Blaenasgellwr y Gweilch Jac Morgan sydd wedi ei ddewis yn gapten.
Mae Josh Adams, Elliot Dee, Taulupe Faletau, Dafydd Jenkins, Joe Roberts a Liam Williams yn dychwelyd i’r garfan wedi i anafiadau eu hatal rhag chwarae yng Nghyfres yr Hydref.
Mae dau o chwaraewyr sydd heb ennill cap hyd yn hyn wedi eu dewis ar gyfer yr ymgyrch – sef maswr y Gweilch Dan Edwards ac asgellwr y Scarlets Ellis Mee.
Mae wyth o chwaraewyr eraill – sydd eto i gynrychioli Cymru yn y Chwe Gwlad – wedi eu cynnwys hefyd, gan gynnwys Ellis Bevan, Josh Hathaway, Eddie James, Blair Murray a Freddie Thomas enillodd eu capiau cyntaf yn ystod 2024.
Mae’r prop pen tynn WillGriff John a’r bachwr Sam Parry wedi cael eu galw’n ôl i’r garfan – sydd ag oedran cyfartalog o 26.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland: “Ry’n ni wedi dewis carfan sydd â chydbwysedd a chyfuniad o brofiad a thalent ifanc hefyd.
“Mae gan y grŵp yma lawer iawn o addewid a byddwn yn gweithio hyd eitha’n gallu yn ystod yr ymgyrch hon. Mae’r Chwe Gwlad yn gystadleuaeth arbennig iawn – sy’n llawn angerdd – a bydd hynny’n bendant yn wir wrth i ni deithio i Ffrainc ar gyfer ein gêm gyntaf eleni.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael y bechgyn at ei gilydd yr wythnos nesaf. Bydd pob sesiwn ymarfer unigol yn bwysig iawn yn ein paratoadau ar gyfer her y Ffrancod. Bydd y bechgyn yn gorfod gweithio’n arbennig o galed a dangos eu bod yn gweithio gyda’i gilydd ymhob agwedd o’r ymarfer.
“Yn anffodus, bydd nifer o chwaraewyr yn siomedig nad ydyn nhw wedi cael eu cynnwys yn y garfan y tro yma – ond fy neges syml i’r unigolion hynny yw – parhewch i weithio’n galed rhag ofn bod pethau’n newid cyn neu yn ystod y Bencampwriaeth.”
Bydd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 yn dechrau’n swyddogol nos Wener yr 31ain o Ionawr pan fydd Cymru’n teithio i Ffrainc, cyn i garfan Warren wedyn deithio i herio’r Eidal y Sadwrn canlynol.
Bydd y Cymry wedyn yn croesawu Iwerddon i Gaerdydd yn nhrydedd rownd y gemau cyn teithio i Murrayfield bythefnos wedi hynny i herio’r Alban. Bydd ymgyrch Cymru yn y Bencampwriaeth yn dod i ben ar y 15ed o Fawrth pan fydd ‘Yr Hen Elyn’, Lloegr yn ymweld â Stadiwm Principality.
CARFAN CYMRU AR GYFER PENCAMPWRIAETH CHWE GWLAD GUINNESS 2025
Blaenwyr (19)
Keiron Assiratti (Caerdydd – 10 cap)
James Botham (Caerdydd – 16 chap)
Elliot Dee (Dreigiau – 51 cap)
Taulupe Faletau (Caerdydd – 104 cap)
Dafydd Jenkins (Caerwysg – 19 cap)
WillGriff John (Sale Sharks – 2 gap)
Evan Lloyd (Caerdydd – 5 cap)
Kemsley Mathias (Scarlets – 5 cap)
Jac Morgan (Gweilch – 15 cap)
Sam Parry (Gweilch – 7 cap)
Tommy Reffell (Caerlŷr – 23 chap)
Will Rowlands (Racing 92 – 36 chap)
Nicky Smith (Caerlŷr – 49 cap)
Gareth Thomas (Gweilch – 35 cap)
Freddie Thomas (Caerloyw – 1 cap)
Henry Thomas (Scarlets – 4 cap)
Christ Tshiunza (Caerwysg – 15 cap)
Aaron Wainwright (Dreigiau – 52 cap)
Teddy Williams (Caerdydd – 2 gap)
Olwyr (15)
Josh Adams (Caerdydd – 59 cap)
Ellis Bevan (Caerdydd – 6 chap)
Dan Edwards (Gweilch – heb gap)
Josh Hathaway (Caerloyw – 2 gap)
Eddie James (Scarlets – 3 chap)
Ellis Mee (Scarlets – heb gap)
Blair Murray (Scarlets – 3 chap)
Joe Roberts (Scarlets – 2 gap)
Tom Rogers (Scarlets – 5 cap)
Ben Thomas (Caerdydd – 7 cap)
Nick Tompkins (Saraseniaid – 38 cap)
Owen Watkin (Gweilch – 42 cap)
Liam Williams (Saraseniaid – 92 cap)
Rhodri Williams (Dreigiau – 5 cap)
Tomos Williams (Caerloyw – 59 cap)