Neidio i'r prif gynnwys
Fiji’n ennill yng Nghymru am y tro cyntaf erioed

Hon oedd ail fuddugoliaeth erioed Fiji yn erbyn Cymru

Fiji’n ennill yng Nghymru am y tro cyntaf erioed

Am yr eildro’n unig, fe lwyddodd Fiji i guro Cymru mewn gêm ryngwladol lawn yn dilyn eu buddugoliaeth gyntaf erioed ar dir Cymreig o 24-19 yn Stadiwm Principality.

Rhannu:

Hon oedd y ddegfed golled ryngwladol yn olynol i Gymru ei dioddef – sydd bellach yn gyfartal â rhediad gwaethaf y tîm erioed.

Er bod Ynyswyr Môr y De wedi colli’n drwm o 57-17 yn erbyn Yr Alban wythnos ynghynt, ‘roedd Eroni Mawi, Semi Radradra a 9 chwaraewr arall ar gael i’r Prif Hyffordwr Mick Byrne ar gyfer yr ornest hon – gan gynnig her ychwangeol i Warren Gatland a’i dîm – oedd yn cynnwys asgellwr y Scarlets Blair Murray am y tro cyntaf.

Bu’r Cymry yn nwy ar hugain eu gwrthwynebwyr trwy gydol y 4 munud cyntaf ond er iddynt fygwth y llinell gais am 18 o gymalau – fe brofodd amddiffyn Fiji’n drefnus a dewr.

Hynny yw tan i Blair Murray fanteisio ar basio dyheig trindod y Gleision Mason Grady, Ben Thomas a Cam Winnett i garlamu i’r gornel a hawlio ei gais rhynwgladol cyntaf wedi 7 munud o chwarae.

Fe sgoriodd Blair Murray ac Ellis Bevan eu ceisiau cyntaf dros Gymru.

Trosodd Gareth Anscombe yn hyderus o’r ystlys ond 4 munud yn ddiweddarach – llwyddodd Caleb Muntz gyda’i gynnig cyntaf ef at y pyst hefyd i leihau’r bwlch i bedwar pwynt.

Wedi 14 munud o chwarae, ‘roedd Cam Winnett yn meddwl ei fod wedi sgorio ei gais cyntaf ef dros Gymru – ond yn dilyn adolygiad – fe benderfynodd y tîm dyfarnu bod Tommy Reffell wedi troseddu ynghynt yn y symudiad. Dim cais i Winnett felly a cherdyn melyn i Reffell.

Bedwar munud wedi hynny – dangoswyd cerdyn melyn i wythwr Fiji Elia Canakaivata – am atal sgarmes ymosodol Cymru’n anghyfreithlon yng nghysgod y pyst – a chanlyniad hynny oedd Luc Ramos yn dyfarnu cais cosb i’r tîm cartref.

Aeth pethau’n waeth i’r ymelwyr wedi 21 munud o chwarae gan i Semi Redradra gael ei ddanfon i’r cell cosb am dacl beryglus ar Cam Winnett wrth iddo gasglu pêl uchel – ac wedi’r adolygiad – penderfynwyd uwchraddio’r drosedd honno i gerdyn coch. O dan reolau newydd y byd rygbi – caniatawyd i Fiji ddod ag eilydd i’r maes yn ei le 20 munud yn ddiweddarach.

Ond er bod gan Gymru ddyn o fantais yn y cyfamser – cafwyd cyfnod rhwystredig o chwarae o safbwynt Cymreig wedi hynny. Yn gyntaf bu’n rhaid i Mason Grady adael y maes gydag anaf i’w goes – olygodd bod yn rhaid i Sam Costelow chwarae fel asgellwr – ac yna fe ildiwyd cais hefyd wrth i faswr Fiji, Caleb Muntz gasglu y bêl bron i 40 metr o’r llinell gais. Fe sicrhaodd ei gyflymdra a’i gryfder, gais cyntaf cofiadwy ei dîm o’r prynhawn – cyn iddo ychwanegu’r trosiad hefyd.

‘Roedd amser am un digwyddiad allweddol arall cyn yr egwyl pan benderfynodd Luc Ramos ddileu cais cosb i Fiji wedi i drosedd yn y lein ar ddechrau’r symudiad, gael ei amlygu gan y dyfarnwr teledu. Y Cymry o’r herwydd ar y blaen ar ddiwedd hanner cyntaf llawn digwyddiad.

Hanner Amser Cymru 14 Fiji 10.

