Bydd Nicholas-McLaughlin, enillodd 60 o gapiau dros ei gwlad, yn parhau i hyfforddi Gwalia Lightning tra bydd Beck, chwaraeoedd dros Gymru ar 7 achlysur, yn parhau wrth y llyw gyda Brython Thunder.
Bydd mwy o gemau’n y gystadleuaeth y tymor hwn gan y bydd y timau o Iwerddon, Yr Alban a Chymru’n chwarae gemau cartref ac oddi-cartref yn erbyn pob un o’u gwrthwynebwyr.
Yn nhrydedd tymor y gystadleuaeth, Caeredin a Glasgow fydd yn parhau i gynrychioli’r Alban a’r Wolfhounds a Clover fydd yn chwifio’r faner dros y Gwyddelod.
Bydd gemau’r ymgyrch newydd hon yn dechrau ddiwedd mis Rhagfyr ac yn dod i ben fis Mawrth.
Mae Nicholas-McLaughlin, yn gyn Brif Hyfforddwr tîm o dan 18 Merched Cymru ac wedi cael profiad o fod yn is-hyfforddwr y garfan o dan 20 hefyd. Y tymor diwethaf, fel Prif Hyfforddwr Gwalia Lightning, fe lwyddodd hi i ddatblygu nifer o chwaraewyr gamodd ymlaen i’r llwyfan rhyngwladol am y tro cyntaf – gan gynnwys y mewnwr Sian Jones, yr wythwr Gwennan Hopkins, yr asgellwr Catherine Richards, y bachwr Molly Reardon, y prop Maisie Davies a’r clo Alaw Pyrs.
Dywedodd Catrina Nicholas-McLaughlin: “Mae’r Her Geltaidd wedi profi’n hynod o werthfawr i ddatblygiad ein carfan ifanc.
“Mae chwaraewyr fel Nel Metclafe, Gwennan, Sian a Molly wedi defnyddio’r gystadleuaeth i hyrddio eu hunain i’r tîm rhyngwladol llawn – gan sefydlu eu hunain yn y garfan honno. Mae’r ffaith eu bod wedi dychwelyd i’w clybiau yn Lloegr ar ôl yr Her Geltaidd y llynedd wedi bod o werth hefyd.
“Fe osodon ni ein stamp a’n gwerthoedd ein hunain ar ein carfan y tymor diwethaf a does dim amheuaeth bod cael chwaraewyr rhyngwladol profiadol fel Bryonie King a Kate Williams yn ein plith, wedi bod yn werthfawr iawn i ddatblygiad gweddill y garfan.”
Mae Ashley Beck wedi cael ei benodi’n hyfforddwr ymosod tîm o dan 20 Menywod Cymru’n ddiweddar – ac fe chwaraeodd dros 100 o gemau dros y Gweilch yn ystod ei gyfnod fel chwaraewr dosbarth cyntaf. Fe arweiniodd garfan Brython Thunder y tymor diwethaf oedd yn cynnwys chwaraewyr rhyngwladol allweddol megis Alex Callender, Natalia John a Sioned Harries. Mae Harries, yr wythwr prfiadol, bellach wedi ymddeol o’r gamp.
Dywedodd Ashley Beck: “Roedd gweithio gyda rhai chwaraewyr mor brofiadol y tymor diwetha’n brofiad braf. ‘Roedden nhw’n gweld gwir werth yn yr Her Geltaidd ac ‘roedd eu hagwedd gadarnhaol tuag at y gystadleuaeth yn dangos ei phwysigrwydd.
“Fe wellon ni’n sylweddol erbyn y gemau olaf y tymor diwethaf ac ‘roedden ni wedi sefydlu ein patrwm chwarae erbyn hynny hefyd.
“Ry’n ni’n croesawu’r ffaith y byddwn yn chwarae gartref ac oddi-cartref yn erbyn pawb y tymor yma’n fawr iawn – ond mi fydd hynny’n heriol iawn. Mae cael y cyfle i chwarae mwy o gemau yn erbyn goreuon Iwerddon a’r Alban yn tynnu dŵr i’r dannedd.”
Y tymor diwethaf, gorffenodd Gwalia Lightning yn drydydd yn yr Her Geltaidd – ac un fuddugoliaeth yr un oedd hi rhwng y ddau dîm Cymreig gynhaliwyd yn Rodney Parade a Pharc y Scarlets.