News

Cyfeillgarwch yn cael ei osod o’r neilltu am 80 munud

Harry Thomas

Mae’r blaenwyr rheng flaen Harry Thomas ac Isaac Young fel arfer yn chwarae gyda’i gilydd yn Academi’r Scarlets – ond fe fyddan nhw’n wynebu ei gilydd yn Llanymddyfri heno. (7.30pm).

Thomas fydd yn arwain tîm o dan 20 Cymru yn erbyn yr Academïau Rhanbarthol – fydd yn cynnwys Young. Ni chwaraeodd yr un o’r ddau yn yr ornest gyfatebol y penwythnos diwethaf ar Barc yr Arfau pan enillodd carfan Richard Whiffin o 42-21.

Fe enillodd y prop Isaac Young chwe chap o dan 20 yn nhymor 2022/23 ond er ei fod yn gymwys y tymor diwethaf hefyd – golygodd anaf difrifol i’w droed iddo golli’r Bencamperiaeth yn llwyr.

Mae’r bachwr cydnerth Thomas wedi arwain tîm o dan 18 Cymru’n y gorffennol ac mae wedi cynrychioli y tîm o dan 20 mewn deg gêm ryngwladol.

Mae maes Banc yr Eglwys yn gyfarwydd iawn i Harri Thomas gan ei fod yn chwarae dros Lanymddyfri yn Super Rygbi Cymru a bu’n aleod o garfan y clwb y tymor diwethaf enillodd Uwch Gynghrair Indigo a’r Cwpan hefyd.

Dywedodd Harry Thomas: “Mae pobl Llanymddyfri’n caru eu rygbi ac ‘rwy’n gobeithio y bydd torf dda yno i wylio’r gêm. Byddai hynny’n ychwanegu at y cyffro a’r achlysur hefyd.

“Rwyf wedi cael y fraint o arwain Coleg Sir Gâr a thîm o dan 18 y Scarlets yn y gorffennol ond bydd hi’n eiliad arbennig arwain y tîm o dan 20 i faes Banc yr Eglwys.

“Mae hi’n mynd i fod yn ornest galed a chorfforol – ac mae’r ddwy gêm yn erbyn yr Academïau’n baratoad gwych cyn i ni deithio i Vannes i herio Ffrainc ar y cyntaf o Chwefror yn ein gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

“O safbwynt gêm heno – mae’n rhaid i ni fod yn fwy clinigol wrth gymryd ein cyfleoedd ac hefyd yn ardal y dacl – ond yn y pendraw y canlyniad yn Vannes – nid canlyniad heno sydd fwyaf pwysig.”

Mae Thomas a Young wedi wynebu ei gilydd yn barod y tymor hwn wrth i Lanymddyfri drechu Cwins Caerfyrddin yn Super Rygbi Cymru – a gobaith Harry Thomas yw gallu ail-adrodd y profiad hwnnw heno ar Fanc yr Eglwys.

Related Topics

Newyddion
News