Bydd y ddwy gêm ar Barc yr Arfau (10/1/25) a Llanymddyfri (17/1/25) yn gyfle i ambell chwaraewr sy’n rhy hen i gynrychioli’r tîm o dan 20 erbyn hyn, i ddangos yr hyn sydd ganddyn nhw i’w gynnig hefyd – ac mae maswr Abertawe, Josh Phillips yn un o’r rheiny.
Fe gynrychiolodd Phillips y tîm o dan 20 bedair gwaith gan gyd-chwarae gyda Joe Hawkins, Cam Winnett, Mason Grady, Dafydd Jenkins, Mackenzie Martin a Christ Tshiunza, sydd i gyd wedi ennill capiau llawn bellach.
Dywedodd y maswr 22 oed: “Mae’r gemau hyn yn gyffrous i’r rheiny ohonom sy’n chwarae yn Super Rygbi Cymru ac er nad ydym wedi cael llawer o amser i ymarfer gyda’n gilydd, mae pethe’ wedi dechrau dod at ei gilydd.
“Mae gennym garfan yn llawn talent ac mae’n gyfle arall i chwaraewyr fel Nathan Evans a fi i ddangos bod gennym rywbeth i’w gynnig o hyd.
“Efallai nad ydym wedi bod yn rhan o’r carfanau rhanbarthol yn ddiweddar – ond ry’n ni’n bendant eisiau ennill y gemau hyn gan obeithio y bydd y ddwy ornest yn gyffrous ac o safon uchel.
“Dy’n ni heb gael y tymor gorau hyd yn hyn yn Abertawe – ond fe lwyddon ni i ennill o’r diwedd yn erbyn Aberafan yn ddiweddar sydd wedi rhoi tipyn o hyder i ni. Rwy’n dal i fwynhau fy rygbi yno gan bod gennym garfan a staff hyfforddi sy’n gweithio dros ein gilydd.”