Bydd Marc Breeze yn ymgymryd â’r gwaith o hyfforddi sgrymiau a thaflu i’r leiniau ac mae Ashley Beck wedi ei benodi’n hyfforddwr llwybr datblygu y merched a’r menywod.
Mae gan y ddau brofiad helaeth o chwarae a hyfforddi ac mae Breeze a Beck yn awchu i ddechrau ar eu gwaith.
Dywedodd Marc Breeze, sydd ar hyn o bryd yn îs-hyfforddwr gydag Aberafan yng Nghynghrair Super Rygbi Cymru ac yn gyn swyddog datblygu dyfarnwyr gydag Undeb Rygbi Cymru: “Mae’r cyfle yma’n hynod o gyffrous ac ‘rwy’n edrych ymlaen yn fawr at wneud fy ngorau yn fy rôl newydd.”
Bydd Breeze yn gweithio’n agos gyda Mike Hill (Hyfforddwyr blaenwyr Menywod Cymru) a Jonathan Humphreys (Hyfforddwr blaenwyr Dynion Cymru) er mwyn datblygu’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr rheng flaen ar gyfer rygbi proffesiynol a rhyngwladol.
Ychwanegodd Marc Breeze:”Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda chwaraewyr addawol er mwyn eu cefnogi i wneud y mwyaf o’u doniau. ‘Rwyf wedi cysylltu gyda’r clybiau a’r rhanbarthau’n barod – ac eisoes wedi cael sgyrsiau cadarnhaol am sut y gallwn ni gynnig y gefnogaeth orau i’r bechgyn a’r merched addawol hynny.
“Yn dilyn y sgyrsiau yma – fe fyddaf yn creu cynllun penodol er mwyn meithrin eu datblygiad yn y ffordd fwyaf addas ac effeithiol.
“Rwyf eisoes wedi cael y profiad o weithio ar ymgyrchoedd Chwe Gwlad a Chwpan y Byd ac felly mae gennyf syniad da o’r disgwyliadau a’r cyfleoedd posib.”
Bydd rôl newydd Ashley Beck yn ei weld yn cydweithio’n agos gyda’r rhwydwaith o Ganolfannau Datblygu Chwaraewyr – fel y gall oruchwilio datblygiad nifer o chwaraewyr tra’n parhau i weithio fel Prif Hyfforddwr Brython Thunder yn yr Her Geltaidd ac fel îs-hyfforddwr y tîm o dan 20.
“Mae hwn yn gyfle cyffrous i barhau gyda’r gwaith da wnaed yn nhymor cyntaf Brython Thunder y llynedd. Ry’n ni wedi ennill ein plwyf fel tîm newydd a chreu hunaniaeth i’n hunain hefyd.
“Mae’r ffaith y byddwn yn chwarae gemau cartref ac oddi-cartref yn erbyn y timau eraill eleni’n brawf o’r ymrwymiad sy’n bodoli i ddatblygu rygbi merched a menywod – a hynny lai na blwyddyn cyn i broffil y gamp gynyddu ymhellach gyda Chwpan y Byd yn cael ei gynnal yn Lloegr.
“Ry’n ni wedi gweld nifer o’n chwaraewyr yn camu o grys Brython i grys coch tîm o dan 20 Cymru a’r prif dîm hefyd wrth gwrs. Mae gweld y chwaraewyr hyn yn datblygu yn brofiad pleserus a breintiedig iawn.
“Mae gan Gymru hanes gwych o greu chwaraewyr rygbi arbennig a’n cyfrifoldeb ni yw darparu cynlluniau clir a heriol i’r genhedlaeth nesaf – gan gynnig y cymorth a’r arweiniad angenrheidiol iddyn nhw – fel bod ganddynt bob cyfle i wireddu eu potensial a’u breuddwydion.
“Rwy’n derbyn yn llwyr bod cyfrifoldeb mawr ar fy ysgwyddau er mwyn cynnig pob cyfle i’r chwaraewyr yma i wneud y gorau o’u doniau – fel y gallan nhw wneud eu teuluoedd a’r genedl yn falch ohonyn nhw.”
Dywedodd Pennaeth Datblygu Chwaraewyr Undeb Rygbi Cymru, John Alder: “Rydym yn arbennig o hapus gyda phenodiadau Ashley a Marc ac mae sicrhau gwasanaeth allweddol ac arbenigol y ddau yn arwydd clir o’n hymrywymiad i gynnig llwybr datblygu o’r radd flaenaf.
“Hoffwn ddiolch i gronfa’r Royal London a’r Llewod am eu cyfraniad – sydd wedi galluogi i ni benodi Marc ac Ashley.
“Mae profiad Marc wrth hyfforddi chwaraewyr a hyfforddwyr fel ei gilydd yn mynd i fod yn hynod werthfawr yn natblygiad chwaraewyr rheng flaen ein dynion a’n menywod mwyaf addawol.
“Mae uchelgais a brwdfrydedd Ashley i ddatblygu camp y menywod yn heintus ac mae ei brofiad o weithio gyda thîm menywod Caerwrangon, cyn symud ymlaen i arwain Brython Thunder, yn gosod sail gadarn i’w lwyddiant yn ei rôl newydd.
“Does dim amheuaeth bod y ddau ohonyn nhw’n angerddol am gynnig gwir arweiniad a chymorth i’n chwaraewyr addawol – a thrwy gydweithio gyda’n staff sydd eisoes yn eu lle – bydd eu penodiadau’n allweddol wrth ddatblygu doniau dynion a menywod y genhedlaeth nesaf o dalent Cymreig.”