Neidio i'r prif gynnwys
Booth wedi gadael y Gweilch yn gynnar

Toby Booth

Booth wedi gadael y Gweilch yn gynnar

Mae Toby Booth, Prif Hyfforddwr y Gweilch wedi gadael ei swydd a hynny ar unwaith.

Rhannu:

Bydd Mark Jones yn camu i swydd y prif hyfforddwr yn gynt na’r disgwyl – gan mai ar ddiwedd y tymor yr oedd i fod i gymryd yr awenau’n wreiddiol.

Mae Mark Jones yn gyn-asgellwr rhyngwladol gyda Chymru wrth gwrs ac yn gyn-hyfforddwr y Tîm o dan 20 Cenedlaethol.

Fe ymunodd Toby Booth gyda’r Gweilch yn 2020 ac fe enillodd Darian Gymreig y Bencampwriaeth Rygbi Unedig ddwywaith – yn 2021/22 a 2023/24.

O dan ei arweiniad, fe gyrhaeddodd y Gweilch Rownd 8 Olaf Cwpan Her Ewrop a gemau ail-gyfle’r cynghrair y tymor diwethaf.

Mewn datganiad, dywedodd rhanbarth y Gweilch: “Hoffwn ddiolch i Toby am ei ymroddiad a’i gyfraniad yn ystod ei amser gyda ni fel rhanbarth. ‘Rydym yn dymuno’r gorau iddo yn ei bennod nesaf a’r hyn ddaw wedi hynny hefyd.”

Bydd gêm gyntaf Mark Jones fel Prif Hyfforddwr y Gweilch yn dipyn o achlysur pan fydd yn croesawu ei gyn-glwb, sef y Scarlets, i Stadiwm Swansea.Com am 5.15pm ddydd Sadwrn.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Booth wedi gadael y Gweilch yn gynnar
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Booth wedi gadael y Gweilch yn gynnar
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Booth wedi gadael y Gweilch yn gynnar
Rhino Rugby
Sportseen
Booth wedi gadael y Gweilch yn gynnar
Booth wedi gadael y Gweilch yn gynnar
Booth wedi gadael y Gweilch yn gynnar
Booth wedi gadael y Gweilch yn gynnar
Booth wedi gadael y Gweilch yn gynnar
Booth wedi gadael y Gweilch yn gynnar
Amber Energy
Opro
Booth wedi gadael y Gweilch yn gynnar