Neidio i'r prif gynnwys
Tîm o dan 20 Cymru’n colli o drwch blewyn yn Yr Alban

Tîm o dan 20 Cymru’n colli o drwch blewyn yn Yr Alban

Wythnos wedi i dîm o dan 20 Cymru drechu’r Alban o 31-7 ym Merthyr, colli o drwch blewyn o 45-43 fu eu hanes yng Nghaeredin nos Wener.

Rhannu:

Er i gais Ieuan Cornelius agor y sgorio dros Gymru, Yr Alban reolodd yr hanner cyntaf gan sicrhau mantais sylweddol o 38-10 o ganlyniad i’w chwe chais. Ollie Blyth-Lafferty, Fergus Watson, Nairn Moncrief, Ollie McKenna a dau gais gan eu capten o ganolwr Johnny Ventisey sefydlodd eu mantais ac ail gais yr asgellwr Cornelius oedd unig sgôr arall yr ymwwelwyr cyn troi.

Gwelwyd gwelliant sylweddol, ym mherfformiad bechgyn Richard Whiffin yn union wedi’r egwyl a gwobrwywyd eu hymdrechion gyda chais y cefnwr Lewis Edwards. Yn dilyn ceisiau Ollie Das ac ail Ollie McKenna – ail-sefydlwyd mantais yr Albanwyr o 21 pwynt – ond wedi hynny traffig un ffordd oedd hi o blaid y Cymry tan yr eiliadau olaf.

Yn dilyn ceisiau y tri eilydd Gruff Watkins, Caio Parry a Harrison Bellamy, caewyd y bwlch i lawr i ddeubwynt – ond yn anffodus o safbwynt y Cymry – methu wnaeth ymdrech hwyr eilydd arall, Joe Cummings gyda chic gosb – olygodd mai’r tîm cartref hawliodd y fuddugoliaeth cyn gollwng ochenaid anferth o ryddhad wedi i’r Cymry daro’n ôl mor ddewr yn ystod yr ail hanner.

Yr Alban: 15. Jack Brown, 14. Nairn Moncrieff, 13. Johnny Ventisei (capten), 12. Kerr Yule, 11. Fergus Watson, 10. Matthew Urwin, 9. Noah Cowan; 1. Keita Ando, 2. Ollie McKenna, 3. Ollie Blyth Lafferty, 4. Dan Halkon, 5. Dylan Cockburn, 6. Christian Lindsay, 7. Billy Allen, 8. Oliver Finlayson-Russell.

Eilyddion: 16. Jamie McAughtrie, 17. Finlay McIntosh, 18. Jamie Stewart, 19. Bart Godsell, 20. Zander Mactaggart, 21. Robbie Baird, 22. Ross Wolfenden, 23. Guy Rogers, 24. Ryan Whitefield, 25. Mark Fyffe, 26. Alfie Hoyles, 27. Cameron Van Wyk, 28. Angus Hunter.

Cymru: 15. Lewis Edwards, 14. Ieuan Cornelius, 13. Osian Roberts, 12. Elis Price, 11. Ollie Das, 10. Harri Ford, 9. Logan Franklin; 1. Morgan Williams, 2. Lewis Jones, 3. Jac Pritchard, 4. Dylan Alford, 5. Dan Gemine, 6. Deian Gwynne (capten), 7. Caio James, 8. Keanu Evans.
Eilyddion: 16. Evan Wood, 17. Dylan James, 18. Harrison Bellamy, 19. Issac Godfrey, 20. Tom Cottle, 22. Joe Denman, 23. Harry Beddall, 24. Tudor Jones, 25. Charlie Rainbird, 26. Joe Cummins, 27. Gruff Watkins, 28. Osian Darwin-Lewis, 29. Arthur Moore, 30. Caio Parry.

Dyfarnwr: Rob McDowell

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm o dan 20 Cymru’n colli o drwch blewyn yn Yr Alban
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Tîm o dan 20 Cymru’n colli o drwch blewyn yn Yr Alban
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm o dan 20 Cymru’n colli o drwch blewyn yn Yr Alban
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Tîm o dan 20 Cymru’n colli o drwch blewyn yn Yr Alban