Yr asgellwr Nel Metcalfe, y mewnwr, Keira Bevan a’r cefnwr Jasmine Joyce – oedd hefyd yn seren y gêm – groesodd am geisiau i dîm Ioan Cunningham.
Yn y ddau gyfarfyddiad blaenorol rhwng y ddwy wlad – ‘roedd y timau wedi hawlio un fuddugoliaeth yr un – ond fe arweiniodd rheolaeth y Cymry o’r meddiant a’r tir at fuddugoliaeth haeddiannol iddynt yn eu crysau gwynion newydd.
Cafwyd perfformiad cadarnhaol gan Kayleigh Powell wrth iddi ddechrau ei gêm gyntaf fel maswr dros ei gwlad ac fe brofodd Nel Metcalfe unwaith eto bod ganddi ddyfodol disglair – wrth i’r asgellwr 19 oed ymosod ac amddiffyn yn drawiadol o effeithiol.
Gwnaeth Ioan Cunningham dri newid i’r tîm ddechreuodd yn y golled yn erbyn Yr Eidal wythnos ynghynt – gyda Powell yn gwisgo’r crys rhif deg yn lle Lleucu George, ddioddefodd anaf hwyr yn yr ornest honno.
Daeth Sisilia Tuipulotu ac Abbie Fleming i mewn i’r pump blaen ac fe osododd y pac sylfaen gadarn i’r olwyr.
Galwyd Alaw Pyrs i’r fainc ychydig cyn y chwiban gyntaf gan i Kate Williams gael ei hanafu ar yr eiliad olaf.
Er iddynt golli eu dwy gêm gyntaf yn y WXV2 yn erbyn De Affrica a’r Alban – ‘roedd perfformiadau Japan wedi bod yn rhai addawol – ond y Cymry ddechreuodd gryfaf ar yr achlysur hwn.
Yn dilyn bylchiadau effeithiol a chynnar gan Natalia John a Jasmine Joyce – fe agorodd Nel Metcalfe y sgorio wrth hawlio pum pwynt cyntaf yr ornest wedi deng munud o chwarae.
Cafwyd perfformiad hyderus gan Gymru a gwelwyd mwy o ddyfeisgarwch yn eu chwarae ymosodol. Erbyn yr egwyl ‘roedd tîm Hannah Jones ar y blaen o 12-0 gan i Keira Bevan sgorio cais a llwyddo gyda’r trosiad hefyd.
Wedi troi – penderfynodd Japan ledu’r bêl ond wedi dim ond dau funud o’r ail gyfnod – fe ryng-gipiodd Jasmine Joyce y bêl ar ei llinell gais ei hun a charlamu’n gofiadwy at y llinell gais arall ym mhendraw’r maes.
Yn dilyn trosiad Bevan – roedd y fantais yn 19 pwynt.
Tra bo asgellwr Cymru Carys Cox wedi ei hanafu ar lawr – llwyddodd asgellwr Japan Misaki Matsumura i groesi am gais cyntaf y ‘Sakura’ ac yna’n yr eiliadau olaf fe diriodd eu maswr Ayasa Otsuka i ddyblu eu sgôr – tra bo Hannah Bluck yn y cell cosb am dacl uchel.
Er i Japan orffen y gêm yn gryf – ‘roedd hon yn fuddugoliaeth haeddiannol i Fenywod Cymru – ac fe fydd ansawdd eu perfformiad yn rhoi hyder i garfan Ioan Cunningham wrth iddyn nhw edrych ymlaen at Bencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness a Chwpan y Byd y flwyddyn nesaf.
Canlyniad Cymru 19 Japan 10