Bydd Huw Bevan, sydd ar hyn o bryd yn Gyfarwyddwr Perfformiad dros dro, a’r Cyfarwyddwr Cymunedol, Geraint John, yn ymgymryd â dyletswyddau Walker yn y tymor byr gyda Chyfarwyddwr Rygbi newydd i’w benodi / ei phenodi yn y Flwyddyn Newydd.
Ymunodd Walker ag Undeb Rygbi Cymru yn 2021 fel Cyfarwyddwr Perfformiad a chyflwynodd y cytundebau proffesiynol cyntaf i Fenywod Cymru yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Cymerodd y rôl Prif Weithredwr dros dro ym mis Ionawr 2023 a dychwelodd i’w rôl bresennol wedi i Abi Tierney gael ei phenodi ym mis Ionawr 2024.
Dywedodd Nigel Walker:”Nid ar chwarae bach y gwnaed y penderfyniad hwn gan fy mod wedi mwynhau fy amser yn Undeb Rygbi Cymru yn fawr, ond mae’n bryd cael arweinydd newydd i’r adran berfformio.
“Mae wedi bod yn gyfnod heriol ac rydym wedi cyflawni llawer iawn ond, yn y pen draw, mae’n iawn fy mod yn cael fy marnu ar berfformiadau ar y cae ac mae’r ddau dîm hŷn wedi profi 12 mis anodd.
“Mae’n rhaid nodi ein bod wedi lansio strategaeth newydd ar gyfer rygbi Cymru – a gyda chydweithrediad y pedwar rhanbarth yn ystod y broses o lunio Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) – mae pethau cadarnhaol am ddigwydd.
“Rydym yn newid strwythur rheoli ein tîm perfformiad gyda charfan Menywod Cymru, gyda phrif hyfforddwr newydd i’w benodi cyn bo hir. Yng ngêm y dynion, mae llawer o waith yn digwydd i gryfhau ein gobeithion o lwyddo ar y lefel uchaf o’r gamp.
“Bydd pob un o’r cynlluniau hyn yn ein helpu i sicrhau llwyddiant i rygbi Cymru ac rwy’n falch o’r cyfraniadau rwyf wedi’u wneud yn y cyd-destun hwnnw.
“Bydd rygbi Cymru yn ffynnu eto. Bydd yn gwneud hynny o ganlyniad i gryfder, angerdd a chymeriad y bobl sy’n gweithio yn URC a’r genedl sy’n cefnogi ein gêm genedlaethol mor ffyddlon. ‘Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael cyfle i gyfrannu at waith yr Undeb.
“Rwy’n falch o’r hyn yr wyf wedi ei gyflawni yn ystod fy nghyfnod amrywiol gydag Undeb Rygbi Cymru. Diolch i bawb o’m cydweithwyr a hoffwn hefyd roi sylw arbennig i’n cyn-gadeirydd Ieuan Evans. Yn naturiol hoffwn ddymuno pob llwyddiant i’n cadeirydd presennol Richard Collier-Keywood a’n Prif Weithredwr Abi Tierney yn y dyfodol hefyd.”
Ychwanegodd Abi Tierney: “Mae Nigel yn gadael rygbi Cymru gyda nifer o lwyddiannau nodedig i’w enw. Bydd ffrwyth ei lafur yn arwyddocaol ar gyfer ein llwyddiant yn y dyfodol. Rydym yn arbennig o falch o’r gwaith y mae wedi’i wneud dros y 12 mis diwethaf wrth sicrhau cyd-weithio agos rhwng yr adrannau perfformiad a chymunedol fydd yn profi ei werth yn ystod y blynyddoedd nesaf.
“Rydym yn ddiolchgar am ei gyfraniad ond rydym yn parchu ei benderfyniad i symud ymlaen a throsglwyddo’r awenau i arweinydd newydd.
“Bydd Nigel bob amser yn cael ei gofio am ei urddas wrth arwain yr Undeb trwy un o’i gyfnodau anoddaf.
“Mae hefyd wedi bod yn allweddol wrth drafod cytundeb newydd gyda’r rhanbarthau Cymreig.
“Mae’n rhaid hefyd cofio pa mor allweddol oedd Nigel wrth gynnig y cytundebau proffesiynol cyntaf erioed i garfan ein Menywod ddwy flynedd yn ôl ac mae wedi cyfrannu’n sylweddol at ddatblygiad cyflym a phroffesiynol camp y menywod yma yng Nghymru.
“Rydym yn dymuno’n dda i Nigel ar gyfer y dyfodol ac yn diolch iddo am ei ymroddiad a’i wasanaeth i’n campau cenedlaethol.”