Neidio i'r prif gynnwys
Abertawe i gofio Geoff Wheel

Geoff Wheel. © Huw Evans Picture Agency Ltd.

Abertawe i gofio Geoff Wheel

Bydd Clwb Rygbi Abertawe’n cynnal munud o dawelwch cyn eu gêm yn erbyn Aberafan yn Super Rygbi Cymru ddydd Sadwrn (28/12/24) i gofio am Geoff Wheel fu farw’n 73 oed Ddydd San Steffan.

Rhannu:

Enillodd Wheel 32 o gapiau dros ei wlad ac fe ymddangosodd 323 o weithiau dros glwb Abertawe dros gyfnod o 13 o flynyddoedd.

Chwaraeodd dros y ‘Gwynion’ am y tro cyntaf ar Noswyl y Nadolig ym 1970 yn erbyn y Watsonians ac Athrofa De Morgannwg oedd ei wrthwynebwyr olaf ar yr 2il o Fawrth 1983.

Bu’n gapten ar ei glwb am ddau dymor nodedig pan enillon nhw Bencampwriaeth y Western Mail a’r Bencampwriaeth Eingl-Gymreig ac fe wobrwywyd Abertawe’n Dîm y Tymor gan y Daily Telegraph ym 1979/80 o’r herwydd. Wheel oedd y capten yn ffeinal Cwpan Schweppes y tymor hwnnw pan gollodd Abertawe’n erbyn Penybont – un o’u pum colled yn unig ym mhob cystadleuaeth allan o 46 o gemau.

Yn ystod cyfnod Geoff Wheel yn gapten ar Abertawe – fe chwaraewyd 93 o gemau, enillwyd 81, collwyd 10 a sicrhawyd dwy gêm gyfartal.

Fe enillodd Wheel – oedd yn cael ei adnabod fel ‘Gaffa’ – Gwpan Schweppes ym 1978 pan drechwyd Casnewydd o 13-9 ac fe gollodd mewn ffeinal arall yn erbyn Llanelli ym 1976 hefyd.

Cynrychiolodd ei glwb yn erbyn Fiji ym 1973 ac yn erbyn Awstralia ym 1973, 1975 ac ym 1981 hefyd. Ef hefyd oedd yn gapten ar y clwb pan herion nhw Seland Newydd ym 1981.

Fe ddysgodd y cyw o glo Richard Moriarty – aeth ymlaen i fod yn gapten ar ei wlad – lawer gan Geoff Wheel yn ei gyfnod gyda chlwb Sain Helen. Dywedodd Moriarty: “Fe enillais fy nghap cyntaf pan oedd Geoff y dal i chwarae dros Gymru ac ‘roedd hynny’n golygu llawer iawn i mi gan ei fod wedi dysgu gymaint i mi ers fy nyddiau cynnar yn Sain Helen. Mae’n un o wir arwyr Clwb Rygbi Abertawe ac mae’r ffaith i afiechyd Motor Neurone ei gipio mor greulon yn anodd i’w dderbyn.

“Byddaf wastad yn ei gofio fel chwaraewr arbennig o gorfforol ar y cae – rhywun di-ildio a di-gyfaddawd ond cymeriad hoffus ac addfwyn iawn oddi-ar y cae.”

Chwaraeodd Wheel ac Allan Martin 27 o weithiau gyda’i gilydd yn yr ail reng dros Gymru a gyda chymorth y ddau glo cydnerth fe enillwyd pedair Coron Driphlyg (1976, 1977, 1978, 1979) a dwy Gamp Lawn hefyd (1976, 1978).

Enillodd Geoff Wheel ei gap cyntaf dros Gymru yn Nulyn ym 1974 ac ni chollodd yr un o’i 15 gêm gyntaf dros ei wlad. Fe gafodd ei ddewis i deithio gyda’r Llewod i Seland Newydd ym 1977 ond ni chafodd fynd o ganlyniad i broblem honedig gyda’i galon. Fe gynrychiolodd y Barbariaid ar 9 achlysur.

Bydd Geoff Wheel hefyd yn cael ei gofio fel y chwaraewr cyntaf erioed i gael ei ddanfon o’r maes tra’n cynrychioli Cymru. Digwyddodd hynny’n dilyn ffrwgwd gyda Willie Duggan o Iwerddon ym 1977 ac fe benderfynodd y dyfarnwr, Norman Sansom ddanfon y ddau am gawod hanesyddol gynnar. Cafodd Wheel rhywfaint o gysur o’r ffaith i Gymru ennill 25-9 y diwrnod hwnnw.

Bu Geoff Wheel yn amlwg yn un o eiliadau ‘cofiadwy’ eraill Cymru’r flwyddyn ganlynol yn erbyn Seland Newydd. Penderfynodd y dyfarnwr Roger Quittenton bod Wheel wedi troseddu yn y lein yn yr eiliadau olaf – ond daeth i’r amlwg wedi hynny bod Andy Haden a’i gyd-glo Frank Oliver wedi cynllwynio ymlaen llaw i daflu eu hunain o’r lein. Fe weithiodd eu cynllun ac yn dilyn cic gosb gywir Brian McKechnie – fe gipiodd y Crysau Duon y fuddugoliaeth o 13-12.

Geoffrey Arthur Derek Wheel – Cap Rhif: 755 (32 cap); G: 30 Mehefin 1951 yn Abertawe; M: 26 Rhagfyr 2024 yn Abertawe.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Abertawe i gofio Geoff Wheel
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Abertawe i gofio Geoff Wheel
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Abertawe i gofio Geoff Wheel
Rhino Rugby
Sportseen
Abertawe i gofio Geoff Wheel
Abertawe i gofio Geoff Wheel
Abertawe i gofio Geoff Wheel
Abertawe i gofio Geoff Wheel
Abertawe i gofio Geoff Wheel
Abertawe i gofio Geoff Wheel
Amber Energy
Opro
Abertawe i gofio Geoff Wheel