Neidio i'r prif gynnwys
Dau gais arall i Emanuel wrth i dîm o dan 20 Cymru guro’r Academïau eto

Pedwar cais mewn wythnos i'r prop Ioan Emanuel.

Dau gais arall i Emanuel wrth i dîm o dan 20 Cymru guro’r Academïau eto

Am yr eildro o fewn wythnos fe sgoriodd y prop Ioan Emanuel ddau gais wrth i dîm o dan 20 Cymru guro’r Academïau Rhanbarthol.

Rhannu:

Fe enillodd tîm Richard Whiffin o 28-24 ar Fanc yr Eglwys yn Llanymddyfri – wythnos wedi iddyn nhw drechu tîm dethol yr Academïau o 42-21 ar Barc yr Arfau yng Nghaerdydd.

Hon oedd gêm baratoadol olaf y bechgyn o dan 20 cyn iddynt deithio i Vannes i herio Ffrainc ar y cyntaf o Chwefror yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Croesodd Emanuel am ei gais cyntaf wedi saith munud yn unig cyn i ganolwr Sale, Osian Roberts fanteisio ar gic ddeallus Ellis Price i ymestyn eu mantais.

Wedi dau drosiad Harri Ford, ‘roedd bwlch o 14 pwynt rhwng y timau – cyn i wythwr Glyn Ebwy a’r Dreigiau Owen Conquer groesi am gais cyntaf o bedwar yr Academïau.

‘Roedd Emanuel yn ei chanol hi am weddill y cyfnod cyntaf – gan iddo hawlio’i ail gais o’r noson a gweld cerdyn melyn hefyd – wedi i’r sgrym ddod o dan bwysau cyson.

Manteisiwyd ar ei absenoldeb wrth i fewnwr y Gweilch Lucca Settaro gwblhau symudiad effeithiol i’w gwneud hi’n 21-12 wrth droi.

Er i’r Academïau gael y gorau ar bethau o ran y sgôr wedi troi – fe lwyddodd y tîm o dan 20 ddal gafael ar eu mantais a sicrhau’r fuddugoliaeth.

Bachwr y Scarlets Isaac Young a’i eilydd Tomoya Adachi groesodd dros yr Academïau ond yn y pendraw ‘roedd cais cofiadwy asgellwr y Dreigiau, Harry Rees-Weldon, gyda 10 munud ar ôl yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth i garfan Richard Whiffin – sydd bellach wedi troi eu golygon tuag at herio Ffrainc ymhen pythefnos.

Sgorwyr: Cymru D20: Ceisiau: Ioan Emanuel 2, Osian Roberts, Harry Rees-Weldon; Tros: Harri Ford 2, Harri Wilde. Academïau: Ceisiau: Owen Conquer, Lucca Setaro, Isaac Young, Tomoya Adachi; Tros: Josh Phillips 2

Cymru D20: Lewis Edwards (Gweilch); Aidan Boshoff (Bryste); Osian Roberts (Sale), Elis Price (Scarlets), Ieuan Cornelius (Gweilch); Harri Ford (Dreigiau), Carwyn Edwards (Sale); Ioan Emanuel (Caerfaddon), Harry Thomas (Scarlets, capten), Owain James (Dreigiau), Nick Thomas (Dreigiau), Kenzie Jenkins (Bryste), Arthur Moore (Caerfaddon), Ryan Jones (Dreigiau), Evan Minto (Dreigiau)
Eilyddion: Morgan Williams (Dreigiau), Lewis Jones (Cwins Caerfyrddin), Jac Pritchard (Scarlets), Dylan Alford (Scarlets), Tom Cottle (Rygbi Gogledd Cymru), Harry Beddall (Caerlŷr), Sion Davies (Caerdydd), Harri Wilde (Caerdydd), Osian Darwin-Lewis (Caerdydd), Iori Badham (Scarlets)

Academïau Rhanbarthol: Sam Potter (Dreigiau); Jac Davies (Scarlets), Iestyn Gwilliam (Cwins Caerfyrddin), Gabe McDonald (Scarlets), Macauley Rowley (Penybont); Josh Phillips (Abertawe), Lucca Setaro (Scarlets); Freddie Chapman (Gweilch), Isaac Young (Scarlets), Joe Cowell (Caerdydd, capten), Ben Roberts (Gweilch), Ilan Evans (Rygbi Gogledd Cymru), Evan Rees (Caerdydd), Charlie Probert (Rygbi Gogledd Cymru), Owen Conquer (Dreigiau)
Eilyddion: Tomoya Adachi (Dreigiau), Harry Olding (Penybont), Paddy Nelson (Rygbi Gogledd Cymru), Ethan Phillips (Caerdydd), Kobi Rees (Glyn Ebwy), Rhodri Lewis (Scarlets), Fraser Jones (Caerdydd), Gabe Lacey (Penybont), Cori Lewis-Jenkins (Gweilch), Kodi Stone (Caerdydd)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Dau gais arall i Emanuel wrth i dîm o dan 20 Cymru guro’r Academïau eto
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Dau gais arall i Emanuel wrth i dîm o dan 20 Cymru guro’r Academïau eto
Dau gais arall i Emanuel wrth i dîm o dan 20 Cymru guro’r Academïau eto
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Dau gais arall i Emanuel wrth i dîm o dan 20 Cymru guro’r Academïau eto
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Dau gais arall i Emanuel wrth i dîm o dan 20 Cymru guro’r Academïau eto