Neidio i'r prif gynnwys
Yr Eidal yn curo Cymru o drwch blewyn yn y WXV2

Yr Eidal yn curo Cymru o drwch blewyn yn y WXV2

Yn dilyn eu colled siomedig yn erbyn Awstralia yn eu gêm agoriadol o’r WXV2 yn Ne Affrica – colli unwaith yn rhagor o 8-5 oedd hanes Cymru yn erbyn Yr Eidal yng ngwres Stadiwm Athlone yn Cape Town y prynhawn yma.

Rhannu:

‘Roedd Hannah Jones wedi methu â chwarae yn nhair gêm flaenorol y Crysau Cochion o ganlyniad i anaf, a’r gobaith oedd y byddai ei phresenoldeb wedi rhoi gwynt yn hwyliau carfan Ioan Cunningham. Yn anffodus nid felly y bu hi.

Cafodd Jones wybod ychydig cyn y gic gyntaf mai Hannah Bluck fyddai ei phartner yn y canol yn dilyn anaf hwyr i Kerin Lake.

Pwysleisiodd Ioan Cunnigham yn ystod yr wythnos ei bod hi’n bwysig cofio bod ei dîm wedi curo Le Azzurre yn eu dwy gêm ddiwethaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad a’r gobaith o safbwynt Cymreig oedd y byddai hyder yr Eidalwyr wedi derbyn cnoc yn dilyn eu colled o 19-0 yn erbyn Yr Alban yn eu gêm agoriadol nhw yn y Bencampwriaeth.

Cyn yr ornest yn Cape Town, ‘roedd y ddwy wlad wedi mynd ben-ben â’i gilydd 17 o weithiau gyda’r naill dîm a’r llall wedi ennill 8 o weithiau – gydag un canlyniad cyfartal – a’r tro hwn Yr Eidal agoriodd y sgorio wrth i’r capten Elisa Giordano dirio’n rhwydd yn dilyn sgarmes rymus gan ei chyd-flaenwyr.

Y Crysau Cochion reolodd y meddiant a’r tir yn ystod y cyfnod cyntaf – ac wedi i linell gais Yr Eidal fod o dan warchae – fe blymiodd Hannah Bluck dros y gwyngalch i wneud pethau’n gyfartal gyda phum munud o’r deugain munud agoriadol ar ôl.

Hanner Amser – Cymru 5 Yr Eidal 5

Wedi dau funud o’r ail hanner, daeth Sisilia Tuipulotu i’r maes yn lle Donna Rose – ond wyth munud wedi hynny aeth yr Eidalwyr ar y blaen am yr eildro wedi i gic gosb Beatrice Rigoni o 30 llath hollti’r pyst – a’r gic honno brofodd i fod yn gwahaniaeth rhwng y timau yn y pendraw.

Prin iawn fu’r cyfleoedd grewyd gan dîm Hannah Jones i daro’n ôl ac er iddynt bwyso’n hwyr – bu gormod o gamgymeriadau bychain yn eu chwarae i hawlio’r fuddugoliaeth.

Wrth i’r cloc droi’n goch fe gafodd y Cymry gyfle hawdd i sicrhau canlyniad cyfartal – ond gwrthod y gic a mynd am y fuddugoliaeth oedd y penderfyniad. Er iddynt fygwth y llinell gais yn gyson yn amser yr amen, fe lwyddodd amddiffyn Yr Eidal i atal Keira Bevan rhag tirio wedi iddi groesi’r gwyngalch – ac o’r herwydd Le Azzurre oedd yn dathlu ar y chwiban olaf.

Cafodd y Cymry siom sylwedddol arall yn ystod y prynhawn hefyd wrth i Lleucu George adael y maes yn y munudau olaf, gydag anaf poenus i’w phen-glin.

Er y golled, cafwyd eiliad gofiadwy bedwar munud cyn y chwiban olaf – wrth i Alaw Pyrs ymuno gyda’i chwaer Gwenllian – ar y maes rhyngwladol am y tro cyntaf.

Ail ganlyniad siomedig y Cymry o’r Bencampwriaeth felly. Bydd ganddynt un cyfle arall ddydd Gwener nesaf i sicrhau buddugoliaeth, pan fyddant yn dychwelyd i Stadiwm Athlone i herio Japan.

Canlyniad: Cymru 5 Yr Eidal 8

Wedi’r chwiban olaf dywedodd Hannah Jones, Capten Cymru: “Unwaith eto fe fethon ni â chymryd ein cyfleoedd pan oedden ni yn eu dwy ar hugain nhw – ond wnaethon ni ddim rhoi lan o gwbl ac mae’n rhaid i ni gymryd hyder o hynny. Mae’n rhaid i ni ddiolch i’r cefnogwyr sydd wedi teithio’r holl ffordd mas fan hyn ac mae’n rhaid i ni wella popeth cyn wynebu Japan ymhen wythnos.”

Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Cymru, Ioan Cunningham: “Ry’n ni gyd yn hynod siomedig gyda’r canlyniad. Fe gawson ni lawer o feddiant ac fe gawson ni gyfle i gipio’r fuddugoliaeth yn hwyr iawn – ond yn anffodus fe fethon ni â gwneud hynny. ‘Does dim llawer o amser gennym tan herio Japan yr wythnos nesaf – ond mae pawb yn gwybod bod gennym lawer o waith i’w wneud cyn hynny.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Yr Eidal yn curo Cymru o drwch blewyn yn y WXV2
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Yr Eidal yn curo Cymru o drwch blewyn yn y WXV2
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Yr Eidal yn curo Cymru o drwch blewyn yn y WXV2
Rhino Rugby
Sportseen
Yr Eidal yn curo Cymru o drwch blewyn yn y WXV2
Yr Eidal yn curo Cymru o drwch blewyn yn y WXV2
Yr Eidal yn curo Cymru o drwch blewyn yn y WXV2
Yr Eidal yn curo Cymru o drwch blewyn yn y WXV2
Yr Eidal yn curo Cymru o drwch blewyn yn y WXV2
Yr Eidal yn curo Cymru o drwch blewyn yn y WXV2
Amber Energy
Opro
Yr Eidal yn curo Cymru o drwch blewyn yn y WXV2