Bydd y penodiad hwn yn tanlinellu ymrwymiad URC i gêm y Merched a’r Menywod gan gydfynd â gweledigaeth strategaeth bum mlynedd newydd yr Undeb, sef Cymru’n Un, a lansiwyd ym mis Mehefin.
Bydd y Prif Hyfforddwr newydd yn arwain carfan o 37 o chwaraewyr proffesiynol, tîm hyfforddi llawn amser a thimau meddygol a chryfder a chyflyru – wrth baratoi y garfan ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd 2025 fydd yn cael ei chynnal yn Lloegr.
Mae sylfeini cadarn eisoes wedi eu gosod yn y pedair blynedd ddiwethaf wrth i broffesiynoldeb ffurfiol gael ei gyflwyno i gamp y Menywod. Cyfrifoldeb y Prif Hyfforddwr newydd fydd cynyddu’r diwylliant o ragoriaeth yn y garfan.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus feithrin perthynas allweddol â’r chwaraewyr, yn ogystal â staff a swyddogion Undeb Rygbi Cymru – felly hefyd noddwyr a phartneriaid allweddol yr Undeb. Agwedd bwysig arall o’r gwaith fydd cydnabod twf cyflym gêm y Menywod yma yng Nghymru a ledled y byd hefyd – gan achub ar gyfeoedd pellach i dyfu’r gamp ar dir cartref ac ym mhedwar ban byd.
Bydd gan y Prif Hyfforddwr newydd rôl strategol allweddol i’w chwarae wrth ddatblygu talent chwaraewyr a hyfforddwyr fel ei gilydd a bydd ganddo/ganddi’r weledigaeth a’r ddawn i sefydlu Cymru fel un o’r pum gwlad gorau yn y byd.
Mae Cymru’n 10fed ymhlith detholion y byd ar hyn o bryd – ond mae’n bwysig cofio i’r Crysau Cochion orffen yn y trydydd safle mewn dwy ymgyrch Chwe Gwlad yn olynol (2022 a 2023), gan sicrhau eu lle yn WXV1 (yn 2023) a sefydlu eu hunain fel chweched tîm gorau’r byd ar y pryd o’r herwydd. Mae nifer o aelodau’r garfan bresennol hefyd yn chwarae eu rygbi yng nghynghrair gryfa’r byd sy’n cynnig gwir her a safon iddynt.
Mae’r Her Geltaidd wedi gweld Undeb Rygbi Cymru yn sefydlu dau dîm newydd – Brython Thunder a Gwalia Lightning – i ddatblygu a meithrin y genhedlaeth nesaf o dalent rhyngwladol yma yng Nghymru.
Mae datblygiad a safon Brython Thunder a Gwalia Lightning ynghŷd â’r ffaith bod URC wedi sefydlu tair Canolfan Datblygu Chwaraewyr newydd ledled y wlad – yn torri tir newydd pellach, er mwyn datblygu rygbi Menywod ar lefel elît yng Nghymru.
Dywedodd Abi Tierney, Prif Weithredwr URC: “Mae hwn yn benodiad allweddol i Undeb Rygbi Cymru, ac rydym yn chwilio am ymgeiswyr o’r safon uchaf sydd â phrofiad o weithio ar lefel uchel o safbwynt perfformiad.
“Gyda’r Chwe Gwlad a Chwpan y Byd yn 2025, bydd y penodiad hwn yn chwarae rhan greiddiol yn ein strategaeth ar gyfer rygbi Cymru.
“Rydym angen rhywun fydd yn mynd â’r tîm at lefel nesaf y gêm broffesiynol.”