Neidio i'r prif gynnwys
Penodiad allweddol i’w wneud yn dilyn adolygiad y menywod

Penodiad allweddol i’w wneud yn dilyn adolygiad y menywod

Bydd Undeb Rygbi Cymru am wneud penodiad allweddol newydd ar gyfer gêm y Menywod yng Nghymru o ganlyniad i’r adolygiad a gynhaliwyd i archwilio’r prosesau trafodaethau cytundebau diweddar.

Rhannu:

Bydd y rôl newydd bwysig hon yn gyfrifol am reoli Prif Hyfforddwr tîm Menywod Cymru yn uniongyrchol, yn ogystal â gweithredu strategaeth gêm y Menywod a Merched ledled Cymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn aelod allweddol o dîm perfformiad uwch URC.

Disgwylir i’r penodiad gael ei wneud yn 2025 a bydd llu o newidiadau eraill yn cael eu gweithredu hefyd o ganlyniad i argymhellion yr adolygiad, gyda rhai newidiadau eisoes ar waith.

Cyhoeddwyd manylion yr adolygiad fis diwethaf yn dilyn rhywfaint o oedi yn dilyn derbyn adborth gwerthfawr gan chwaraewyr a chyfranogwyr eraill ar ôl ymgynghori ar ddrafft cyntaf yr adroddiad.

Cafodd carfan Menywod Cymru dros 30 o gytundebau proffesiynol llawn amser newydd ym mis Medi, gan eu gwneud yn gystadleuol gyda’r timau rhyngwladol gorau yn y byd.

Croesawyd y cytundebau newydd ond y ffaith bod y trafodaethau yn hirfaith a heriol cyn dod i gytundeb oedd prif destun yr adolygiad.

Cynhaliwyd yr adolygiad gan aelodau’r Bwrdd Alison Thorne (Cyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol) a Claire Donovan (aelod etholedig o’r Bwrdd ac Aelod o’r Cyngor Cenedlaethol) ar ran Bwrdd URC.

Ei brif argymhellion yw:

  • Penodi arweinydd newydd ar gyfer Gêm y Menywod sy’n gyfrifol am bob agwedd o’r gêm. Mae hon yn swydd o bwysigrwydd mawr sy’n gyfrifol am osod a gweithredu strategaeth a rheoli Prif Hyfforddwr Menywod Cymru yn uniongyrchol, gyda llinellau newydd a chlir o gyfrifoldebau i’w sefydlu ledled y tîm rheoli a’r strwythur perfformiad uchel yn URC.
  • Newidiadau i’r ffordd y mae trafodaethau’r dyfodol yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau tryloywder, gan hefyd alluogi cynrychiolaeth briodol i bawb trwy gydol y broses. Gall hyn olygu cymorth i’r chwaraewyr gan drydydd parti yn ystod trafodaethau a chydnabyddiaeth bod angen ystyried darpariaeth ar gyfer llwybr datblygu’r chwaraewyr yn y dyfodol hefyd.
  • Sicrhau bod chwaraewyr dan gytundeb yn cael eu trin fel gweithwyr sylfaenol URC, hyd yn oed pan fo cytundebau clybiau neu gyflogaeth arall hefyd yn berthnasol.
  • Asesu gwerthoedd a diwylliant yng ngharfan y Menywod, ailosod arferion gwaith proffesiynol a rhoi gwaith ymgysylltu ar waith (mae sesiynau ‘Codi Llais’ eisoes wedi dechrau) sy’n helpu i gefnogi llesiant meddyliol a chorfforol pob cydweithiwr
  • Parhau i feincnodi cynnydd URC yn erbyn cyrff llywodraethu eraill, timau arweinyddiaeth rygbi a rheoli perfformiad – gan barhau i esblygu yn seiliedig ar ddysgu a gweithredu arferion da o’r radd flaenaf.

“Mae’r adolygiad hwn wedi bod yn hynod addysgiadol a bydd ei argymhellion yn hyrwyddo gêm y Merched a’r Menywod yng Nghymru yn sylweddol,” . Dywedodd Prif Weithredwr URC, Abi Tierney.

“Mae’n bwysig nodi ein bod ymddiheuro ar ran URC am ein rhan yn ystod y trafodaethau hirfaith.

“Wrth ddod â materion i’n sylw ym mis Awst, mae ein chwaraewyr wedi bod yn allweddol wrth ein helpu i sefydlu ffordd newydd o gydweithio ac maen nhw wedi creu newidiadau a fydd yn talu ar eu canfed yn y dyfodol.

“Nid yw’r gwaith wedi’i gwblhau ond rydym yn hyderus ein bod bellach mewn lle da – a gyda phrif hyfforddwr newydd i’w benodi ym mis Ionawr, gall carfan genedlaethol Menywod Cymru edrych ymlaen at y Flwyddyn Newydd gyda brwdfrydedd a hyder.

“Ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau ac rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan am eu gonestrwydd a’u cyfraniadau adeiladol.

Mae URC wedi hysbysu’r Grŵp Goruchwylio am y datblygiadau ac yn disgwyl iddynt barhau i fod â diddordeb yn y newidiadau parhaus sydd ar waith.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Penodiad allweddol i’w wneud yn dilyn adolygiad y menywod
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Penodiad allweddol i’w wneud yn dilyn adolygiad y menywod
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Penodiad allweddol i’w wneud yn dilyn adolygiad y menywod
Rhino Rugby
Sportseen
Penodiad allweddol i’w wneud yn dilyn adolygiad y menywod
Penodiad allweddol i’w wneud yn dilyn adolygiad y menywod
Penodiad allweddol i’w wneud yn dilyn adolygiad y menywod
Penodiad allweddol i’w wneud yn dilyn adolygiad y menywod
Penodiad allweddol i’w wneud yn dilyn adolygiad y menywod
Penodiad allweddol i’w wneud yn dilyn adolygiad y menywod
Amber Energy
Opro
Penodiad allweddol i’w wneud yn dilyn adolygiad y menywod