Y bwriad a’r gobaith clir yw codi safon ac ymwybyddiaeth y gystadleuaeth ymhellach ymhlith y gwledydd Celtaidd – gan hefyd gynnig llwyfan cystadleuol i chwaraewyr a phrofiad cofiadwy i gefnogwyr.
Bydd disgwyl mwy o gyhoeddiadau yn ystod yr wythnosau nesaf – gan gynnwys cadarnhad am y timau hyfforddi, trefn y gemau a gwybodaeth am y carfanau a’r prif gymeriadau fydd yn cymryd rhan.
Mae cefnogwyr yn cael eu hannog i ddilyn @CelticRugbyComp ar Instagram, Facebook, X, TikTok, YouTube, a LinkedIn i glywed am y newyddion diweddaraf cyn i’r tymor newydd ddechrau. Bydd deunydd arbennig y tu ôl i’r llenni ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol hyn hefyd fydd yn tynnu dŵr i’r dannedd cyn y tymor newydd fis nesaf.