Neidio i'r prif gynnwys
Gwalia Lightning eisiau cael y gorau ar Glasgow

Gwalia Lightning eisiau cael y gorau ar Glasgow

Colli fu hanes y Cymry am y tro cyntaf y tymor hwn yn Belfast y penwythnos diwethaf ond bydd carfan Catrina Nicholas-McLaughlin yn obeithiol o guro Glasgow – sydd yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf nhw o’u hymgyrch.

Rhannu:
Bydd Gwalia Lightning yn gobeithio sicrhau eu trydedd buddugoliaeth allan o bedair yn yr Her Geltaidd wrth iddyn nhw groesawu Glasgow i Ystrad Mynach ddydd Sul am 1pm.

Mae Bryonie King yn dychwelyd i arwain y tîm – sy’n cynnwys pedwar newid a dau ychwanegol o ran safle.

Fydd dim newid yn y pum blaen am y trydydd tro o’r bron ac mae Sian Jones a Carys Hughes wedi eu dewis yn haneri.

Mae Courtney Greenway yn symud o safle’r cefnwr i’r asgell sy’n cynnig y cyfle i Rhodd Parry wisgo’r crys rhif 15.

Nid yw Catherine Richards ar gael i’w hystyried gan ei bod yn ymarfer gyda charfan 7 Bob Ochr Prydain ac nid yw’r wythwr Gwennan Hopkins ar gael chwaith yn dilyn asesiad anaf i’w phen.

Dywedodd Catrina Nicholas-McLaughlin, Prif Hyfforddwr Gwalia Lightning: “Bydd Glasgow’n hyderus wedi i ni golli’n gêm yn Belfast y penwythnos diwethaf ond mae hwn yn gyfle i ni ddangos a chofio pa mor dda y gallwn ni fod.

“Er bod gennym ambell un sydd ddim ar gael i ni – mae’n gyfle i nifer o’r merched eraill i brofi safon yr Her Geltaidd ac hefyd i ddal ein sylw ni fel tîm hyfforddi a phrofi eu bod yn haeddu eu lle ar y llwyfan yma.”

Gwalia Lightning (yn erbyn Glasgow)

Rhodd Parry, Caitlin Lewis, Carys Williams-Morris, Molly Anderson-Thomas, Courtney Greenway, Carys Hughes, Sian Jones; Maisie Davies, Molly Reardon, Jenni Scoble, Lily Terry, Alaw Pyrs, Katherine Baverstock, Paige Jones, Bryonie King (capten)

Eilyddion: Molly Wakely, Dali Hopkins, Cana Williams, Erin Jones, Lottie Buffery-Latham, Seren Lockwood, Anwen Owen, Lowri Davies.

Tocynnau’n £10 i oedolion a mynediad am ddim i rai o dan 16 neu fyfyrwyr gyda cherdiau myfyrwyr perthnasol.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gwalia Lightning eisiau cael y gorau ar Glasgow
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Gwalia Lightning eisiau cael y gorau ar Glasgow
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gwalia Lightning eisiau cael y gorau ar Glasgow
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Gwalia Lightning eisiau cael y gorau ar Glasgow