Awstralia dros yr haf – bydd Dewi Lake yn parhau’n gapten ar y garfan ar gyfer Cyfres yr Hydref.
Mae dau o chwaraewyr sydd heb eto ennill cap wedi eu dewis ymhlith y garfan sy’n cynnwys 19 o flaenwyr ac 16 o olwyr.
Freddie Thomas (ail reng, Caerloyw) a Blair Murray (asgellwr, Scarlets) yw’r ddau sydd eto i gynrychioli eu gwlad.
Er na deithion nhw i Awstralia dros yr haf o ganlyniad i anafiadau neu adferiad, mae Adam Beard, Ryan Elias, Jac Morgan, Will Rowlands, Henry Thomas a Tomos Williams yn dychwelyd i’r garfan.
Mae Gareth Anscombe, Max Llewellyn, Tom Rogers, Nicky Smith a Rhodri Williams, hefyd wedi eu galw i’r garfan unwaith eto – carfan sydd ag oedran cyfartalog o 25.
Dywedodd Warren Gatland: “Ry’n ni fel tîm hyfforddi’n edrych ymlaen yn fawr at y gemau hyn ac ‘ry’n ni’n awchu at gael yr holl garfan gyda’i gilydd o ddydd Llun ymlaen wrth i ni baratoi i wynebu Ffiji.
“Mae’r garfan hon yn fy nghyffroi. Mae gennym gydbwysedd da o ieuenctid a phrofiad ac ‘ry’n ni’n gwybod eu bod am weithio’n arbennig o galed yn ystod mis Tachwedd.
“Bydd Ffiji, Awstralia a De Affrica’n cynnig heriau gwahanol iawn i ni – a bydd hynny’n gyffrous ac yn werthfawr i ni fel carfan.
“Mae gemau Cyfres yr Hydref watad yn arbennig gan ein bod yn cael chwarae er ein tomen ein hunain ar benwythnosau olynol – a ‘does unman gwell i chwarae nac yn awyrgylch arbennig Stadiwm Principality o flaen ein cefnogwyr angerddol ein hunain.”
O safbwynt y gapteiniaeth, ychwanegodd Warren Gatland: “Fe wnaeth Dewi waith arbennig fel capten dros yr haf, ac felly ‘ry’n ni wedi penderfynu rhoi’r cyfle iddo barhau i’n harwain yr Hydref yma.”
Bydd Ffiji yn ymweld â Chaerdydd am y tro cyntaf ers 2021, ddydd Sul y 10fed o Dachwedd – gwta 14 mis ers i’r ddau dîm wynebu’i gilydd mewn clasur o ornest yng ngemau grŵp Cwpan y Byd yn Ffrainc y llynedd. Bydd y gic gyntaf am 13.40.
Bydd tocynnau ar gael am £20,£30 & £40 gyda thocynnau hanner pris ar gyfer y rhai o dan 18 oed. Mae’r cynllun prisio newydd hwn ar gael ar gyfer y tair gêm – ac ar gyfer unrhyw sedd – ac felly bydd modd i deulu o bedwar wylio’r ornest hon am £60.
Wythnos yn ddiweddarach bydd Cymru’n croesawu’r ‘Wallabies’ i’r Brifddinas am 16.10, fisoedd yn unig wedi i garfan Warren Gatland chwarae dwy gêm brawf yn Awstralia ym mis Gorffennaf Prisiau ar gyfer y tocynnau yma fydd £30, £40 & £60 sy’n golygu y gall teulu o bedwar wylio’r gêm am £90.
Pencampwyr presennol y Byd, De Affrica fydd gwrthwynebwyr olaf Cymru o’r gyfres am 17.40, ddydd Sadwrn y 23ain o Dachwedd.
Bydd bechgyn Warren Gatland yn croesawu De Affrica i Stadiwm Principality chwarter canrif wedi iddynt chwarae yn y gêm gyntaf erioed yng nghartref newydd Rygbi Cymru. Y Crysau Cochion enillodd yr ornest gyntaf honno ar y 26ain o Fehefin 1999 ac felly bydd eu herio 25 mlynedd wedi hynny’n uchafbwynt arbennig a hanesyddol i Gyfres yr Hydref eleni.
Prisiau’r tocynnau ar gyfer yr ornest hon fydd £50, £70 a £90 fel y gall teulu o bedwar fod yno’n cefnogi Cymru am £150.
CARFAN CYMRU AR GYFER CYFRES YR HYDREF 2024
Blaenwyr (19)
Keiron Assiratti (Caerdydd – 7 cap)
Adam Beard (Gweilch – 56 chap)
James Botham (Caerdydd – 13 chap)
Ben Carter (Dreigiau – 12 cap)
Ryan Elias (Scarlets – 41 cap)
Archie Griffin (Caerfaddon – 3 chap)
Dewi Lake (Gweilch – 15 cap) Capten
Evan Lloyd (Caerdydd – 5 cap)
Kemsley Mathias (Scarlets – 4 cap)
Jac Morgan (Gweilch – 15 cap)
Taine Plumtree (Scarlets – 5 cap)
Tommy Reffell (Caerlŷr – 20 cap)
Will Rowlands (Racing 92 – 33 chap)
Nicky Smith (Caerlŷr – 46 chap)
Gareth Thomas (Gweilch – 33 chap)
Freddie Thomas (Caerloyw – heb gap)
Henry Thomas (Scarlets – 4 cap)
Christ Tshiunza (Caerwysg – 12 cap)
Aaron Wainwright (Dreigiau – 50 cap)
Olwyr (16)
Gareth Anscombe (Caerloyw – 37 cap)
Ellis Bevan (Caerdydd – 3 chap)
Sam Costelow (Scarlets – 15 cap)
Rio Dyer (Dreigiau – 22 cap)
Mason Grady (Caerdydd – 14 cap)
Josh Hathaway (Caerloyw – 1 cap)
Eddie James (Scarlets – 1 cap)
Max Llewellyn (Caerloyw – 1 cap)
Blair Murray (Scarlets – heb gap)
Tom Rogers (Scarlets – 4 cap)
Ben Thomas (Caerdydd – 4 cap)
Nick Tompkins (Saraseniaid – 38 cap)
Owen Watkin (Gweilch – 41 cap)
Rhodri Williams (Dreigiau – 3 chap)
Tomos Williams (Caerloyw – 58 cap)
Cameron Winnett (Caerdydd – 7 cap)
GEMAU CYFRES YR HYDREF 2024
Stadiwm Principality
10 Tachwedd: Cymru v Ffiji
KO 13:40 GMT
17 Tachwedd: Cymru v Awstralia
KO 16.10 GMT
23 Tachwedd: Cymru v De Affrica
KO 17:40 GMT