Cyflwynodd Tierney ganfyddiadau adolygiad manwl a phellgyrhaeddol i berfformiad tîm y dynion a rygbi ar y lefel uchaf yng Nghymru i Fwrdd URC ddydd Mawrth 17fed Rhagfyr.
Dywed Abi Tierney, sy’n cwblhau ei blwyddyn gyntaf yn ei swydd ym mis Ionawr, y bydd asesiad pellach o’r perfformiadau yn dilyn Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2025.
Bydd argymhellion allweddol yr adroddiad nawr yn cael eu rhoi ar waith, er mwyn rhoi’r cyfle gorau i garfan genedlaethol Cymru wella perfformiadau yn y dyfodol ac, yn bwysicaf oll well eu canlyniadau yn ystod y Bencampwriaeth:
- Yn gyntaf, gyda chefnogaeth Bwrdd URC, bydd y Prif Weithredwr yn adolygu’r strwythur perfformiad ar y lefel uchel yn URC ac yn gwneud y newidiadau angenrheidiol. (Mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Undeb Nigel Walker wedi cyhoeddi ei benderfyniad i ymddiswyddo heddiw *Gweler isod)
- Mae panel cynghori newydd sy’n mynd i edrych ar berfformiad ar y lefel uchaf yn mynd i gael ei greu a bydd ar waith yn y Flwyddyn Newydd. Bydd chwaraewyr amlwg yn rhan o’r panel hwn.
- Bydd addasiadau i’r strwythurau sy’n cynorthwyo Warren Gatland hefyd yn cael eu hystyried ar unwaith gyda’r uchelgais o wella meddylfryd a’r diwylliant o fewn y garfan drwy gyflwyno personél ychwanegol.
Bydd rhai newidiadau’n cael eu cyflwyno cyn y Chwe Gwlad gan gynnwys gwella’r cymorth mentora i chwaraewyr.
Bydd cylch gorchwyl a chyfansoddiad y panel perfformiad uchel newydd, a fydd yn dylanwadu ar y newid cadarnhaol hyn, yn datblygu dros gyfnod o amser, gyda chyn-hyfforddwyr a/neu unigolion elît o chwaraeon eraill o bosibl yn cael eu penodi.
Bydd y panel hefyd yn rhan annatod o’r newidiadau hirdymor i’r strwythur perfformiad uchel yn URC, newidiadau a fydd hefyd yn cael eu cynllunio i fod o fudd uniongyrchol i gêm y Menywod ar y lefel uchaf.
Bydd Huw Bevan, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Perfformiad dros dro, a’r Cyfarwyddwr Cymunedol, Geraint John, yn ymgymryd â dyletswyddau Nigel Walker yn y tymor byr gyda Chyfarwyddwr Rygbi Proffesiynol newydd i’w benodi / ei phenodi yn y Flwyddyn Newydd.
Mae Tierney yn cyfaddef bod elfennau o’r adolygiad yn anodd i’w darllen ond daeth y Bwrdd i’r penderfyniad mai herio eu Prif Hyfforddwr profiadol i gryfhau perfformiadau a chanlyniadau Cymru oedd y penderfyniad cywir i’w wneud.
Dywedodd Abi Tierney: “Rydym wedi asesu’r gwaith cynllunio a’r paratoi, a’r holl ddyletswyddau y mae’r hyfforddwyr yn gyfrifol amdanynt – yn ogystal â’r diwylliant o fewn y garfan, cadernid meddyliol y chwaraewyr, eu profiadau hyd yma a’u barn onest am y sefyllfa ar hyn o bryd.”
“Rydym wedi cynnwys arbenigedd a barn o ystod eang o ffynonellau uchel eu parch ac rydym wedi talu sylw i farn cefnogwyr hefyd oedd yn cadarnhau nad ydym yn perfformio i’n potensial ar hyn o bryd.
“Rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gonest iawn gyda Warren wrth i ni gynnal ein hadolygiad.
“Fel unrhyw brif hyfforddwr mewn unrhyw gamp, mae’n gwybod bod ei ddyfodol yn ddibynol ar berfformiadau a chanlyniadau.
“Mae her anodd o’n blaenau ond mae Warren yn fwy na pharod am yr her honno. Rydym hefyd yn credu y gall lwyddo yn y gwaith hwnnw.
“Yn ogystal, rydym hefyd yn cymryd camau i gryfhau’r tîm y tu ôl i’r tîm mewn ffordd ddylai gael effaith sylweddol a chadarnhaol cyn Pencampwriaeth 2025.”
Ychwanegodd Warren Gatland:
“Rwyf wedi bod yn eithaf gonest o ran croesawu cael fy herio, mae’n rhan o bwysau rygbi rhyngwladol.
“Rwy’n falch o gael cefnogaeth Abi a’r Bwrdd i arwain y garfan i’r Chwe Gwlad. Mae gan y grŵp hwn o chwaraewyr lawer iawn o botensial a byddwn yn gweithio’n anhygoel o galed gyda’n gilydd i wella pethau. Rydym yn gwybod y byddwn yn cael ein barnu am ba mor gystadleuol fyddwn ni a’n canlyniadau hefyd wrth gwrs.
“Yn ystod yr adolygiad cefais gyfle i ddweud fy nweud, ond rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’r adborth a’r her adeiladol a roddwyd i mi. Hoffwn ddiolch i’r chwaraewyr yn arbennig am eu cyfraniad a’u gonestrwydd. Rwy’n edrych ymlaen at yr her sydd o’n blaenau.”