Ganed Bowring yng Nghastell Nedd a gwnaeth argraff arbenning fel chwaraewr yng nghlwb y Cymry yn Llundain. Fe chwaraeodd 268 o weithiau drostyn nhw a chael y fraint o fod yn gapten am dri thymor yno.
Cafodd ei ddewis hefyd ar gyfer carfan Tîm B Cymru, y Barbariaiad (deirgwaith) a Sir Middlesex.
Yn fab i saer coed, fe ddechreuodd chwarae rygbi yn ysgol ramadeg y dref – ac fe lwyddodd i chwarae ei gêm ddosbarth cyntaf dros Gastell Nedd – oedd yn brofiad gwerthfawr i Bowring gan ei fod wedi cael ei fagu dafliad carreg o’r Gnoll:
“Fy arwr wrth dyfu lan oedd Dai Morris – oedd yn gwisgo rhif 6 dros Gymru ond yn gwisgo’r crys rhif 8 dros y clwb. Yn fy ngêm gyntaf dros Gastell Nedd – fe roddon nhw’r crys rhif 8 i mi. Fe fyddwn i wedi gallu ymddeol yn hapus – ond ‘roedd gwell i ddod yn fy ail gêm gan i Dai ddychwelyd i safle’r wythwr – ac fe gefais i chwarae ar ei ysgwydd fel blaen-asgellwr.”
Roedd Kevin Bowring yn chwaraewr 7 bob ochr dawnus – ac yn ystod cystadleuaeth yn Amsterdam – fe gafodd ei wahodd gan asgellwr Cymru, Clive Rees, i ymuno â’r Cymry yn Llundain. ‘Roedd y ddau’n digwydd bod yn athrawon yn yr un ysgol yn Reading yn ystod y cyfnod hwnnw’n 1977 hefyd.
Bu Bowring gyda’r clwb am 9 mlynedd ac ‘roedd yn gapten rhwng 1979-82. Ym 1985 fe gyrhaeddodd y Cymry yn Llundain rownd derfynol Cwpan John Player ac wedi iddynt golli dwy ffeinal yng nghystadleuaeth saith bob ochr Middlesex – fe enillon nhw ar eu trydedd ymdrech ym 1984. Tri chynnig i Gymro medd yr hen air!
Fe ddechreuodd ei yrfa hyfforddi yn ddyn ifanc gyda thîm ieuenctid Llansawel – ac wedi iddo ymddeol fel chwaraewr yn 32 oed, cafodd ei benodi’n gyfarwyddwr addysg gorfforol a chwaraeon Coleg Clifton.
Gan iddo greu argraff ffafriol iawn yno – derbyniodd wahoddiad i gymryd rhan yn sesiynau ymarfer timau o dan 17 ac 18 Cymru. Cyfarwyddwr Hyfforddi Cymru ar y pryd oedd John Dawes – cyn gapten Cymru, y Llewod a’r Cymry yn Llundain – ac fe arweiniodd hynny at Bowring yn cael y cyfle i hyfforddi tîm o dan 20 Cymru yn nhymor 1989-90.
Buan iawn y daeth yr alwad i arwain tîm o dan 21 Cymru am dair blynedd ac ef oedd yn gyfrifol am hyfforddi tîm ‘A’ Cymru am dair blynedd wedi hynny hefyd – pan enillwyd 9 o’u 13 gêm. Bu Bowring hefyd yn hyfforddi tîm Saith Bob Ochr Cymru.
Cafodd ei benodi’n hyfforddwr dros dro y prif dîm cenedlaethol ar gyfer y gêm yn erbyn Ffiji ym mis Tachwedd 1995. Yn dilyn y fuddugoliaeth o 19-15 derbyniodd gytundeb llawn amser am bedair blynedd gyda chyflog blynyddol o £50,000.
Ef oedd Prif Hyfforddwr llawn amser cyntaf erioed Cymru ac yn ystod ei gyfnod wrth y llyw. O’r 29 o gemau y bu’n gyfrifol amdanynt – fe enillwyd 15 a chollwyd 14 ohonynt. O’r gemau Pum Gwlad yn ystod y cyfnod hwnnw – dim ond pedair o’r deuddeg gornest yr enillodd y Cymry.
Cyn i Kevin Bowring gymryd yr awennau, dim ond 7/28 o gemau ‘roedd Cymru wedi eu hennill yn y Bencampwriaeth ac ‘roeddent hefyd wedi dioddef colledion yn erbyn Rwmania, Canada a Gorllewin Samoa ac felly ‘roedd talcen caled yn ei wynebu wrth y llyw.
Er bod heriau gwirioneddol yn ei wynebu fel Prif Fyfforddwr ei wlad, ‘roedd Bowring yn hynod o falch iddo dderbyn yr her: “Doedd dim llawer o bobl eisiau’r swydd ar y pryd ond doeddwn i ddim yn gallu ystyried gwrthod y cynnig i hyfforddi fy ngwlad.
“Fydden i wedi difaru ei gwrthod am weddill fy oes gan ei bod hi’n un o’r swyddi mwyaf arbennig yn y byd rygbi.”
Penderfynodd adael y swydd yn gynnar gan i’r Undeb wrthod ei gynlluniau i greu system ranbarthol yn hytrach na gosod y prif bwyslais ar y clybiau.
O dan arweiniad Kevin Bowring fe geisiodd y Cymry fabwysiadu steil mwy ‘Cymreig’ o chwarae ymosodol – ond yn y pendraw – yn dilyn colledion trwm yn erbyn Lloegr ac yna o 51-0 erbyn Ffrainc yn Wembley ym 1998 – fe ildiodd Bowring yr awennau. Aeth Ffrainc ymlaen i ennill y Gamp Lawn y flwyddyn honno.
“Er y ddwy record o golled – honno oedd ein Pencampwriaeth orau ers 1994 ac ‘roeddwn eisiau arbrofi wrth baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.
“Roedd y ffaith bod Caerdydd ac Abertawe wedi dewis chwarae eu rygbi yn Lloegr wedi cynnig gemau cystadleuol iawn i’w chwaraewyr – a hynny ar lefel nad oedd ar gael ar y pryd yng Nghymru.”
Graham Henry gafodd ei benodi’n Brif Hyfforddwr Cymru – ac fe aeth Kevin Bowring ymalen i ddarlithio yn Ysgol Chwaraeon Met Caerdydd ac fe hyfforddodd Glwb Rygbi Newbury hefyd.
Wedi hynny fe’i penodwyd yn hyfforddwr elît gan Undeb Rygbi Lloegr am ddegawd.
Daeth hefyd yn aelod o Fwrdd Hyfforddi Prydain ac yn fentor i hyfforddwr gydag Undeb Rygbi Cymru.
Hoffai Undeb Rygbi Cymru estyn pob cydymdeimlad i Wendy, gwraig Kevin a gweddill ei deulu a’u ffrindiau i gyd.