Mae Blair Murray wedi ei ddewis ar yr asgell ar gyfer ei gap cyntaf ac ef fydd chwaraewr rhif 1,208 I gynrychioli tîm dynion Cymru.
Bydd Gareth Thomas (prop pen rhydd) ac Archie Griffin (prop pen tynn) yn ymuno gyda’r capten Dewi Lake yn y rheng flaen.
Adam Beard a Will Rowlands fydd yn yr ail reng wedi I’r ddau ohonynt fethu â theithio i Awstralia dros yr haf.
Mae Taine Plumtree wedi ei ddewis yn flaen asgellwr ar yr ochr dywyll, gyda Tommy Reffell a’r wythwr Aaron Wainwright yn cwblhau’r rheng ôl.
Haneri Caerloyw sydd wedi cael eu dewis i wynebu Fiji ddydd Sul. ‘Roedd Tomos Williams wedi ei anafu dros yr haf ac felly nid oedd ar gael i deithio i Awstralia ac nid yw Gareth Anscombe wedi dechrau gêm dros Gymru ers Cwpan y Byd y llynedd.
Bydd Thomas ac Anscombe yn gyfarwydd iawn â Max Llewellyn wrth gwrs – aelod arall o glwb Caerloyw sydd wedi ei ddewis yn y canol yn bartner i Ben Thomas.
Bydd Cam Winnett yn dechrau yn safle’r cefnwr am yr wythfed gêm yn olynol a Mason Grady sydd wedi ei ddewis yn gyd-asgellwr gyda’r cap newydd Blair Murray.
Mae chwech o flaenwyr wedi eu dewis ar y fainc a dau olwr: Ryan Elias (bachwr), Nicky Smith (prop pen rhydd) a Keiron Assiratti (prop pen tynn) fydd yn cynnig yr opsiynau o safbwynt y rheng flaen – gyda Christ Tshiunza, James Botham a Jac Morgan yn cwblhau’r fainc o safbwynt y blaenwyr.
Ellis Bevan a Sam Costelow yw’r ddau eilydd ar gyfer yr olwyr.
Dywedodd Warren Gatland: “Mae gennym wir gystadleuaeth yn y garfan ac felly ‘roedd dewis y tîm yn galed iawn. Fe drafodon ni nifer o safleoedd am gyfnod maith ac ‘ry’n ni’n hapus iawn gyda chydbwysedd y tîm sydd wedi cael ei ddewis yn y pendraw. Mae ‘na gymysgedd braf o brofiad a ieuenctid yn y tîm yma fydd yn wynebu her gwirioneddol Fiji ddydd Sul.
“Ry’n ni’n gwybod pa mor beryglus y gall Fiji fod ac felly mae’n rhaid i ni fod yn gorfforol, effeithiol a digyfaddawd am yr holl 80 munud.
“Wedi pedair gêm ar y lôn, ‘ry’n ni gyd yn awchu i ddychwelyd i Stadiwm Principality o flaen ein cefnogwyr ein hunain. Mae’n mynd i fod yn dipyn o achlysur ac yn ffordd ardderchog i ni ddechrau Cyfres yr Hydref sy’n argoeli i fod yn arbennig o gyffrous.”
Ar ddyddiau’r tair gêm yn ystod yr Hydref, bydd y cyn-ddyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens yn ymuno â thîm hyfforddi Cymru fel ymgynghorydd. Yn ystod ei yrfa ryngwladol – barodd am 17 o flynyddoedd – fe ddyfarnodd Owens 100 o gemau prawf gyda’r chwiban a bu’n aelod o’r tîm dyfarnu mewn 110 o gemau eraill hefyd.
Tîm Cymru i wynebu Fiji
15. Cameron Winnett (Caerdydd – 7 cap)
14. Mason Grady (Caerdydd – 14 cap)
13. Max Llewellyn (Caerloyw – 2 gap)
12. Ben Thomas (Caerdydd – 4 cap)
11. Blair Murray (Scarlets – heb gap)
10. Gareth Anscombe (Caerloyw – 37 cap)
9. Tomos Williams (Caerloyw – 58 cap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 33 cap)
2. Dewi Lake (Gweilch – 15 cap) capten
3. Archie Griffin (Caerfaddon – 3 chap)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 33 cap)
5. Adam Beard (Gweilch – 56 cap)
6. Taine Plumtree (Scarlets – 5 cap)
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 20 cap)
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 50 cap)
Eilyddion
16. Ryan Elias (Scarlets – 41 cap)
17. Nicky Smith (Caerlŷr – 46 chap)
18. Keiron Assiratti (Caerdydd – 7 cap)
19. Christ Tshiunza (Caerwysg – 12 cap)
20. James Botham (Caerdydd – 13 chap)
21. Jac Morgan (Gweilch – 15 cap)
22. Ellis Bevan (Caerdydd – 3 chap)
23. Sam Costelow (Scarlets – 15 cap)