Hon oedd gêm gyntaf y canolwr rhyngwladol profiadol Kerin Lake dros y Cymry ac mae pedwaredd buddugoliaeth Gwalia Lightning o’u pum gornest yn y cynghrair y tymor hwn wedi eu codi o fewn pwynt yn unig i’r Wolfhounds ar y brig.
Byddai’r Prif Hyfforddwr Catrina Nicholas-McLaughlin wedi gobeithio am ddechrau da gan ei thîm – ond wedi dau funud yn unig fe ddawnsiodd y canolwr Shona Campbell heibio gormod o ymdrechion i’w thaclo – i dirio’r cyntaf o bum cais y tîm cartref.
Bu ond y dim i Campbell hawlio’i hail gais o’r prynhawn o fewn y 10 munud agoriadol – ond llwyddodd amddiffyn arwrol yr ymwelwyr ei rhwystro rhag tirio’r bêl.
Fe enillodd Alaw Pyrs ei chap cyntaf dros Gymru yn Stadiwm Hive fis Medi’r llynedd ac wedi 16 o funudau – ei bylchiad, hyrddiad a’i phas hi roddodd rwydd hynt i Lily Terry dirio o dan y pyst. Wedi i Carys Hughes drosi’n hawdd, ‘roedd y crysau gleision ar y blaen.
Gyda chwarter awr o’r cyfnod cyntaf yn weddill, fe gafodd Bryonie King a’i thîm gyfle am driphwynt hawdd yng nghysgod y pyst – ond mentro am y saith pwynt oedd y penderfyniad. Fe dalodd hynny ar ei ganfed wrth i’r bachwr Molly Wakely blymio dros y gwyngalch gan wneud gwaith Carys Hughes o ychwanegu’r ddeubwynt yn hynod syml.
Ond dim ond deubwynt oedd mantais yr ymwelwyr wrth droi gan i brif sgoriwr ceisiau y Bencampwriaeth eleni, Hannah Walker gofnodi ei chweched cais o’r tymor a gan i Lucia Scott hollti’r pyst gyda’r trosiad.
Fe roddodd hynny hunan-gred a momentwm i’r tîm cartref ac wedi 12 munud o’r ail hanner ‘roedd sgarmes symudol Caeredin yn rhy gryf o lawer i’w gwrthwynebwyr – ac wedi i’r bachwr Aila Ronald godi o waelod y pentwr cyrff, ‘roedd yr Albanwyr ar y blaen.
Dim ond am dri munud y parodd y flaenoriaeth honno – gan i eilydd Gwalia Lightning Gwennan Hopkins ddangos ei chryfder hi i gyrraedd y llinell gais – gan ail sefydlu mantais yr ymwelwyr o ddeubwynt.
Yn anffodus, dim ond am bum munud yn unig y llwyddodd y Cymry i gadw’u trwynau ar y blaen – gan i Cieron Bell fanteisio ar chwarae blêr yng nghanol y cae – i hawlio pwynt bonws i’w thîm – gan ei gwneud hi’n brif sgoriwr ceisiau’r tymor ar y cyd gyda’i chyd-asgellwr Hannah Walker.
O fewn y cyfnod o chwe munud wedi hynny, ‘roedd cic gosb Carys Hughes wedi gwneud y sgôr yn gyfarfal ac ‘roedd Hannah Walker – nid yn unig wedi rhoi Caeredin ar y blaen am y pedwerydd tro’n ystod y prynhawn – ond hefyd wedi codi ei chyfanswm ceisiau uwchben Cieron Bell unwaith eto.
Alaw Pyrs lusgodd Gwalia Lightning at eu buddugoliaeth yn erbyn Glasgow bythefnos yn ôl – a hi ysbrydolodd y fuddugoliaeth hwyr hon yng Nghaeredin hefyd. Bedwar munud cyn y diwedd – fe ddaeth hi â’r sgôr yn gyfartal – hawlio pwynt bonws – a gosod y trosiad ar blât i Carys Hughes.
Fe wnaeth y maswr ei gwaith yn hyderus gan roi Gwalia ar y blaen am y trydydd tro’n ystod yr ornest.
Er i Gaeredin bwyso’n gyson a bygythiol yn ystod amser yr amen – amlygwyd amddiffyn dygn yr ymwelwyr eto olygodd mai Gwalia Lightning hawliodd y fuddugoliaeth glos a chofiadwy hon.
Canlyniad: Caeredin 27 Gwalia Lightning 29
Bydd gan Gaeredin gyfle buan i dalu’r pwyth pan fyddant yn teithio i Ystrad Mynach y Sadwrn nesaf.
Wedi’r ornest fe ddywedodd Seren y Gêm Alaw Pyrs: “Fe weithion ni’n galed iawn eto heddiw ac fe ddangoson ni gymeriad a thechneg wrth eu hatal rhag tirio gyda’r symudiad olaf un.
“Da ni wedi gweithio ar ein hamddiffyn ac mi rydan ni’n cyfathrebu’n well efo’n gilydd erbyn hyn ac mae hynny’n dangos yn ein perfformiadau.
“Mi rydan ni’n eu chwarae nhw eto’r penwythnos nesaf ac mae ganddon ni dipyn o waith i’w wneud yn ystod yr wythnos – os ydan ni am eu curo nhw eto.”
Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Gwalia Lightning Catrina Nicholas-McLaughlin;” Rwy’n arbennig o falch o’r holl garfan heddiw. Mae’r canlyniad a’r pwynt bonws yn wych wrth gwrs ac ‘ry’n ni’n dechrau creu cystadleuaeth ym mhob safle ar y maes.
“Roedd ein hamddiffyn a’n disgyblaeth yn yr agwedd honno o’r chwarae wedi fy mhlesio’n fawr.
“Doedd dim llawer o wahaniaeth rhwng y timau heddiw – fel mae’r sgorfwrdd yn ei awgrymu – ond ‘ry’n ni’n amlwg yn mynd adref yn hapus iawn ac yn edrych ymlaen yn fawr at eu croesawu nhw aton ni’r penwythnos nesaf.”