Mae tri newid i’r tîm ddechreuodd yn erbyn Yr Eidal, gydag Abbie Fleming yn yr ail reng, y prop Sisilia Tuipulotu a’r maswr Kayleigh Powell yn dechrau’r ornest yr wythnos hon.
Mae Lleucu George wedi ei hanafu ac mae Robyn Wilkins wedi cymryd ei lle’n y garfan.
Y canolwr, Hannah Jones, fydd y capten unwaith eto a Hannah Bluck fydd ei phartner yng nghanol cae am yr eildro o’r bron.
Bydd Tuipulotu yn ymuno â Carys Phillips a Gwenllian Pyrs yn y rheng flaen ac mae Fleming a Natalia John wedi eu ffafrio gan y Prif Hyfforddwr yn yr ail reng.
Alex Callender, Alisha Butchers a Bethan Lewis fydd yn dechrau yn y rheng ôl i Gymru, tra mai Powell a Keira Bevan sydd wedi eu dewis fel haneri.
Jasmine Joyce fydd yn safle’r cefnwr gyda Carys Cox a Nel Metcalfe yn cwblhau’r tri ôl.
Dywedodd Ioan Cunningham, Prif Hyfforddwr Cymru: “Ry’n ni wedi canolbwyntio ar ein hunain yr wythnos hon a’r hyn ry’n ni’n gallu ei wneud yn dda.
“Mae pawb yn gwybod bod yn rhaid i ni wella nifer o elfennau o’n perfformiad yn erbyn Yr Eidal ac ‘roedden ni gyd yn onest iawn gyda’n gilydd fel carfan wrth ddadansoddi’r gêm honno.
“Ein prif wendid oedd methu â chymryd ein cyfleoedd a throi’r pwysau’n bwyntiau. Bydd angen i ni newid hynny pan fyddwn yn nhir Japan ddydd Gwener.
“Mae colli chwaraewr o safon Lleucu’n ergyd drom ond mae hwn yn gyfle cyffrous i Kayleigh Powell, a bydd hi’n cynnig bygythiad gwahanol o safle’r maswr. Mae Abbie Fleming yn haeddu’r cyfle hwn i ddechrau yn yr ail reng a bydd ei phresenoldeb corfforol yn bwysig i ni yn erbyn Japan.
“Bydd Japan yn cynnig her wahanol iawn i ni – ac mae eu perfformiadau nhw yma yn Ne Affrica wedi creu tipyn o argraff. Wedi dweud hynny mae’n tîm ni yn gwybod bod angen gorffen y WXV2 gyda pherfformiad mawr ein hunain – yn enwedig i’n cefnogwyr yn ôl adref yng Nghymru.
“Bydd Japan a ninnau eisiau ennill – ac yn credu ein bod yn gallu ennill hefyd ac felly mae’n addo bod yn gêm brawf gyffrous.”
Tîm Cymru i wynebu Japan
Jasmine Joyce, Carys Cox, Hannah Jones (capten), Hannah Bluck, Nel Metcalfe, Kayleigh Powell, Keira Bevan; Gwenllian Pyrs, Carys Phillips, Sisilia Tuipulotu, Natalia John, Abbie Fleming, Alisha Butchers, Alex Callender, Bethan Lewis
Eilyddion
Molly Reardon, Maisie Davies, Donna Rose, Georgia Evans, Kate Williams, Sian Jones, Robyn Wilkins, Courtney Keight.