Neidio i'r prif gynnwys
Gwalia Lightning yn rhy gryf i Brython Thunder

Capten Gwalia Lightning - Gwennan Hopkins ar garlam.

Gwalia Lightning yn rhy gryf i Brython Thunder

Gwalia Lightning enillodd y gêm ddarbi fawr Gymreig yn gyfforddus o 42-22 wrth iddyn nhw drechu Brython Thunder ar benwythnos agoriadol yr Her Geltaidd yn Ystrad Mynach.

Rhannu:

Fe enillodd y ddau dîm gêm yr un yn erbyn ei gilydd y tymor diwethaf – ond yr ymwelwyr Brython Thunder ddechreuodd gryfaf brynhawn Sadwrn wrth i’r bachwr Chloe Grant dirio wedi dim ond 8 munud o’i hymddangosiad cyntaf dros ei thîm.

Dim ond 3 munud yn ddiweddarach ‘roedd Gwalia Lightning ar y blaen wedi i feddwl chwim Paige Jones a throsiad Carys Hughes gofnodi 7 pwynt cyntaf y crysau gleision.

‘Roedd y gwynt cryf yn amlwg ar gefnau crysau cochion Brython yn ystod y cyfnod cyntaf – ond yn hwyliau’r tîm cartref yr oedd y gwynt mewn ffordd o siarad wedi 26 munud o chwarae wrth i ryng-gipiad Catherine Richards roi rhwydd hynt iddi garlamu at gysgod y pyst o 35 metr.

Catherine Richards wedi iddi groesi am yr ail o chwe chais Gwalia Lightning.

Ychwanegodd Hughes y ddeubwynt a 7 munud cyn troi dangoswyd cerdyn melyn i brop Brython Katie Carr am droseddu cyson ei thîm. Fe gymrodd Gwalia fantais ar y chwaraewr ychwanegol wrth i’r capten Gwennan Hopkins hyrddio at y llinell gais cyn i’r prop Maisie Davies gwblhau’r symudiad i gofnodi trydydd cais ei thîm o’r cyfnod cyntaf.

Parhau wnaeth record berffaith Carys Hughes gyda’i throed i’w gwneud hi’n 21-5 wrth droi.

Doedd Katie Carr yn dal heb ddychwelyd i’r maes pan gododd Hughes ei chyfrif personol i 13 o bwyntiau pan hawliodd y maswr bwynt bonws i’w thîm a throsi cais ei hun a doedd dim ffordd yn ôl i garfan Ashley Beck wedi hynny.

Ac fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Brython Thunder o fewn chwarter awr cyntaf yr ail gyfnod wrth i’r bachwr Chloe Grant orfod gadael y maes gydag anaf i’w choes ac eiliadau’n unig wedi hynny fe diriodd y clo Lily Terry bumed cais carfan Catrina Nicholas McLaughlin, cyn i Carys Hughes ychwanegu ei phumed trosiad.

Dangosodd y crysau cochion dipyn o gymeriad wrth i’r eilydd o fachwr Evie Gill dirio ychydig funudau wedi iddi gymryd lle Grant ar y maes – ac fe barchusodd Ellie Tromans y sgôr ymhellach gyda’i throsiad hyderus i mewn i ddannedd y gwynt.

Ddeng munud yn ddiweddarach ‘roedd yr ymwelwyr wedi cau’r bwlch yn sylweddol – wedi i Courtney Greenway gael ei danfon i’r cell cosb. Manteisiodd yr ymwelwyr ar hynny i hawlio pwynt bonws wrth i‘r wythwr Jessica Rogers a’r asgellwr disglair Eleanor Hing groesi’r gwyngalch.

Ond diwrnod Gwalia Lightning oedd hwn i fod ac ail-sefydlwyd 20 pwynt o fantais wrth i’r eilydd Caitlin Lewis groesi am chweched cais ei thîm yn hwyr cyn i Carys Hughes gofnodi ei 17fed pwynt hi o’r ornest.

Buddugoliaeth swmpus i Gwalia Lightning felly ond bydd Brython Thunder yn gobeithio y bydd hanes yn ail-adrodd ei hun y Sadwrn nesaf pan fyddant yn gobeithio ennill ar eu tomen eu hunain ar Barc y Sacrlets am yr ail flwyddyn o’r bron.

Wedi’r gêm, dywedodd yr hyfforddwr buddugol Catrina Nicholas-McLaughlin: “Roedd yr amodau’n heriol iawn heddiw ond ‘rwy’n arbennig o falch gyda’r ffordd aeddfed a chyfrifol yr addasodd y merched i’r gwynt cryf. Mae’n rhaid i mi eu canmol hefyd am eu hymdrech er bod pawb yn gwybod bod gennym waith i’w wneud yr wythnos hon cyn teithio i Barc y Scarlets y Sadwrn nesaf.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gwalia Lightning yn rhy gryf i Brython Thunder
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gwalia Lightning yn rhy gryf i Brython Thunder
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gwalia Lightning yn rhy gryf i Brython Thunder
Rhino Rugby
Sportseen
Gwalia Lightning yn rhy gryf i Brython Thunder
Gwalia Lightning yn rhy gryf i Brython Thunder
Gwalia Lightning yn rhy gryf i Brython Thunder
Gwalia Lightning yn rhy gryf i Brython Thunder
Gwalia Lightning yn rhy gryf i Brython Thunder
Gwalia Lightning yn rhy gryf i Brython Thunder
Amber Energy
Opro
Gwalia Lightning yn rhy gryf i Brython Thunder