Neidio i'r prif gynnwys
Chwe newid i Brython i wynebu’r Wolfhounds

Natalia John fydd y capten unwaith eto.

Chwe newid i Brython i wynebu’r Wolfhounds

Mae Brython Thunder wedi enwi eu tîm ar gyfer eu taith i wynebu’r Wolfhounds ym Mhumed Rownd yr Her Geltaidd yn Nulyn ddydd Sadwrn (18fed o Ionawr 1.30pm).

Rhannu:

Y Gwyddelod yw’r Pencampwyr presennol a bydd talcen caled yn wynebu carfan Ashley Beck wedi iddynt golli’r drwm yn erbyn y Wolfhounds ar Barc y Scarlets y penwythnos diwethaf.

Wrth edrych am eu buddugoliaeth gyntaf o’r Bencampwriaeth y tymor hwn mae Beck wedi gwneud chwe newid, gan gynnwys tri o ran safle, ar gyfer yr ornest ar Faes y Sioe yn Nulyn.
Natalia John fydd yn arwain am y pumed tro o’r bron a bydd clo o dan 20 Cymru, Robyn Davies yn ymuno gyda’i chapten yn yr ail reng.
Mae’r olwr rhyngwladol Niamh Terry’n symud o safle’r maswr i fod yn gefnwr sy’n cynnig y cyfle i faswr tîm o dan 20 Cymru, Hanna Marshall, i wisgo’r crys rhif 10. Mae Seren Singleton yn parhau’n fewnwr.

Ar yr asgell fydd Hannah Lane y penwythnos hwn a’r canolwyr fydd Ellie Tromans a Hannah Bluck. Nid oedd Meg Webb ar gael i’w hystyried o ganlyniad i gyfrifoldebau gyda’i gwaith.

Evie Gill sydd wedi ei dewis yn fachwr ac mae Finley Jones yn cael ei chyfle ar ochr dywyll y rheng ôl.

Dywedodd Ashley Beck, Prif Hyfforddwr Brython Thunder: “Ry’n ni’n gwybod bod gennym fynydd i’w ddringo’r penwythnos yma wrth wynebu’r Pencampwyr ar eu tomen eu hunain.
“Mae’n tîm ni eleni’n un ifanc ac arbrofol ac ‘ry’n ni wedi dysgu llawer iawn amdanon ni’n hunain yn ystod y gemau agoriadol – yn ogystal â gofynion a safon Yr Her Geltaidd.

“Fel chwaraewyr a hyfforddwyr ‘ry’n ni’n realistig am safon y Wolfhounds gan eu bod yn llawn o chwaraewyr rhyngwladol. Ein nod ni fydd canolbwyntio ar ein perfformiad ein hunain gan barhau i gryfhau a gwella o wythnos i wythnos.”

Tîm Brython Thunder
Niamh Terry, Hannah Lane, Ellie Tromans, Hannah Bluck, Eleanor Hing, Hanna Marshall, Seren Singleton; Lowri Williams, Evie Gill, Katie Carr, Robyn Davies, Natalia John (Capten), Finley Jones, Lucy Isaac, Jess Rogers
Eilyddion: Poppy Hughes, Stella Orrin, Elan Jones, Kira Philpott, Anna Stowell, Ffion Davies, Gabby Healan, Amy Williams

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Chwe newid i Brython i wynebu’r Wolfhounds
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Chwe newid i Brython i wynebu’r Wolfhounds
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Chwe newid i Brython i wynebu’r Wolfhounds
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Chwe newid i Brython i wynebu’r Wolfhounds