Dri munud wedi troi, ‘roedd Fiji yn ôl o fewn pwynt, wedi i Muntz godi ei gyfanswm personol i 13 o bwyntiau – ac ‘roedd gan yr ymwelwyr 15 dyn ar y maes unwaith yn rhagor wedi i gyfnod y cerdyn coch ddod i ben. Prif sgoriwr ceisiau prif gynghrair Ffrainc y tymor hwn, Sireli Maqala ddaeth i’r maes yn lle Radradra.

Penderfynodd Warren Gatland wneud pedwar newid i’w dîm bedwar munud wedi troi – pan gyflwynodd reng flaen newydd a chynnig y cyfle i Jac Morgan gynrychioli ei wlad am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 2023.

Wedi 8 munud o’r ail gyfnod – aeth Fiji ar y blaen am y tro cyntaf – a doedd hi’n ddim syndod gweld Muntz yn llwyddo hollti’r pyst unwaith yn rhagor gyda’i gicio cywir.

Unwaith iddynt gael eu trwynau ar y blaen – doedd dim troi yn ôl – ac wrth i’r ornest gyrraedd y chwarter olaf – fe ddangosodd Fiji eu grym a’u doniau unwaith yn rhagor wrth i Josua Tuisova dirio ail gais ei wlad o’r prynhawn.

Cyflwynwyd James Botham, Christ Tshiunza ac Ellis Bevan i’r crochan wedi’r sgôr hwnnw – a gyda’i gyffyrddiad cyntaf ar yr asgell, fe diriodd Ellis Bevan ei gais cyntaf dros ei wlad ar ei ymddangosiad cyntaf yn Stadiwm Principality.

Gan i Costelow – oedd bellach yn chwarae yn ei safle cyfarwydd fel maswr – fethu’r trosiad, ‘roedd y Crysau Cochion yn dal ar ei hôl hi o ddeubwynt.

‘Roedd digon o amser i seren y prynhawn Caleb Muntz hawlio triphwynt hwyr i godi ei gyfanswm personol i 19 pwynt – gan hawlio buddugoliaeth hanesyddol i’w wlad ar dir Cymru a chynyddu gofidiau Warren Gatland.

Bydd Gatland a’i garfan yn croesawu Awstralia ar gyfer ail gêm Cyfres yr Hydref ddydd Sul nesaf yn dilyn buddugoliaeth gampus y Wallabies ar yr eiliad olaf yn Twickenham y penwythnos yma.

Canlyniad: Cymru 19 Fiji 24

Wedi’r gêm dywedodd Capten Cymru Dewi Lake;”Ry’n ni’n arbennig o siomedig. Yr unig fwriad oedd ganddon ni’r wythnos yma oedd ennill heddiw – ac fe fethon ni wneud hynny.

“Doedd ein disgyblaeth na’n cywirdeb o dan bwysau ddim yn ddigon da heddiw – ond mae’n rhaid i ni ddysgu o’r boen o golli’r prynhawn ‘ma a defnyddio hynny’n bositif wrth baratoi i wynebu Awstralia. Mae’n bwysig i ni hefyd longyfarch Fiji ar eu perfformiad a’u buddugoliaeth.”

Ategodd Warren Gatland: “Yn naturiol ry’n ni’n siomedig iawn. Doeddwn i ddim yn hapus gydag ambell benderfyniad – ond ein cyfrifoldeb ni oedd gwella nifer o agweddau o’n chwarae yn enwedig pan oedd ganddyn nhw 13 o chwarewyr.

“Ar ddiwrnod arall fe fydden ni fod wedi gallu bod 20 pwynt ar y blaen – ond nid fel yna ddigwyddodd pethau’n anffodus.”

Ychwanegodd maswr y buddugwyr Caleb Muntz: “Mae’r fuddugoliaeth hon yn golygu llawer iawn i ni. ‘Roedd yn rhaid i ni lyfu’n clwyfau wedi’n colled yn erbyn Yr Alban yr wythnos ddiwethaf. Fe allen ni fod wedi curo Cymru yng Nghwpan y Byd y llynedd – ac felly mae ennill yma heddiw’n deimlad braf iawn.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Fiji’n ennill yng Nghymru am y tro cyntaf erioed
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Fiji’n ennill yng Nghymru am y tro cyntaf erioed
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Fiji’n ennill yng Nghymru am y tro cyntaf erioed
Rhino Rugby
Sportseen
Fiji’n ennill yng Nghymru am y tro cyntaf erioed
Fiji’n ennill yng Nghymru am y tro cyntaf erioed
Fiji’n ennill yng Nghymru am y tro cyntaf erioed
Fiji’n ennill yng Nghymru am y tro cyntaf erioed
Fiji’n ennill yng Nghymru am y tro cyntaf erioed
Fiji’n ennill yng Nghymru am y tro cyntaf erioed
Amber Energy
Opro
Fiji’n ennill yng Nghymru am y tro cyntaf erioed