Ganed Roberts ym mhentref hanesyddol Abergwyngregyn yng ngogledd Cymru ym mis Medi 1934 ond symudodd gyda’i deulu i Gaerdydd pan oedd yn blentyn ifanc.
Aeth i Ysgol Uwchradd Caerdydd ac fe gynrychiolodd Ysgolion Cymru am y tro cyntaf yn y fuddugoliaeth o 14-8 yn erbyn Ffrainc ym 1952. Sgoriodd gais wrth i’r tîm guro Lloegr o 8-0 o flaen torf o dros 30,000 y flwyddyn ganlynol cyn curo’r Saeson eto o 8-3 yng Nghaerlŷr y flwyddyn ganlynol.
Wedi iddo ymuno â Chaerdydd fe gynrychiolodd y clwb 226 o weithiau dros gyfnod o wyth mlynedd gan sgorio 56 o geisiau. Fe chwaraeodd yn erbyn De Affrica ym 1960 a Seland Newydd ym 1963.
Hawliodd ei gap cyntaf dros ei wlad yn nhymor 1960/61 pan enillodd y Springboks o 3-0 mewn tywydd ofnadwy. Ddiwrnod wedi’r gêm – fe orlifodd yr afon Taf gan foddi’r cae ar Barc yr Arfau.
Fe dalodd Roberts y pwyth i Dde Affrica yng ngêm olaf y daith pan gynrychiolodd y Barbariaid am yr unig dro. Sicrhawyd buddugoliaeth o 6-0 sef unig golled tîm Avril Malan o’r daith.
Enillodd ei gapiau eraill dros Gymru:
– 1961: Buddugoliaethau gartref dros Loegr (6-3) ac Iwerddon (9-0) a’r ddwy golled oddi cartref yn erbyn Yr Alban (3-0) a Ffrainc (8-6)
– 1962: Colled o 8-3 yng Nghaerdydd yn erbyn yr Albanwyr a buddugoliaeth gartref o 3-0 yn erbyn Ffrainc.
– 1963: Colli o 14-6 yn erbyn Caerdydd yn erbyn Iwerddon.
Yn ystod ei wyth gêm dros Gymru fe gafodd Meirion Roberts 7 partner gwahanol yng nghanol y cae. Enillodd ei gap cyntaf yn erbyn De Affrica gyda Denis Evans. Cyril Davies ei gyd-ganolwr gyda Chaerdydd oedd ar ei ysgwydd yn y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd. Gordon Britton, David Thomas, Haydn Mainwaring, Ken Jones (ddwywaith ym 1962) a Ron Jones oedd ei gyd-ganolwyr rhyngwladol eraill.
Priododd â Margaret ym 1958 a buont yn byw ger Llyn Parc y Rhath am flynyddoedd lawer.
Hugh Meirion Roberts: Cap Rhif 658 (8 cap). G. 11 Medi 1934 yn Abergwyngregyn; M. 6 Ionawr 2025 yng Nghaerdydd.