Neidio i'r prif gynnwys
WRU AGM - Chief Executive Abi Tierney

WRU chief executive Abi Tierney addressed the club members

Trosiant Undeb Rygbi Cymru’n cynyddu er gwaethaf ‘blwyddyn heriol’ yn ôl prif weithredwr sy’n ‘canolbwyntio ar y dyfodol’

Mae Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney wedi dweud wrth y clybiau hynny sy’n aelodau o’r Undeb, cyn y Cyfarfod Blynyddol ddydd Sul, bod y trosiant wedi cynyddu i £102.7m (2023:£97.9m) yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf a bod y buddsoddiad yn y gêm ei hun bellach yn £60.4m.

Rhannu:

Mae elw’r Grŵp cyn y dosbarthu ariannol wedi lleihau ychydig o £23.5m yn 2023 i £22.7m yn 2024.

‘Roedd dylanwad COVID yn dal i’w deimlo ac fe olygodd chwyddiant uchel hefyd bod y costau gweithredol wedi codi o £67.1 yn 2023 i £75.1m yn 2024. Mae costau uwch wedi bod yn berthnasol i dimau Dynion yn ystod blwyddyn Cwpan y Byd a rygbi Merched a Menywod Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw hefyd.

‘Roedd cyfanswm y taliadau i’r Rhanbarthau yn £28.7m o’i gymharu â’r ffigwr o £35.5 y flwyddyn flaenorol – yn unol â’r Cytundeb Rygbi Proffesiynol.

Fe werthodd yr Undeb y Dreigiau i’r Rhanbarth ei hun am £1 ac mae eu canlyniadau ariannol wedi eu nodi fel ‘gweithrediadau darfodedig’ o fewn Datganiad Ariannol URC – sydd wedi cyfrannu at golled wedi treth o £2.6m i’r Grŵp. (£9.2m yn 2023).

Dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, sydd wedi bod wrth y llyw ers Ionawr 2024:”Daw’r Adroddiad Blynyddol yma ar amser heriol ond ar gyfnod pan ‘ry’n ni’n canolbwyntio ar edrych tua’r dyfodol.

“Ry’n ni eisoes wedi amlinellu’n bwriadau ar gyfer y pum mlynedd nesaf wrth gyhoeddi penawdau ein strategaeth newydd ‘Cymru’n Un’ dros yr haf. Mae’n rhaid i ni sicrhau sefydlogrwydd ariannol er mwyn bod yn gynaliadwy ac fe ddaw hynny wedi heriau ariannol COVID a chwyddiant.Mae cyfraddau llog uchel hefyd wedi effeithio’n uniongyrchol ar wariant y cyhoedd sydd wedi ei deimlo yma yng Nghymru ac yng ngweddill Prydain hefyd.

“Mae hyn, yn ei dro, wedi effeithio ar werthiant tocynnau a’n hincwm o’r herwydd.

“Ein bwriad wrth gwrs yw gwneud y gorau y gallwn yn ariannol, fel y gallwn ail-fuddsoddi’n flynyddol yn ein gêm – a buddsoddwyd £60.4m yn rygbi Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.”

Nododd Abi Tierney hefyd bod cynnydd wedi bod yn nhwf y partneriaethau masnachol hefyd.

“Mae ymrwymiad a chefnogaeth ein partneriaid masnachol wedi bod yn hynod o gadarn ac rydym yn arbennig o ddiolchgar iddynt am hynny. Mae eu buddsoddiad yn cynnig cyfleoedd cyffrous i ni ac mae’n cyfateb ag 17% o’n hincwm – sy’n cynrychioli cynnydd.

“Ers lansio ein cytundeb sylweddol a hirdymor gyda Vodafone yn hwyr yn 2022 – sydd wedi eu gweld yn Brif Noddwyr gêm y Merched a’r Menywod yma yng Nghymru – mae’r bartneriaeth arloesol yma wedi mynd o nerth i nerth. Bellach rydym ar flaen y gad o safbwynt datblygiadau technegol , ymarfer, adferiad a llesiant ein menywod elît trwy gyfrwng y cynllun a’r ap PLAYER.Connect.

