Bydd carfan Richard Whiffin yn teithio i Gasnewydd ar gyfer trydedd rownd gemau’r Bencampwriaeth (Gwener 21 Chwefror am19:45) cyn herio pencampwyr presennol y byd, Lloegr ar Barc yr Arfau ar benwythnos ola’r gystadleuaeth (Gwener 14 Mawrth am 19:30).
Bydd ymgyrch y Cymry ifanc yn dechrau ddydd Sadwrn y 1af o Chwefror am 20:10 – yn y Stade de la Rabine yn Vannes – cyn teithio o Ffrainc i wynebu’r Eidal yn Treviso nos Wener y 7fed o Chwefror am 19:15.
Bydd taith i Stadiwm Hive yn wynebu carfan Cymru rhwng eu dwy gêm gartref – gyda’r gic gyntaf yng Nghaeredin ar nos Wener y 7fed o Fawrth am 19:15.
Cynhaliwyd dwy o gemau Cymru yn y Bencampwriaeth y llynedd ar Barc yr Arfau gan gynnwys gêm gofiadwy olaf yr ymgyrch – welodd fechgyn Richard Whiffin yn trechu’r Eidal.
Nid yw Rodney Parade wedi cynnal gêm ryngwladol o dan 20 ers ymweliad Seland Newydd ym Mhencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn 2008.
Dywedodd Nigel Walker, Cyfarwyddwr gweithredol rygbi, Undeb Rygbi Cymru: “Mae nifer o aelodau carfan y tymor diwethaf yn dal ar gael i’n cynrychioli eto eleni – ac yn dilyn ein perfformiadau cryf yn erbyn Seland Newydd ac Awstralia yng Ngwpan Ieuenctid y Byd eleni – fe allwn edrych ymlaen yn hyderus at y Chwe Gwlad.
“Fe berfformion ni’n dda yn erbyn Ffrainc yn Ne Affrica dros yr haf hefyd – a bydd yr ornest agoriadol ar dir y Ffrancod yn cynnig arwydd clir i ni o’n datblygiad.”
Wrth edrych ymlaen at groeswu Iwerddon a Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2025, ychwanegodd Richard Whiffin, Prif Hyfforddwr tîm o dan 20 Cymru: “Ry’n ni fel tîm hyfforddi wedi gwylio nifer o gemau Super Rygbi Cymry ym mhob rhanbarth – ac mae’r ffaith fod lleoliadau ein gemau cartref bellach wedi eu cadarnhau – yn gwneud pethau’n fwy real rywsut.
“Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i Gaerdydd i herio’r Hen Elyn ar nos Wener ola’r Bencampwriaeth. Felly hefyd yr ornest Rodney Parade hefyd – fydd yn brofiad newydd i ni fel carfan.
“Bydd Lloegr ac Iwerddon yn siwr o ddod â nifer o gefnogwyr gyda nhw – ac felly bydd y ddau achlysur yn siwr o fod yn swnllyd a chofiadwy! Ein gobaith ni fydd sicrhau y byddwn yn chwarae dull agored o rygbi i gyffroi’r dorf yn y ddwy gêm honno.
“Mae olwyr Caerdydd yn y Super Rygbi Cymru eleni wedi bod yn ifanc a chyffrous a bydd nifer ohonyn nhw yn ein carfan ar gyfer y Bencampwriaeth. Cyfle gwych felly i selogion Parc yr Arfau ddod i gefnogi bechgyn lleol yn y crys coch.
“Bydd nifer o chwaraewyr Casnewydd yn y garfan hefyd – ac felly bydd cyfle arbennig i drigolion Gwent gefnogi bechgyn eu milltir sgwâr yn erbyn Iwerddon ar Rodney Parade hefyd.”
Gemau cartref Cymru ym Mhencampwriaeth o dan 20 y Chwe Gwlad 2025
Cymru v Iwerddon, Rodney Parade, Casnewydd, Gwener 21 Chwefror 2025, 7.45pm
Cymru v Lloegr, Parc yr Arfau, Caerdydd, Gwener 14 Mawrth 2025, 7.30pm
Tocynnau Cynnar ar gael tan 31 Rhagfyr 2024
Prisiau: £10 eistedd / £5 sefyll / £5 consesiynau ac i rai o dan 18 oed