Roedd ysgolion a cholegau lleol wedi heidio i’r Wern gan greu awyrgylch arbennig ac fe gawsant eu gwobrwyo gyda pherfformiad campus gan fechgyn ifanc Cymru.
Sgoriodd y Crysau Cochion ddau gais yn yr hanner cyntaf gyda rhyng-gipiad gan Steffan Emanuel yn cofnodi’r cais cyntaf cyn i’r cefnwr Scott Delnevo dirio’n hyderus yn y gornel. Cafodd y ddau gais eu trosi gan Harri Wilde i roi’r tîm cartref ary blaen o 14-0 ar yr egwyl.
Gyda’r ddau dîm yn achub ar y cyfle i roi amser ar y cae i nifer fawr o eilyddion wrth iddynt edrych ymlaen at Bencampwriaeth y Chwe Gwlad – fe lwyddodd Harry Rees-Weldon i ddal sylw’r dewiswyr wrth i’w rediad cryf arwain at drydydd cais Cymru yn y 50fed munud. Yn fuan wedi hynny Ryan Jones gafodd y wefr o dirio pedwerydd cais ei dîm.
Fe gafodd ymdrech a dyfalbarhad yr ymwelwyr ei wobrwyo wrth i Zander Mactaggart agor cyfrif yr Alban ar y noson cyn i Ross Wolfenden droi’r pum pwynt yn saith.
Ond y Cymry gafodd y gair olaf wrth i Evan Lloyd blymio am bumed cais ei dîm yn yr eiliadau olaf gan gadarnhau buddugoliaeth amserol a phwysig i fechgyn Richard Whiffin wrth iddynt edrych ymlaen at y Chwe Gwlad yn y flwyddyn newydd.
Yn ôl y disgwyl, ‘roedd Richard Whiffin, Prif Hyfforddwr tîm o dan 20 Cymru, wrth ei fodd:
“Roeddwn i’n falch iawn gyda’n perfformiad ar y cyfan gan ein bod ni wedi creu sefyllfaoedd da drwy’n gwaith caled cyson a hefyd gan ein bod wedi dangos elfennau creadigol campus ar adegau hefyd. Dyma’n union beth wnes i ofyn amdano cyn y gic gyntaf.
“Fe roddon ni bwysau cyson ar Yr Alban wrth ymosod ac amddiffyn – ac mae’r ffaith iddyn nhw gymryd cyfnod mor hir cyn croesi am eu hunig gais yn dangos bod gwaith caled ac ymdrech y bois wedi talu ar ei ganfed.
“Roeddwn i’n arbennig o falch gyda’r modd y dechreuon ni’r ornest – roedd y tempo a’r bwriad gan y ddau dîm y arbennig. Er mai ni oedd â’r rhanfwyaf o’r meddiant – fe wnaeth amddiffyn dewr yr Albanwyr i ni orfod gweithio’n galed iawn am ein ceisiau.
“Dim ond tair sesiwn hyfforddi lawn gafodd y garfan gyda’i gilydd ac felly ‘rwy’n fodlon iawn gyda pherfformiad a chanlyniad heno.”