Neidio i'r prif gynnwys
Gwalia Lightning a Brython Thunder yn barod am y frwydr fawr

Y ddau brif hyfforddwr, Ashley Beck a Catrina Nicholas-McLaughlin

Gwalia Lightning a Brython Thunder yn barod am y frwydr fawr

Mae Gwalia Lightning a Brython Thunder wedi cyhoeddi eu timau ar gyfer gêm gynta’r tymor newydd yn yr Her Geltaidd pan fydd y ddau dîm Cymreig yn wynebu’i gilydd yn Ystrad Mynach ddydd Sadwrn yr 21ain o Ragfyr am 2.30pm.

Rhannu:

Mae’r ddwy garfan yn llawn o brofiad a doniau’r dyfodol a bydd y ddau dîm yn wynebu’i gilydd yn nwy ornest agoriadol y tymor ym mis Rhagfyr.

Bydd MYNEDIAD AM DDIM ar gyfer yr ornest yn Ystrad Mynach i unrhyw gefnogwr Rygbi Cymru.

Fe enillodd Brython Thunder a Gwalia Lightning un gêm yr un wrth iddynt ddod ben-ben â’i gilydd y tymor diwethaf. Gwalia hawliodd y fuddugoliaeth hanesyddol gyntaf y llynedd a hynny o 20-5, cyn i Brython gryfhau erbyn diwedd y gystadleuaeth a sicrhau buddugoliaeth o 30-5 ar Barc y Scarlets.

Bydd chwaraewyr Gwalia Lightning yn camu i’r maes ddydd Sadwrn gydag unigolion sydd wedi ysbrydoli eu gyrfaoedd hyd yma.

Wythwr Cymru Gwennan Hopkins fydd yn arwain Gwalia Lightning, sy’n cynnwys wyth o chwaraewyr rhyngwladol gan gynnwys Carys Williams-Morris, Bryonie King, Catherine Richards, Sian Jones, Maisie Davies, Molly Reardon ac Alaw Pyrs.

Bydd y cefnwr Courtney Greenway a’r clo Lily Terry yn cynrychiol’r tîm am y tro cyntaf.

Y clo rhyngwladol Natalia John fydd capten Brython Thunder a’i phartner yn yr ail reng fydd Gwen Crabb sydd wedi cael ei rhyddhau gan ei chlwb ar gyfer yr ornest hon. Niamh Terry fydd eu maswr gyda’i chyd-chwaraewr rhyngwladol Meg Webb yn y canol.

Bydd y bachwr Chloe Grant, y blaen-asgellwyr Robyn Davies a Jessica Rogers a’r cefnwr Rhiannon Griffin yn ymddangos am y tro cyntaf yn yr Her Geltaidd.

  • Rownd 1: Gwalia Lightning v Brython Thunder, Ystrad Mynach, Sadwrn, Rhagfyr 21ain(2.30pm)
  • Rownd 2: Brython Thunder v Gwalia Lightning, Parc Y Scarlets, Sadwrn, Rhagfyr 28ain(2.30pm)

Dywedodd Catrina Nicholas-McLaughlin, Prif Hyfforddwr Gwalia Lightning: “Mae dechrau’r tymor gyda gêm ddarbi fawr yn arbennig o gyffrous ac ‘ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Brython Thunder i’n cartref newydd yn Ystrad Mynach.

“Mae gennym brofiad rhyngwladol yn ein tîm ac mae llawer o’r merched yn gyfarwydd â chwarae’n yr Her Geltaidd erbyn hyn. Bydd Brython Thunder yn cynnig tipyn o her i ni – ond ‘ry’n ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr.”

Ychwanegodd Ashley Beck, Prif Hyfforddwr Brython Thunder: “Mae hanner ein carfan eleni’n newydd ac felly bydd hi’n ddifyr gweld sut y bydden nhw’n addasu i safon yr Her Geltaidd. Does dim amheuaeth y bydd yr ornest agoriadol hon yn cynnig her a hanner i ni.

“Bydd pedair yn ein cynrychioli am y tro cyntaf, ac mae’r ffaith bod y gêm gyntaf hon oddi-cartref yn mynd i fod yn anodd ond mae hon yn argoeli i fod yn dipyn o gêm.”

Gwalia Lightning:

Courtney Greenway, Carys Williams-Morris, Kelsie Webster, Molly Anderson-Thomas, Catherine Richards, Carys Hughes, Sian Jones; Maisie Davies, Molly Reardon, Danyelle Dinapoli, Lily Terry, Alaw Pyrs, Bryonie King, Paige Jones, Gwennan Hopkins (capten)

Eilyddion: Molly Wakley, Dali Hopkins, Jenni Scoble, Erin Jones, Katherine Baverstock, Katie Bevans, Lowri Davies, Caitlin Lewis

Brython Thunder

Rhiannon Griffin, Ellie Tromans, Meg Webb, Savannah Picton-Powell, Eleanor Hing, Niamh Terry, Seren Singleton; Katie Carr, Chloe Grant, Cadi-Lois Davies, Gwen Crabb, Natalia John (capten), Robyn Davies, Lucy Issac, Jessica Rogers

Eilyddion: Evie Gill, Lowri Williams, Meg Lewis, Kira Philpott, Danai Mugabe, Anna Stowell, Bethan Adkins, Hannah Lane

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gwalia Lightning a Brython Thunder yn barod am y frwydr fawr
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gwalia Lightning a Brython Thunder yn barod am y frwydr fawr
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gwalia Lightning a Brython Thunder yn barod am y frwydr fawr
Rhino Rugby
Sportseen
Gwalia Lightning a Brython Thunder yn barod am y frwydr fawr
Gwalia Lightning a Brython Thunder yn barod am y frwydr fawr
Gwalia Lightning a Brython Thunder yn barod am y frwydr fawr
Gwalia Lightning a Brython Thunder yn barod am y frwydr fawr
Gwalia Lightning a Brython Thunder yn barod am y frwydr fawr
Gwalia Lightning a Brython Thunder yn barod am y frwydr fawr
Amber Energy
Opro
Gwalia Lightning a Brython Thunder yn barod am y frwydr fawr