Neidio i'r prif gynnwys
Rio Dyer

13.07.24 - Australia v Wales - Summer Series - Second Test - Rio Dyer of Wales

Tîm Cymru i wynebu De Affrica

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi ei dîm i wynebu Pencampwyr y Byd, De Affrica yng ngêm olaf Cyfres yr Hydref 2024 yn Stadiwm Principality, ddydd Sadwrn 23 Tachwedd am 5.40pm. (Bydd yr ornest yn fyw ar S4C a TNT Sports).

Rhannu:

Mae pum newid o’r tîm ddechreuodd yr ornest yn erbyn Awstralia ddydd Sul diwethaf.

Bydd Rio Dyer yn chwarae ei gêm gyntaf yng Nghyfres yr Hydref eleni tra bo Tom Rogers yn cadw’i le ar yr asgell arall. Symud o’r asgell i safle’r cefnwr fydd Blair Murray.

Sam Costelow sydd wedi ei ddewis i ddechrau’n safle’r maswr am y tro cyntaf yn y gyfres eleni.

Yn dilyn yr anaf i Adam Beard, Christ Tshiunza fydd partner Will Rowlands yn yr ail reng.

Taine Plumtree sydd wedi ei ddewis yn wythwr gyda James Botham a Jac Morgan yn flaen-asgellwyr.

Prynnwch eich tocynnau am Cymru yn erbyn De Affrica yma

Mae dau newid ar y fainc i Gymru hefyd: Bydd Freddie Thomas – all ennill ei gap cyntaf ddydd Sadwrn – yn opsiwn fel clo. Josh Hathaway, Rhodri Williams ac Eddie James fydd yr eilyddion o safbwynt yr olwyr.

Dywedodd Warren Gatland: “Roedd canlyniad yr wythnos ddiwethaf yn brifo ac ‘ry’n ni gyd yr un mor siomedig â’r cefnogwyr. ‘Ry’n ni’n canolbwyntio’n llwyr ar baratoi hyd eitha’n gallu ar gyfer her y penwythnos yma a’n gêm olaf yng Nghyfres yr Hydref eleni.

“Fe wnaethon ni rai pethau’n dda ddydd Sul diwethaf a byddwn yn adeiladu ar hynny’r penwythnos hwn. Wedi dweud hynny – mae’n rhaid i ni wella’n cywirdeb a bod yn fwy clinigol.

“Mae De Affrica’n dîm corfforol ac yn dîm arbennig o ddawnus hefyd. Bydd angen i ni fod yn ddewr ac yn ddi-gyfaddawd yn erbyn Pencampwyr y Byd.”

Tîm Cymru i wynebu De Affrica
15. Blair Murray (Scarlets – 2 gap)
14. Tom Rogers (Scarlets – 5 cap)
13. Max Llewellyn (Caerloyw – 4 cap)
12. Ben Thomas (Caerdydd – 6 chap)
11. Rio Dyer (Dreigiau – 22 cap)
10. Sam Costelow (Scarlets – 17 cap)
9. Ellis Bevan (Caerdydd – 5 cap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 35 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 17 cap) capten
3. Archie Griffin (Caerfaddon – 5 cap)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 35 cap)
5. Christ Tshiunza (Caerwysg – 14 cap)
6. James Botham (Caerdydd – 15 cap)
7. Jac Morgan (Gweilch – 17 cap)
8. Taine Plumtree (Scarlets – 6 chap)

Eilyddion

16. Ryan Elias (Scarlets – 43 chap)
17. Nicky Smith (Caerlŷr – 48 cap)
18. Keiron Assiratti (Caerdydd – 9 cap)
19. Freddie Thomas (Caerloyw – heb gap)
20. Tommy Reffell (Caerlŷr – 22 cap)
21. Rhodri Williams (Dreigiau – 4 cap)
22. Eddie James (Scarlets – 2 gap)
23. Josh Hathaway (Caerloyw – 1 cap)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm Cymru i wynebu De Affrica
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm Cymru i wynebu De Affrica
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm Cymru i wynebu De Affrica
Rhino Rugby
Sportseen
Tîm Cymru i wynebu De Affrica
Tîm Cymru i wynebu De Affrica
Tîm Cymru i wynebu De Affrica
Tîm Cymru i wynebu De Affrica
Tîm Cymru i wynebu De Affrica
Tîm Cymru i wynebu De Affrica
Amber Energy
Opro
Tîm Cymru i wynebu De Affrica