Bydd y digwyddiad eiconig hwn – sef y dathliad hiraf a mwyaf o rygbi proffesiynol yng Nghymru yn dychwelyd i Stadiwm Principality wrth i’r Gweilch herio Caerdydd a’r Dreigiau wynebu’r Scarlets ddydd Sadwrn y 19eg o Ebrill.
Yn ogystal â bod yn ddiwrnod pwysig ar y maes – bydd hefyd yn achlysur i’r teulu cyfan felly byddwch yno!
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Mae Dydd y Farn yn gonglfaen bwysig o rygbi Cymru a bydd y degfed pen-blwydd yn ddathliad pwysig a chofiadwy.
“Bydd yr awyrgylch yn Stadiwm Principality’n wefreiddiol unwaith yn rhagor gan bod cefnogwyr ein pedwar clwb proffesiynol mor llafar ac angerddol. ‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu pawb i gartref rygbi Cymru fis Ebrill ar gyfer diwrnod bythgofiadwy o rygbi.”
Bydd y tocynnau’n mynd ar werth i’r cyhoedd am 10am ddydd Mercher yr 22ain o Ionawr. Gall deiliaid tocynnau tymor gysylltu gyda’u rhanbarthau unigol er mwyn cael y manylion am sut i sichau eu seddi.
Bydd nifer cyfyngedig o Docynnau Cynnar ar gael – gyda’r 5,000 tocyn cyntaf yn haen isaf y Stadiwm ar gael am £10 yn unig – bargen a hanner i wylio’r ddwy gêm!
Bydd gostyngiad arbennig o 50% hefyd ar gael i bobl ifanc o dan 18 oed, y rheiny dros 60 oed a myfyrwyr – ar docynnau categori A a B. Ni fydd hyn yn berthnasol ar gyfer y Tocynnau Cynnar.
Gan bo’n clybiau cymunedol wrth galon ein gêm – bydd y clybiau llawr gwlad yn rhanbarthau’r Gweilch a’r Dreigiau, sy’n gwerthu’r nifer fwyaf o docynnau – yn cael y fraint o groesawu’r timau i faes y Principality ar y 19eg o Ebrill.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Gweilch, Mark Jones: “Mae Dydd y Farn wastad yn un o uchafbwyntiau’r tymor rygbi gan bo cefnogwyr y timau’n dod at ei gilydd i greu achlysur arbennig. ’Ry’n ni’n edrych ymlaen at ornest heriol a chlos arall yn erbyn Caerdydd.”
Nododd Filo Tiatia, Prif Hyfforddwr Dros Dro y Dreigiau: “Mae Dydd y Farn yn achlysur pwysig iawn i ni gan fod pawb yn dod at ein gilydd yn y Brifddinas. Bydd cymryd rhan yn y dathliadau deng mlwydd oed – heb sôn am herio’r Scarlets – yn ei wneud yn ddiwrnod arbennig iawn.”
Ychwanegodd Matt Sherratt, Prif Hyfforddwr Caerdydd: “Mae wastad yn achlysur a hanner – yn enwedig yn Stadiwm Principality – gan ei fod yn un o leoliadau chwaraeon gorau’r byd. Mae’n wych hefyd gweld chwaraewyr gorau Cymru’n mynd ben-ben â’i gilydd.”
Dywedodd Dwayne Peel, Prif Hyfforddwr y Scarlets: “Mae Dydd y Farn wastad yn gyfle gwych i ni ddangos y gorau o’r hyn sydd gan rygbi Cymru i’w gynnig ac mae bod yn ôl yn Stadiwm Principality’n mynd i roi awch ychwnegol i’r diwrnod a’r gemau – yn enwedig i’r rheiny sydd heb eto brofi’r wefr o chwarae yno.
“Ry’n ni wedi cael gornestau difyr yn erbyn y Dreigiau ar Ddydd y Farn yn y gorffennol – a bydd y gêm hon yr un mor bwysig wrth i ni geisio cyrraedd gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth Rygbi Unedig.”
Gwybodaeth am Ddydd y Farn 2025.
Gweilch v Caerdydd, Sadwrn 19 Ebrill, Stadiwm Principality 15:00PM
Dreigiau v Scarlets, Sadwrn 19 Ebrill, Stadiwm Principality 17:30PM
Categori A – £35 / £17.50 consesiynau. Categori B £25 / £12.50 consesiynau
Bydd Tocynnau Hygyrch ar gael ar yr un pryd â’r Tocynnau Cynnar. Dylai deiliaid tocynnau tymor gysylltu â’u clybiau a dylai pawb arall gysylltu â WRU.WALES/TICKETS.
Mae URC bellach yn gweithio gyda Nimbus Disability, gan ddefnyddio eu Cerdyn Mynediad Hygyrch er mwyn cynnig gwell profiad ar ddiwrnod gêm.
Lletygarwch
Profiadau arbennig ar gael o £245 + TAW WRU.WALES/VIP