Neidio i'r prif gynnwys
Gwalia’n cael y gorau ar Brython am yr eildro mewn wythnos

Gwalia Lightning yn dathlu cais Maisie Davies.

Gwalia’n cael y gorau ar Brython am yr eildro mewn wythnos

Am yr eildro o fewn wythnos fe lwyddodd Gwalia Lightning i drechu Brython Thunder yn yr Her Geltaidd wrth i’r tîm o’r dwyrain guro’r menywod o’r gorllewin o 10-0 ar Barc y Scarlets.

Rhannu:

Er i Brython Thunder golli’n drwm o 42-22 yn Ystrad Mynach saith niwrnod yn gynharach – fe grëon nhw dri chyfle gwirioneddol yn ystod y cyfnod cyntaf – ond fe olygodd amddiffyn cadarn yr ymwelwyr – a gôl gosb Carys Hughes wedi 14 munud – mai Gwalia Lightning oedd ar y blaen o driphwynt wrth droi.

Sgoriwyd 10 o geisiau yng ngêm agoriadol y tymor rhwng y timau’r penwythnos diwethaf – ond dim ond un cais dystiwyd brynhawn Sadwrn a daeth hwnnw wedi 67 munud o chwarae wrth i’r prop Maisie Davies dirio’n gorfforol o dair metr – gan efelychu ei champ o groesi’r gwyngalch y penwythnos diwethaf.

Sgoriodd y maswr Carys Hughes 15 o bwyntiau yn Ystrad Mynach yn y gêm gyntaf gan sgorio cais a phum trosiad yn y broses a pharhau wnaeth ei record berffaith gyda’i throed y tymor hwn wrth iddi drosi cais Davies yn union o flaen y pyst.

Dechrau addawol Gwalia Lightning i’r tymor yn parhau felly gyda dwy fuddugoliaeth a phwynt bonws – sy’n eu codi i frig y tabl wedi dwy rownd o gemau – ond wedi dau benwythnos – stori wahanol yw hi o safbwynt Brython Thunder hyd yn hyn.

Maisie Davies groesodd am unig gais yr ornest.

Wedi’r chwiban olaf, dywedodd Seren y Gêm Maisie Davies: “Roedd gêm heddiw’n wahanol iawn i’r ornest yr wythnos ddiwethaf – ond fe ddangoson ni drefn a gwir gymeriad wrth amddiffyn y prynhawn ‘ma.

“Dwi’n mwynhau chwarae yn y rheng flaen ers i mi symud o’r rheng ôl – ac fe wnaeth fy nghyd-flaenwyr a phas Sian Jones fy ngwaith o groesi am fy nghais yn eithaf rhwydd.

“Mae cael gemau o safon fel hyn bob wythnos yn werthfawr iawn i’n datblygiad ac ‘roedd chwarae ar Barc y Scarlets heddiw’n brofiad arbennig.

“Roedd gennyf docyn tymor yma gyda fy Mamgu a Tadcu am rhyw saith tymor – ac felly ‘roedd chwarae yma ar Barc y Scarlets – heb sôn am sgorio cais ac ennill – yn brofiad gwych.”

Bydd Gwalia Lightning yn teithio i Ogledd Iwerddon i herio’r Clovers y penwythnos nesaf – a byddant yn ceisio talu’r pwyth am eu colled o bwynt yn unig yn eu herbyn y tymor diwethaf – tra taith heriol i Gaeredin sy’n wynebu Brython Thunder.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gwalia’n cael y gorau ar Brython am yr eildro mewn wythnos
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gwalia’n cael y gorau ar Brython am yr eildro mewn wythnos
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gwalia’n cael y gorau ar Brython am yr eildro mewn wythnos
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Gwalia’n cael y gorau ar Brython am yr eildro mewn wythnos