Fe dderbyniodd chwaraewr rheng ôl y Dreigiau ei wobr yr wythnos hon ac mae’n dilyn yn ôl traed enillydd y llynedd Jac Morgan, a rhai o fawrion blaenorol y gamp hefyd gan gynnwys Gareth Edwards, Barry John, JPR Williams, Mervyn Davies, Phil Bennett, Terry Holmes, Jonathan Davies, Scott Gibbs, Ieuan Evans, Neil Jenkins, Rob Howley, Scott Quinnell, Gareth Thomas, Martyn Williams, Gethin Jenkins, Shane Williams, Sam Warburton, Leigh Halfpenny, ac Alun Wyn Jones.
Wrth dderbyn tlws Lloyd Lewis, dywedodd Wainwright, sydd bellach yn 27 oed: “Mae’n codi ychydig o fraw arna’i fod fy enw ar yr un rhestr â rhai o wir fawrion y gêm yma yng Nghymru. Mae ambell flwyddyn ar ôl yn yr hen goesau ac ‘rwy’n gobeithio bod mwy – a gwell – i ddod gennyf yn ystod y tymhorau nesaf.”
Mae Aaron Wainwright wedi mwynhau blwyddyn dda’n bersonol ac fe gyrhaeddodd garreg filltir bwysig dros yr haf, pan enillodd ei 50fed cap yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Allianz – a hynny chwe blynedd wedi iddo ennill ei gap cyntaf dros ei wlad yn y fuddugoliaeth o 23-10 yn erbyn Ariannin.
Yn anffodus, fe ddioddefod anaf i’w goes yn yr ornest honno yn Sydney – ac mae’n gobeithio bod yn ôl yn cynrychioli’r Dreigiau yn ystod yr wythnosau nesaf: “Tydw i ddim eisiau temtio ffawd wrth osod dyddiad penodol ar gyfer fy ngêm gyntaf yn ôl – ond ‘dwi’n croesi popeth y bydd hynny’n digwydd yn ystod yr wythnos neu ddwy nesaf.
“Mae wedi bod yn gyfnod anodd gan mai dyma fy anaf difrifol cyntaf ac er mod i bron â thorri fy mol eisiau bod yn ôl yn chwarae – mae’n rhaid i mi wrando ar y tîm meddygol.
“Y cwbl alla’i ei wneud yw gweithio’n galed er mwyn gwneud yn siwr bod fy nghorff yn cael bob cyfle i fod yn holliach cyn i mi ddychwelyd.”
Mae Aaron Wainwright yn berson hynod ddiymhongar ac fe dderbyniodd ei wobr wrth gynnig help llaw yn ei glwb cyntaf un – sef Whiteheads ym Masaleg ger Casnewydd.
Mae’n mynd yn ôl i’r clwb yn gyson ac yn cynorthwyo gyda hyfforddiant y timau ieuenctid a phrif dîm y clwb. Wrth rannu ei brofiad mae’n gobeithio y bydd hynny’n gymorth i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o sêr i Rygbi Cymru.
“Whiteheads oedd fy nghlwb cyntaf – ac fe chwaraeais rhyw 7 neu wyth o gemau i’r tîm cyntaf – gan gynnwys un rownd derfynol leol yn Rodney Parade. Fe gollon ni’r ffeinal ac fe gefais gerdyn melyn hefyd!
“Does gennyf ddim bwriad hyfforddi’n llawn amser ond dwi’n mwynhau helpu pan alla’i ar hyn o bryd. Mae gweld y chwaraewyr ifanc yn datblygu yn rhoi pleser mawr i mi – ac os yw ambell bwt o gyngor dwi’n gallu ei gynnig yn eu helpu – gorau oll.
“Mae llawer o fy ffrindiau yn dal yn y clwb ac felly mae’n braf mynd yn ôl yno am sgwrs ac ychydig o hwyl. Fe gawn ni weld ymhen rhai blynyddoedd os fydd hyfforddi ar lefel uwch yn apelio neu beidio.
“Mae mynd yn ôl i’r clwb yn gyson yn sicr yn cadw fy nhraed ar y ddaear a phan fyddaf wedi gwneud camgymeriad mewn gêm dros y Dreigiau neu Gymru – bydd y bois yn siwr o dynnu fy nghoes – sy’n grêt wrth gwrs.
“Mae cymdeithasu, ymlacio a chael sgyrsiau a hwyl gyda fy ffrindiau yn arbennig o bwysig – yn enwedig ychydig o ddyddiau cyn chwarae o flaen 75,000 o bobl yn Stadiwm Principality.
“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un dda i mi o safbwynt fy mherfformiadau a fy natblygiad. Tydw i ddim yn hoffi edrych yn rhy bell ymlaen at y dyfodol ac felly ar hyn o bryd y cwbl dwi’n ei wneud yw canolbwyntio ar wella’n llwyr o’r anaf a gweld beth ddaw wedi hynny.”