Neidio i'r prif gynnwys
Adolygiad URC – Merched Cymru

Adolygiad URC – Merched Cymru

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi adolygu ei phrosesau yn dilyn y trafodaethau diweddar ynglŷn â chytundebau carfan Menywod Cymru.

Rhannu:

Fis diwethaf, cadarnhawyd bod 37 o gytundebau llawn amser wedi eu harwyddo gan aelodau’r garfan gan hefyd sicrhau eu bod yn derbyn cefnogaeth o’r radd flaenaf.

Yn dilyn cyfnod hir a heriol o drafod, croesawyd y cytundebau gan bawb gymrodd ran yn y trafodaethau. Y broses honno o drafod oedd prif destun yr adolygiad.

Bydd Undeb Rygbi Cymru yn cyhoeddi canlyniadau’r adolygiad hwnnw’n llawn unwaith i’r prif argymhellion gael eu cadarnhau gan Fwrdd yr Undeb yn ystod yr wythnosau nesaf – ond er mwyn bod yn agored am y broses, penderfynwyd rhannu’r prif benawdau cyn hynny.

Cynhaliwyd yr adolygiad gan ddau aelod o’r Bwrdd, Alison Thorne a Claire Donovan. Cadeirydd yr Undeb, Richard Collier-Keywood a’r Prif Weithredwr Abi Tierney oedd y ddau brif gyfranwr.

Penderfynwyd gwneud nifer o argymhellion am brosesau’r dyfodol.

Dywedodd Abi Tierney: “Ein prif fwriad trwy gydol y broses yw gwneud ein gorau dros ein chwaraewyr gan hefyd gydnabod bod yn rhaid i ni weithio o fewn fframwaith cytbwys a chynaliadwy.

“Mae’r adolygiad wedi edrych ar brosesau ac ymddygiad yn yr Undeb yn ystod y trafodaethau cytundebol. ‘Rydym wedi gwrando ar bryderon gafodd eu codi ac rydym eisoes wedi ymrwymo i gyflwyno nifer o welliannau yn y cyd-destun hwnnw.

“Rydym yn ymateb yn gadarn iawn i argymhellion yr adolygiad – proses welodd oddeutu 30 o bobl yn cael eu cyfweld dros gyfnod o dros 50 awr yn gyfan gwbl.

“Rydym wedi cydnabod bod elfennau o’r broses angen eu gwella gan hefyd gofio bod yr Undeb wedi gweddnewid ei buddsoddiad ym mhob agwedd o ddatblygiad carfan ryngwladol y menywod dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hynny wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn buddsoddiad a chyfleoedd i’r chwaraewyr.

“Mae eleni wedi bod yn flwyddyn wahanol iawn i garfan y menywod. Wrth gynyddu’r buddsoddiad – fe gododd y disgwyliadau hefyd ac felly mae’n gwbl glir fod yn rhaid i ni weithio’n galetach fyth er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu perthynas adeiladol a chadarnhaol gyda’n chwaraewyr.

“Ein bwriad o’r dechrau’n deg oedd buddsoddi ymhellach yn y garfan gan hefyd gynyddu’r cyfleoedd a’r gefnogaeth i ferched allu dod yn chwaraewyr proffesiynol.

“Rydym yn ddiolchgar i’r chwaraewyr am eu cydweithrediad ac am godi eu pryderon am rai agweddau o’r trafodaethau.

“Y drafodaeth adeiladol hon sydd wedi arwain at yr adolygiad gan aelodau’r Bwrdd. Mae un ohonynt yn aelod annibynnol tra bo’r llall wedi ei hethol. Maen nhw wedi ystyried yr hyn ddigwyddodd ac wedi ein cynorthwyo i ddysgu a gwella pethau ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru Richard Collier-Keywood: “Dysgwyd y dylid fod wedi delio gyda rhai problemau amlwg ynghynt a dylai’r cyfathrebu yn ystod y broses wedi bod yn fwy clir. Rydym yn flin bod y problemau hyn wedi cynyddu’r pwysau ar nifer o unigolion – pan y dylid fod wedi gallu osgoi hynny.

“Yn wahanol i’r dynion, mae’r menywod sydd yn y garfan ryngwladol yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan Undeb Rygbi Cymru ac mae’r adolygiad wedi datgan yn glir y dylem fod wedi paratoi’n well er mwyn osgoi’r elfen o ddiffyg ymddiriedaeth ddatblygodd yn y pendraw.

“Yn dilyn yr adolygiad, gallwn gymryd camau ymarferol ychwanegol er mwyn sicrhau ein bod yn gwella’n darpariaeth ymhellach i’n chwaraewyr elît gan hefyd greu fframwaith fydd yn cynnig cefnogaeth o safbwynt datblygiad, perfformiad, diwylliant ac ymddygiad o dan arweiniad ein timau hyfforddi ac arbenigwyr allanol yn ogystal.”

Ychwanegodd Abi Tierney: “Rydym yn hynod o falch bod 37 o gytundebau llawn amser wedi eu cadarnhau – sy’n sicrhau bod Menywod Cymru yn derbyn cefnogaeth sydd gyda’r gorau yn y byd.

“Bydd URC yn parhau i fuddsoddi yng nghamp y merched a’r menywod a bydd cyfanswm o £26m yn cael ei neilltuo ar gyfer hynny dros gyfnod o bum mlynedd ein strategaeth newydd – fydd yn cael ei chyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd hyn yn cynnwys cynnydd o £6m sydd eisoes wedi ei gadarnhau gan Fwrdd yr Undeb.

“Mae’r datblygiadau hyn yn dangos yn glir bod URC yn dysgu o brofiadau’r gorffennol gan hefyd gadarnhau y gwelliannau llywodraethiant sydd wedi eu cyflwyno’n ddiweddar.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Adolygiad URC – Merched Cymru
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Adolygiad URC – Merched Cymru
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Adolygiad URC – Merched Cymru
Rhino Rugby
Sportseen
Adolygiad URC – Merched Cymru
Adolygiad URC – Merched Cymru
Adolygiad URC – Merched Cymru
Adolygiad URC – Merched Cymru
Adolygiad URC – Merched Cymru
Adolygiad URC – Merched Cymru
Amber Energy
Opro
Adolygiad URC – Merched Cymru