Daeth yr Undeb a Ioan Cunningham i gytundeb am y sefyllfa a bydd y broses o benodi olynydd iddo’n dechrau ar unwaith wrth i URC barhau i ymchwilio’n annibynnol i’r broses benodi, i faterion godwyd yn ystod adolygiad diweddar.
Bydd Prif Hyfforddwr newydd yn ei swydd cyn dechrau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 er mwyn rhoi’r cyfle gorau i’r garfan lwyddo yn y tymor byr, canolig a’r hirdymor hefyd – gan gynnwys yng Nghwpan y Byd 2025 hefyd wrth gwrs.
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Abi Tierney: “Hoffwn ddiolch yn ffurfiol i Ioan Cunningham ac ei gyfraniad at rygbi rhyngwladol ein menywod yn ystod y tair blynedd ddiwethaf.
“Mae Ioan wedi bod wrth y llyw wrth i’r gamp droi o fod yn amatur i fod yn broffesiynol yma yng Nghymru ac o dan ei arweiniad fe lwyddwyd i drechu Awstralia am y tro cyntaf erioed yn gynharach eleni. Llwyddiant arall oedd gorffen yn drydydd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2023 a chyrraedd y WXV1 o’r herwydd.
“Mae rygbi merched a menywod yn parhau i fod yn flaenoriaeth i rygbi Cymru ac yn rhan allweddol o’n strategaeth newydd ar gyfer y gamp.”
Dywedodd Ioan Cunningham: “Ry’n ni wedi cymryd camau sylweddol i’r cyfeiriad cywir dros y tair blynedd ddiwethaf ac fe ddylen ni fod yn falch o’n llwyddiannau yn ystod y cyfnod hwnnw.
“Fe lwyddon ni i gyrraedd wyth olaf Cwpan y Byd 2021 (chwarewyd yn 2022) ac fe ddaethon ni’n drydydd yn y Chwe Gwlad yn 2022 a 2023. Ond mae’n amser i rywun arall i gymryd yr awenau erbyn hyn a hoffwn ddymuno’r gorau i bawb fydd yn chwarae eu rhan ym mhennod nesaf datblygiad rygbi elît ein menywod yma yng Nghymru.”