“Ym mis Gorffennaf 2023 gwelwyd Vodafone yn buddsoddi ymhellach ym mhrif dîm y dynion hefyd a thimau’r llwybr datblygu, welodd hysbysebion y cwmni ar flaen y crysau ac ar gefn y siorts.

WRU Chairman Richard Collier-Keywood

WRU Chairman Richard Collier-Keywood

“Fe ymunodd y wefan cymharu prisiau Go.Compare ein stabl fasnachol hefyd yng Ngorffennaf 2023, olygodd bod enw’r cwmni’n amlwg ar gefn crysau timau rhyngwladol y Dynion a’r Menywod – a hynny am gyfnod sylweddol.”

Mae’r cwmni esgidiau Lanx a’r cwmni dillad Hawes & Curtis wedi dod yn bartneriaid i gyflenwi esgidiau a dillad ffurfiol o’r safon uchaf i’r Dynion a‘r Menywod cyn y prif gystadlaethau ac mae ymrwymiad WeSoda i’r gêm gymunedol yn cael ei werthfawrogi gan Undeb Rygbi Cymru’n ogystal trwy’r cynllun hynod bwysig ‘ Heini, Hwyl a Hansh’. Mae’r noddwyr, yr Undeb a Llywodraeth Cymru wedi dod at ei gilydd i ddarparu gweithgareddau rygbi, hwyl a phrydau bwyd i filoedd o blant yn ystod gwyliau’r ysgol.

Ychwanegodd Abi Tierney: “Ers y llynedd mae dros 20,000 o blant wedi elwa o’r cynllun a’n nod uchelgeisiol yw sicrhau y bydd 600 o’r digwyddiadau yma yn eu lle erbyn 2025.

“Yn ogystal â chynnig profiadau ymarferol a gwasanaeth pwysig – mae ‘Heini, Hwyl a Hansh’ yn rhan o’n gweledigaeth ni yn ein strategaeth ‘ Cymru’n Un’ –  sef creu angerdd am rygbi ym mhawb yma yng Nghymru a’r angerdd i sicrhau llwyddiant ar y cae ac oddi arno hefyd.

“Er ein bod wedi wynebu nifer o heriau gwirioneddol – yn ein tymor llawn cyntaf wedi COVID – gwelwyd y nifer fwyaf erioed o chwaraewyr yn cofrestru yng ngêm y Merched, Bechgyn, Menywod a’r Dynion.

“Hoffwn achub ar y cyfle yma i ddiolch i’n tîm cymunedol ni o fewn yr Undeb ac wrth gwrs i’r fyddin o wirfoddolwyr ar lawr gwlad sy’n galluogi ein gêm i barhau ac i ffynnu. Diolch o galon i chi gyd.

“Bydd ‘Cymru’n Un’ yn cynnig cyfeiriad clir i ni fydd yn arwain taith Rygbi Cymru tuag at ddyfodol llewyrchus a chynaliadwy erbyn 2029. Byddwn yn atebol i’n huchelgeisiau ac rydym ym ymrwymo i ‘weithio gyda’n gilydd er mwyn creu profiadau a chyfleoedd i bawb ar bob lefel o’r gêm.’”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Trosiant Undeb Rygbi Cymru’n cynyddu er gwaethaf ‘blwyddyn heriol’ yn ôl prif weithredwr sy’n ‘canolbwyntio ar y dyfodol’
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Trosiant Undeb Rygbi Cymru’n cynyddu er gwaethaf ‘blwyddyn heriol’ yn ôl prif weithredwr sy’n ‘canolbwyntio ar y dyfodol’
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Trosiant Undeb Rygbi Cymru’n cynyddu er gwaethaf ‘blwyddyn heriol’ yn ôl prif weithredwr sy’n ‘canolbwyntio ar y dyfodol’
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Trosiant Undeb Rygbi Cymru’n cynyddu er gwaethaf ‘blwyddyn heriol’ yn ôl prif weithredwr sy’n ‘canolbwyntio ar y dyfodol’