Yn Brisbane ar ddydd Gwener y 26ain o Orffennaf a Sydney ar y 1af o Awst y bydd Menywod Cymru’n herio Awstralia a bydd yr ail ornest honno’n digwydd ar y noson cyn y trydydd prawf rhwng y Llewod a dynion Awstralia fydd hefyd yn Sydney.
Ar hyn o bryd mae Menywod Awstralia’n bumed ymhlith detholion y byd gyda Chymru’n y degfed safle.
Enillodd y Cymry eu gêm gystadleuol ddiwethaf pan drechwyd Japan o 19-10 yng nghystadleuaeth y WXV2 yn Ne Affrica fis Hydref.
Honno oedd ail fuddugoliaeth Menywod Cymru yn eu pedair gornest ddiwethaf ac o’r herwydd fe gadarnhaodd y garfan eu lle yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd 2025 fydd yn cael ei chynnal yn Lloegr.
Bydd Undeb Rygbi Awstralia’n cadarnhau union leoliadau ac amseroedd y ddwy gêm brawf yn y flwyddyn newydd.
O safbwynt y Chwe Gwlad, bydd gan Gymru ddwy gêm gartref yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Principality (29/3/24 am 4.45) ac Iwerddon yn Rodney Parade (20/4/24 am 3pm).
Dywedodd Hannah Jones, Capten Cymru: “Mae chwarae’n erbyn Awstralia wastad yn her a hanner ac mae’r gemau rhwng y ddau dîm yn ddiweddar wedi bod yn gystadleuol iawn.
“Mae’n buddugoliaeth gyntaf erioed yn eu herbyn yn Rodney Parade eleni yn bendant yn sefyll yn y cof – ond bydd chwarae ar eu tomen nhw yn dipyn o sialens – ac ‘ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at hynny.
“Bydd chwarae ddwywaith yn erbyn un o dimau gorau’r byd yn ein paratoi’n dda ar gyfer Cwpan y Byd yn Lloegr ym mis Awst a Medi’r flwyddyn nesaf.
“Mae pawb yn gwybod bod pobl Awstralia’n dwlu ar eu chwaraeon a bydd chwarae dwy gêm pan fydd sylw’r genedl wedi ei hoelio ar rygbi’r undeb, o ganlyniad i daith y Llewod, yn rhywbeth sbeshial iawn.
“Cyn y daith byddwn yn gobeithio magu’n hyder gyda pherfformiadau da’n y Chwe Gwlad ac fe fydd hynny’n ein gosod mewn lle da ar gyfer taith yr haf – ac yna’r gystadleuaeth fwyaf erioed yn hanes rygbi menywod.”
Gemau Prawf Cymru yn Awstralia 2025:
- Awstralia v Cymru, De Ddwyrain Queensland, Sadwrn 26 Gorffennaf
- Awstralia v Cymru, Sydney, Gwener 1